Ewch yn syth i'r cynnwys

Pethau i feddwl amdanyn nhw

Darllenwch ein canllaw sy’n llawn gwybodaeth am gredyd. Mae’n esbonio’r gwahaniaeth rhwng arian parod a chredyd ac yn rhoi cyngor am sut i wneud cais am gredyd, a beth i’w wneud os cewch eich gwrthod.

I gael rhagor o wybodaeth am fenthyg arian, gweler Arian a Chredyd

Back to top

Credyd neu arian parod?

Mae pawb yn gwybod manteision defnyddio credyd:

  • Os oes arnoch angen rhywbeth ar frys, gallwch ei gael ar unwaith
  • Gallwch rannu cost eitem fawr dros gyfnod o amser.

Yr anfanteision yw:

  • Yn y tymor hir mae fel arfer yn costio mwy a hynny am fod rhaid i chi wneud ad-daliadau, ac am fod y cyfanswm yn fwy na’r swm a gawsoch i’w fenthyca
  • Os bydd eich amgylchiadau’n newid, er enghraifft, os collwch chi’ch swydd, efallai na fydd modd ichi dalu’r ad-daliadau.
  • Mae’n hawdd gwario mwy na’r swm roeddech chi’n bwriadu ei wario, a cholli rheolaeth ar eich cyllid.

Manteision talu ag arian parod yw:

  • Efallai y gallwch chi drafod i sicrhau gostyngiad.
  • Hyd yn oed heb ostyngiad, mae’n debyg y byddwch yn talu llai yn y pen draw am na fydd dim llog na ffioedd eraill i’w talu.
  • Fydd dim rhaid ichi boeni am dalu ad-daliadau.

Cofiwch:

  • Ceisiwch beidio â phrynu ar fympwy am eich bod wedi gweld cynnig arbennig neu ostyngiad.
  • Chwiliwch o le i le i gael y fargen orau. Allwch chi brynu hyn am bris llai, neu gael credyd rhatach gan siop, catalog neu fenthyciwr arall?
  • Cyfrifwch wir gost prynu ar gredyd ac edrychwch ar yr APR. Beth yw’r pris mewn arian parod a faint yn rhagor y bydd rhaid imi ei dalu drwy dalu mewn rhandaliadau?
  • Peidiwch â chodi benthyciad am fwy o amser nag y mae ei angen. Pa mor gyflym y gallwch chi dalu’r cyfan yn ôl a beth yw’r swm mwyaf y gallwch fforddio ei ad-dalu bob mis?
  • Edrychwch ar eich cyllideb er mwyn cael gwybod faint yn union y gallwch fforddio ei ad-dalu. Os bydd rhywbeth annisgwyl yn codi, er enghraifft os bydd angen trwsio’r car, neu os bydd angen esgidiau newydd ar y plant, fyddwch chi’n dal yn gallu talu’r ad-daliadau?
  • Darllenwch y print mân yn ofalus iawn cyn ichi lofnodi! I beth yn union rydych chi’n cytuno?

Applying for loans and credit

Back to top

Gwneud cais am fenthyciadau a chredyd

Efallai y bydd benthyciwr yn gofyn ichi roi’ch cartref yn warant ar gyfer benthyciad. Meddyliwch yn ofalus iawn cyn gwneud hyn. Os bydd eich incwm yn gostwng yn annisgwyl, fe allech chi fethu talu’ch ad-daliadau a cholli’ch cartref.

Cyn iddyn nhw adael ichi fenthyg eu harian, bydd y benthycwyr am sicrhau eich bod yn debyg o’i dalu’n ôl. Byddan nhw’n gofyn i asiantaeth cyfeirio credyd wneud ymholiadau amdanoch cyn iddyn nhw benderfynu rhoi credyd ichi neu beidio.

Bydd y benthyciwr yn gofyn ichi lenwi ffurflen i wneud cais am y credyd ac wedyn cewch chi sgôr gredyd, wedi’i seilio ar eich atebion.

Os yw’r benthyciwr yn credu’ch bod chi’n sgorio’n uchel, fe gewch chi’r benthyciad neu’r credyd. Os na fydd eich sgôr yn ddigon uchel, caiff eich cais ei wrthod.

Byddwch yn ennill pwyntiau am eich oedran, eich incwm ac am fod yn berchennog ar eich cartref. Gallai’r wybodaeth amdanoch sydd gan yr asiantaeth gredyd effeithio ar eich sgôr. Er enghraifft, efallai y bydd ganddyn nhw gofnod o unrhyw ddyledion sydd heb eu talu. Y benthyciwr, nid yr asiantaeth, sy’n penderfynu rhoi’r credyd neu beidio. Fe allech chi lwyddo gydag un benthyciwr ond nid un arall.

Back to top

Ydy’ch cofnod credyd yn gywir?

Os ydych chi’n credu bod benthyciad, cerdyn credyd neu gytundeb credyd wedi’i wrthod ichi oherwydd eich cofnod credyd gydag asiantaeth, gallwch gael golwg ar yr wybodaeth amdanoch sydd ganddyn nhw.

Os oedd arnoch eisiau credyd ar gyfer hyd at £25,000, cewch ofyn i’r benthyciwr a’ch gwrthododd roi enw a chyfeiriad unrhyw asiantaeth cyfeirio credyd a roddodd wybodaeth amdanoch chi os byddwch yn ysgrifennu at y benthyciwr cyn pen 28 diwrnod ar ôl eich cysylltiad diwethaf ynghylch y trefniant credyd. Os defnyddiodd y benthyciwr asiantaeth gredyd, mae’n rhaid iddo roi enw a chyfeiriad yr asiantaeth ichi o fewn saith diwrnod gwaith ar ôl cael eich llythyr.

Mae tair prif asiantaeth gredyd yn y DU, sef:

Callcredit plc
PO Box 491
Leeds LS3 1WZ
Ffôn: 0870 060 1414

Experian Limited
Y Gwasanaeth Cymorth Defnyddwyr
PO Box 8000
Nottingham NG1 5GX
Ffôn: 0870 241 6212

Equifax plc
PO Box 1140
Bradford
BD1 5US
Ffôn: 0870 514 3700


Gallwch ysgrifennu atyn nhw ar unrhyw adeg i ofyn am gael gweld yr wybodaeth amdanoch chi sydd ganddyn nhw. Gallwch archebu copi o’ch ffeil hefyd ar-lein a thros y ffôn gan Equifax ac Experian, ar yr amod bod gennych chi naill ai cerdyn credyd neu gerdyn debyd yn eich enw chi’ch hun.

  • Os ysgrifennwch chi, fe fydd angen ichi:
  • Anfon ffi (sef isafswm o £2 fel arfer, ond mae’n dibynnu ar yr asiantaeth)
  • Rhoi’ch enw llawn, eich dyddiad geni, eich cyfeiriad a’ch cod post
  • Cynnwys unrhyw gyfeiriadau eraill lle buoch yn byw yn y chwe blynedd diwethaf
  • Rhoi enw a chyfeiriad eich busnes os ydych yn unig fasnachwr neu’n bartneriaeth, oherwydd fe allai fod gan yr asiantaeth wybodaeth amdanoch o dan yr enw hwnnw.

Cadwch gopïau o unrhyw lythyrau y byddwch yn eu hanfon.

Rhaid i’r asiantaeth ateb o fewn saith diwrnod gwaith er mwyn:

  • Gofyn am ragor o wybodaeth gennych i’w helpu i ddod o hyd i’ch ffeil, neu
  • Ddweud nad oes ganddi ffeil amdanoch chi, neu
  • Anfon y ffeil atoch.

Newid eich ffeil

Cewch ofyn i’r asiantaeth newid yr wybodaeth yn eich ffeil os yw honno’n anghywir, neu os yw’n cynnwys manylion am bobl sydd heb gysylltiad ariannol â chi.
Chewch chi ddim trefnu dileu gwybodaeth dim ond am ei bod yn peri embaras.
Os oes arnoch angen rhagor o gyngor am ddelio ag asiantaethau credyd, cysylltwch â Llinell Wybodaeth y Comisiynydd Gwybodaeth ar 01625 545 745.


 


"Nôl i'r brig

Did you know

I fod yn gyfran amser, rhaid i ddefnyddiwyr dreulio cyfnod penodol (ond heb fod yn llai nag wythnos) mewn eiddo gwyliau bob blwyddyn am dair blynedd neu fwy.

Rhagor o Wybodaeth >