Ewch yn syth i'r cynnwys

Pethau i feddwl amdanyn nhw

Mae codau ymarfer yn bwysig am eu bod yn eich helpu i sicrhau eich bod chi, y defnyddiwr, yn cael bargen deg gan gwmni y gellir ymddiried ynddo. Ar y tudalen yma fe welwch chi wybodaeth am y cynlluniau sydd ar waith drwy’r DU i gyd.

Back to top

Beth yw cynlluniau masnachwyr diogel yr awdurdodau lleol?

Mae llawer o’r awdurdodau lleol yn rhedeg cynlluniau ar gyfer masnachwyr diogel. Nod y cynlluniau yma yw cynnig ffordd ddibynadwy i ddefnyddwyr ddod o hyd i fusnesau lleol y gallan nhw ymddiried ynddyn nhw.

Bydd y busnesau sy’n ymuno â’r cynlluniau’n cael eu cynorthwyo a’u hybu gan Wasanaethau Safonau Masnachu yr awdurdod lleol, yn gyfnewid am addo y byddan nhw’n bodloni eu rhwymedigaethau cyfreithiol ac yn trin eu cwsmeriaid yn deg.

Mae’r mwyafrif o’r cynlluniau wedi datblygu ar wahân i’w gilydd, ac maen nhw’n amrywio o ran manylion eu gwaith. Ond mae pob cynllun sy’n aelod o Rwydwaith Cynlluniau Masnachwyr Diogel yr Awdurdodau Lleol (LAATSN) yn rhannu’r nodau cyffredin canlynol:

  • Cynnig ffordd ddibynadwy i ddefnyddwyr ddod o hyd i fusnesau y gallan nhw ymddiried ynddyn nhw
  • Cynnig ffynhonnell cymorth a chyngor os aiff rhywbeth o’i le
  • Galluogi busnesau lleol i ddangos eu bod wedi cytuno i ddilyn safonau cenedlaethol

Back to top

Beth yw Rhwydwaith Cynlluniau Masnachwyr Diogel yr Awdurdodau Lleol?

Fel amddiffynnwr cenedlaethol Gwasanaethau Masnachu Teg yr awdurdodau lleol, mae’r Swyddfa Masnachu Teg (OFT) yn cynnal rhwydwaith o gynlluniau awdurdodau lleol ar gyfer masnachwyr diogel, sef cynlluniau sy’n bodloni safonau y cytunwyd arnyn nhw yn genedlaethol.

Nod Rhwydwaith Cynlluniau Masnachwyr Diogel yr Awdurdodau Lleol yw dod â mwy o gysondeb i gynlluniau lleol, a hybu gwerth cynlluniau lleol ymhlith y rhai sy’n debyg o gael y fantais fwyaf ohonyn nhw – defnyddwyr a busnesau lleol.

Sut mae’r Rhwydwaith yma yn wahanol i gynlluniau cenedlaethol eraill?

Mae rhoi pŵer i ddefnyddwyr er mwyn iddyn nhw wneud dewisiadau gwybodus wrth brynu nwyddau a gwasanaethau yn nod cyffredin ar draws y llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol. Felly, mae yna sawl cynllun sydd wedi’u bwriadu i helpu defnyddwyr.

Mae pob un o’r cynlluniau’n ceisio codi safonau busnes a hybu hyder defnyddwyr. Felly, p’un o’r cynlluniau canlynol fydd o gymorth i chi wrth ichi ddewis ble i wario’ch arian?

Back to top

Cynllun Cymeradwyo Codau Defnyddwyr

Mae logo cod sydd wedi’i gymeradwyo gan yr OFT yn golygu bod busnes wedi llofnodi cod ymarfer sydd wedi’i gymeradwyo gan yr OFT, a’i fod wedi cytuno i ddarparu:

  • Gwasanaeth da i gwsmeriaid
  • Gweithdrefnau effeithiol ar gyfer ymdrin â chwynion
  • Cynllun iawndal annibynnol am gost isel os na allwch chi ddatrys eich anghydfod gyda busnes sy’n aelod o’r cynllun.

Dim ond i godau sy’n bodloni meini prawf yr OFT ac sy’n cynnig lefelau uwch o wasanaeth cwsmeriaid nag y mae’r gyfraith yn gofyn amdanyn nhw y bydd y logo yn cael ei roi.

Gweler www.oft.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.



Back to top

Trustmark

Mae TrustMark yn gynllun newydd sy’n cael ei gefnogi gan yr Adran Masnach a Diwydiant, cyrff masnach a grwpiau defnyddwyr i helpu pobl i ddod o hyd i fasnachwyr dibynadwy sydd ag enw da i wneud gwaith trwsio, cynnal a gwella y tu mewn i’w cartrefi a’r tu allan.

Mae TrustMark yn un logo i chwilio amdano ar gyfer yr holl brif grefftau. Gall y logo gael ei ddyfarnu i ffyrmiau gan weithredwr cynllun sydd wedi’i gymeradwyo gan TrustMark, ond mae’n rhaid iddyn nhw gydymffurfio â safonau sydd wedi’u hategu gan y Llywodraeth, ynglŷn â chymhwysedd technegol a gwasanaeth da i gwsmeriaid.

Dysgwch ragor yn www.trustmark.org.uk

Back to top

Rhwydwaith Cynlluniau Masnachwyr Diogel yr Awdurdodau Lleol

Mae hwn yn cysylltu cynlluniau sy’n cael eu rhedeg gan Wasanaethau Safonau Masnach yr awdurdodau lleol ac sydd at ei gilydd yn denu masnachwyr a busnesau annibynnol, bach, lleol.

Er bod pob cynllun yn wahanol, maen nhw i gyd yn anelu at gydategu Cynllun Cymeradwyo Codau Defnyddwyr yr OFT a Trustmark, gan roi pwyslais cryf ar wasanaeth i ddefnyddwyr.

Nid pob cynllun yn y Rhwydwaith sy’n gallu cynnig amddiffyniad estynedig, megis diogelu blaendaliadau ac iawndal annibynnol, ond gallwch fod yn dawel eich meddwl bod y busnesau sy’n aelodau o’r cynllun yn mynd drwy broses annibynnol a diduedd o ran gwneud cais a chael eu monitro gan Wasanaeth Safonau Masnach eu hawdurdodau lleol.

Pwy sydd ar ei ennill drwy’r Rhwydwaith yma?

Mae defnyddwyr ar eu hennill am fod cynlluniau lleol yn c

ytuno i dderbyn safonau cenedlaethol ynglŷn â gofal i gwsmeriaid.

Gall eich cyngor lleol ddweud a ydyn nhw’n aelod o’r cynllun neu beidio, neu edrychwch ar www.oft.gov.uk  i gael rhagor o wybodaeth.

 


"Nôl i'r brig

Did you know

Os prynwch nwyddau ffug ac nac ydynt yn cwrdd â’ch disgwyliadau, ni chewch unrhyw wasanaeth gwerthu na gwarant, Y pethau ffug mwyaf cyffredin yw dillad dyluynwyr, watshis, persawr, DVDs ac alcohol.

Rhagor o Wybodaeth >