Ewch yn syth i'r cynnwys

Cynghorion ar gyfer prynu ar-lein

Cyn ichi brynu ar-lein, darllenwch ein cynghorion er mwyn sicrhau eich bod yn ddiogel a’ch bod yn sicrhau’r pris gorau.

Mae llawer o'r cynghorion ar siopa ar y rhyngrwyd yr un fath â phe baech yn prynu gan siop, er enghraifft:

  • Siopwch o le i le. Efallai fod y fargen arbennig wych yna ar gael rywle arall hefyd – yn rhatach.
  • Defnyddiwch fanwerthwyr a gwasanaethau rydych chi’n gwybod amdanyn nhw¬ neu rai sydd wedi'u hargymell yn bersonol i chi.

Ond mae yna bethau eraill i'w cofio hefyd wrth siopa ar lein:

  • Efallai fod gan y cwmni wefan wych, ond dydy hynny ddim yn golygu eu bod yn parchu'r gyfraith.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod cyfeiriad llawn y masnachwr – yn enwedig os yw eu canolfan y tu allan i'r DU. Mae’r rhyngrwyd yn golygu ei bod yn hawdd prynu o wledydd tramor, felly mae’n bwysig gwybod eich hawliau.
  • Peidiwch â chymryd yn ganiataol fod cwmni rhyngrwyd wedi'i leoli yn y DU dim ond am fod eu cyfeiriad gwe yn cynnwys ‘uk’ – holwch am y cyfeiriad ffisegol a'r rhif ffôn.
  • Cymerwch gostau cludiant i ystyriaeth. Cymharwch y costau hyn â’r costau parcio a theithio y byddai’n rhaid ichi eu talu pe baech chi’n mynd i siopa yn y stryd fawr. 
  • Er bod siopa ar wefannau dros y môr yn gymharol ddiogel, fe allai fod yn anodd gorfodi’ch contract pe bai rhywbeth yn mynd o’i le. Os yw’r eitem neu’r gwasanaeth yn fwy na £100, yna ystyriwch dalu â cherdyn credyd. 
  • Chwiliwch am wefannau sy'n defnyddio dull diogel o dalu (sy'n cael ei alw'n gyfleuster amgryptio) - mae'r rhain yn dangos llun clo ar waelod y sgrin pan fyddwch yn llenwi'r manylion talu.
  • Edrychwch i weld a oes gan y cwmni ddatganiad preifatrwydd sy'n dweud beth y bydd yn ei wneud â'ch gwybodaeth bersonol.

Chwiliwch am gwmnïau sy’n rhan o gynllun cymeradwyo annibynnol fel TrustUK. Dyma gwmnïau sydd wedi cytuno i ddilyn safonau penodol. Mae’r rhain yn cynnwys mesurau i wneud y canlynol:

  • Gwarchod eich preifatrwydd.
  • Sicrhau bod eich taliadau’n ddiogel.
  • Gadael ichi wybod beth rydych chi wedi cytuno iddo.
  • Dweud wrthych chi sut i ganslo archebion.
  • Dod â nwyddau atoch neu gyflawni gwasanaethau o fewn amserlen rydych chi wedi cytuno arni.
  • Diogelu plant.
  • Datrys cwynion – ble bynnag y bôch yn byw.

Sylwch: Mae llawer o wahanol gynlluniau ar gael ledled y byd i gymeradwyo masnachwyr – felly gofynnwch beth yw ystyr eu cymeradwyaeth benodol nhw.

 


"Nôl i'r brig

Did you know

Os gwelwch chi nam ar eitem drydan yn y misoedd cyntaf ar ôl ei phrynu, dylech fynd nôl at y manwerthwr a’i gwerthodd i chi (nid at y gweithgynhyrchydd).

Rhagor o Wybodaeth >