Pethau i feddwl amdanyn nhw
Labelu
Beth wnewch chi pan fyddwch am gael gwybod o ble mae cynnyrch yn dod, sut cafodd ei wneud, neu a gafodd y gweithwyr eu talu’n iawn? Edrych ar y label wrth gwrs! Yma rydyn ni’n esbonio pa labeli y caiff cwmnïau eu defnyddio, gan gynnig cynghorion o ran logos i chwilio amdanyn nhw.
Gall enw’r wlad wreiddiol ymddangos ar rai cynhyrchion ond nid ar gynhyrchion tebyg gan weithgynhyrwchwyr eraill. Y rheswm am hyn yw nad oes rheidrwydd cyfreithiol i gwmnïau ddangos ble caiff eu cynhyrchion eu gwneud. Ceir rhai eithriadau (er enghraifft, mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol bod rhai cynhyrchion bwyd yn dangos y wlad wreiddiol), ond at ei gilydd mater i’r gweithgynhyrchydd yw penderfynu enwi’r wlad wreiddiol ar gynnyrch neu beidio.
Caiff rhai cynhyrchion eu marcio’n rheolaidd ag enw’r wlad lle cawsant eu gwneud. Mae gan yr Alban enw da am gynhyrchu chwisgi o ansawdd uchel ac felly bydd y mwyafrif o gynhyrchwyr chwisgi’r Alban yn gosod ‘Made in Scotland’ ar eu cynhyrchion. Mae gan ddur Sheffield enw da hefyd fel deunydd o ansawdd uchel ac felly fe welwch chi farc ‘Sheffield steel’ ar gyllell a ffyrd a chynhyrchion dur eraill os yw’r gweithgynhrchyd dyn credu bod ansawdd yn ffactor o bwys yn y ffordd y bydd defnyddwyr yn dewis cynhyrchion.
Mae nifer o gynlluniau diwydiant ar waith lle mae marciau tarddiad yn holl-bwysig. Mae marciau ‘British Turkey Quality Mark’ a ‘Laid in Britain’ (i gynhyrchwyr wyau) yn ddwy enghraifft yn y sector bwyd. Mae’r cynlluniau hyn yn ddewisol hefyd, felly yma eto gall rhai cynhyrchion ddangos y marc ac eraill ddim.
Mae’r Ddeddf Disgrifiadau Masnach yn ei gwneud yn dramgwydd troseddol i fasnachwr roi disgrifiad masnach camarweiniol ar ei nwyddau, ac mae hyn yn cynnwys datganiadau anwir neu gamarweiniol ynghylch ble y cafodd rhywbeth ei wneud.
Labelu moesol a labelu masnach deg
Mae ‘masnachu moesol’ yn golygu bod cwmnïau wrthi’n ceisio sicrhau bod hawliau llafur sylfaenol gweithwyr eu cyflenwyr yn y trydydd byd yn cael eu parchu. Mae’n cyfeirio at y cwmnïau yn hytrach na’r cynhyrchion.
Mae nwyddau ‘masnach deg’ yn golygu bod cynhyrchwyr yn cael pris rhesymol sydd o leiaf yn bodloni gwir gost y cynhyrchu, er gwaethaf amrywiadau ym mhrisiau cynwyddau’r byd.
Mae yna Fenter Masnach Deg (ETI) sy’n anelu at adnabod a hybu masnach foesol. Mae’n ceisio sicrhau bod amodau gweithio’r gweithwyr sy’n cynhyrchu bwydydd i farchnad y DU yn bodloni safonau rhyngwladol neu’n well na nhw.
Bydd yr ETI yn canolbwyntio ar ddysgu yn hytrach nag ardystio neu labelu, a’i diben yw rhannu profiad.
Labeli masnach deg
Mae cynhyrchion sy’n dangos marc Masnach Deg yn bodloni safonau a gafodd eu gosod gan gorff rhyngwladol o’r enw Fairtrade Labelling Organisations International. Bydd y marc hwn yn gwarantu bod y cynnyrch yn cydymffurfio â safonau masnach deg ac yn cyfrannu at ddatblygiad cynhyrchwyr dan anfantais.
Mathau eraill o label ‘gwyrdd’
Os ydych chi’n pryderu am yr amgylchedd, hwyrach y byddwch am chwilio am gynhyrchion sy’n peri llai o niwed i’r ecoleg. Ond nid yw pob honiad gwyrdd fel mae’n ymddangos.
Peidiwch â chael eich twyllo gan dermau fel ‘gwyrdd’ neu ‘yn parchu’r ecoleg’ os nad yw cwmnïau’n egluro beth maen nhw’n ei olygu wrth y termau hynny. Hefyd, dydy’r ffaith bod rhywbeth wedi ei ddangos mewn inc gwyrdd neu’n defnyddio lluniau o goed a blodau ddim yn golygu bod y cynnyrch o angenrheidrwydd yn parchu’r amgylchedd yn fwy.
Yr esboniadau gorau yw’r rhai sy’n gwneud honiadau penodol, fel ‘yn cynnwys 70% o bapur wedi’i ailgylchu’.
Mae’r Ecolabel Ewropeaidd yn gynllun labeli gwyrdd gwirfoddol sy’n cael ei redeg gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn y DU. Cafodd ei sefydlu gan y Comisiwn Ewropeaidd ym 1992 a’i nod yw annog busnesau i ddatblygu cynhyrchion sy’n llai niweidiol i’r amgylchedd, yr un pryd â helpu defnyddwyr i’w hadnabod. Mae’r cynllun yn gymwys i 23 o wahanol fathau o gynhyrchion, o setiau teledu a thecstilau i lanedyddion a phaent.
Yr hyn y gallwch chi ei wneud fel defnyddiwr
- Os ydych chi am brynu nwyddau masnach deg, chwiliwch am y marc masnach deg. Heb hwnnw, does dim gwarant bod y cynhyrchwyr wedi cael chwarae teg.
- Os oes gennych chi ddiddordeb mewn siopa gwyrdd, osgowch brynu nwyddau sy’n cynnwys gormod o ddeunydd pacio ac yn arwain at greu mwy o wastraff.
- Ceisiwch brynu nwyddau sydd wedi’u pacio mewn defnyddiau sy’n gallu cael eu hailgylchu, fel gwydr yn hytrach na phlastig.
- Dylai unrhyw gynhyrchydd sy’n gwneud honiad ‘gwyrdd’ fod yn hapus i’w egluro i chi, felly gallwch bob amser ysgrifennu atyn nhw i holi.

