Ewch yn syth i'r cynnwys

Siopa’n ddiogel

Mae’r rhyngrwyd a theledu digidol ar gael yn fwy ac yn fwy cyffredin ac erbyn hyn felly mae’n haws byth ac yn gynt siopa heb adael y tŷ. Ond fel defnyddiwr, dylech ofalu o hyd wrth dalu am nwyddau a gwasanaethau.

Back to top

Cyn ichi brynu

  • Nodwch fanylion cysylltu y cwmni, gan gynnwys cyfeiriad stryd a rhif ffôn ar linell ddaearol. Peidiwch byth â dibynnu ar gyfeiriad e-bost neu flwch swyddfa’r post yn unig.
  • Dylech gofio hefyd y gall fod rhaid ichi dalu am gostau cludiant, tollau mewnforio, TAW, etc. Mae’r costau cudd hyn i gyd yn gallu cynyddu pris y nwyddau neu’r gwasanaeth.  Dylai fod yn ddigon clir os oes disgwyl ichi dalu unrhyw gostau ychwanegol a dylai TAW fod wedi’i chynnwys ym mhob pris sy’n cael ei ddyfynnu.

Back to top

Talu am nwyddau ar-lein

Fe allai fod yn werth talu â cherdyn credyd. Os yw cost y nwyddau neu’r gwasanaethau rydych chi wedi’u prynu yn fwy na £100 a’ch bod wedi talu â cherdyn credyd, mae’n bosibl eich bod wedi’ch diogelu gan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr. Mae honno’n dweud bod y cwmni cerdyn credyd yr un mor atebol am unrhyw ddiffygion. Oherwydd hynny, os bydd problem yn codi, cewch wneud cais yn erbyn y masnachwr neu’r cwmni cerdyn credyd.
Er mwyn i’r diogelwch yma fod yn gymwys, sylwch fod rhaid i bris y contract fod yn fwy na £100. Er enghraifft, os ydych chi wedi prynu siwt, a’r siaced yn costio £75 a’r trowsus yn costio £40, fe fydd diogelwch ar gael ichi. Ond, os ydych chi wedi prynu’r ddwy eitem ar wahân yn hytrach nag fel un siwt, fydd yr un diogelwch ddim ar gael ichi, a hynny am nad yw’r naill eitem na’r llall wedi costio mwy na £100.
Mae problemau’n gallu codi pan fydd pencadlys y cwmni sydd wedi gwerthu ichi y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd. Er enghraifft, efallai na fydd gwarant yn ddilys yn y DU, neu efallai na fydd y nwyddau’n gweithio yn y DU. Er bod eich contract yn dod o dan gyfraith y DU, yn ymarferol fe allai fod yn anodd iawn sicrhau arian yn ôl gan gwmni sydd â phencadlys dros y môr.

Cynghorion da

  • Gwnewch yn siŵr fod cyfeiriad gwe y tudalen yn dechrau ag https:// cyn ichi roi unrhyw wybodaeth bersonol neu fanylion talu. Mae’r ‘s’ yn sefyll am ‘secure’. Hefyd, fe ddylech weld llun clo bach ar waelod eich sgrin.
  • Argraffwch gopi o’ch archeb bob tro a chopi o’r gydnabyddiaeth y dylech ei chael.
  • Edrychwch yn ofalus ar eich cyfriflen banc bob amser os prynwch chi rywbeth ar y rhyngrwyd.
  • Ddylai neb byth ofyn ichi roi rhif PIN eich cerdyn – hyd yn oed os ydyn nhw’n honni eu bod oddi wrth eich banc neu’r heddlu. Peidiwch byth ag anfon eich rhif PIN at neb dros y rhyngrwyd.

Back to top

Beth i’w wneud os aiff rhywbeth o’i le

  • Os prynwch chi nwyddau ar y rhyngrwyd, mae’r un hawliau gennych â phe baech chi wedi siopa ar y stryd fawr, o ran nwyddau diffygiol neu nwyddau sydd wedi’u disgrifio’n wael.
  • Ar ben hynny, mae gennych hawl i gael cyfnod ailfeddwl o saith diwrnod gwaith

Back to top

Ocsiynau rhyngrwyd

Mae gwefannau ocsiynau ar y rhyngrwyd yn ffenestr siop llawn temtasiwn gydag amrywiaeth mawr o nwyddau, yn barod i’w prynu drwy glicio botwm. I’r sawl sy’n gwerthu, maen nhw’n ffordd dda i hysbysebu a gwerthu eu nwyddau. Mae llawer o’r bobl sy’n hysbysebu nwyddau i’w gwerthu ar wefannau ocsiynau ar y rhyngrwyd yn werthwyr preifat ac mae hyn yn lleihau’ch hawliau. Efallai nad oes fawr o wahaniaeth rhyngddyn nhw a’r rhai sy’n gosod hysbysebion mân yn y papurau newydd. Fel prynwr, efallai na fyddwch yn gwybod â phwy rydych chi’n delio, na ble maen nhw.
Mae gennych chi lai o hawliau wrth brynu’n breifat, boed drwy hysbyseb fach mewn papur newydd neu mewn ocsiwn ar y rhyngrwyd. Wrth werthu’n breifat, mae’n rhaid i’r nwyddau gyd-fynd â’r disgrifiad, ond dydy gwerthwr nad yw’n gweithredu fel busnes ddim yn dod o dan y rheolau ar ansawdd foddhaol ac addasrwydd at y diben.
Os cewch chi broblem, fe allai fod yn anos ei datrys na phe baech wedi prynu mewn siop. Mae rhai gwefannau ocsiynau neu brosesau trydydd parti (paypal, nochex, etc) yn cynnig prosesau datrys cwynion neu warantau atal twyll. Ond nid pawb sy’n cynnig y rhain, felly darllenwch y telerau a’r amodau. Mae’n debyg y bydd rhwymedigaethau’r wefan tuag atoch yn gyfyngedig.

Mwynhewch hyblygrwydd e-siopa, ond byddwch yn gall a mynnwch wybod y risgiau.

Cynghorion da:

  • Holwch am enw da’r gwerthwr. Mae’r mwyafrif o wefannau ocsiynau yn dangos adborth a sylwadau prynwyr a gwerthwyr eraill i ddangos sut maen nhw’n graddio’r gwerthwyr. Byddwch yn ofalus: bydd rhai masnachwyr yn ffugio disgrifiadau ac yn postio sylwadau  da amdanyn nhw eu hunain. Chwiliwch i weld faint o drafodion mae’r person sy’n rhoi’r adborth wedi’u cwblhau ar-lein: bydd rhif wrth eu henw yn dangos hyn. Gofynnwch gwestiynau cyn cynnig; er enghraifft beth yw’r polisi ar ddychwelyd nwyddau? Bydd gwerthwr da bob amser yn croesawu ymholiadau. 
  • Gwnewch eich gwaith cartref. Edrychwch ar ddisgrifiad y nwyddau, y math o fodel a’r pris manwerthol. Byddwch yn ofalus: os yw’r pris yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod e’n rhy dda i fod yn wir. Os yw’r eitem yn un i’w chasglu, cymerwch gamau i sicrhau ei bod yn eitem ddilys.
  • Cyn ichi gynnig, holwch pa fath o daliadau mae’r gwerthwr yn fodlon eu derbyn. Os mai dim ond siec neu archeb arian sy’n dderbyniol, penderfynwch a ydych yn fodlon mentro anfon eich taliad cyn ichi gael y nwyddau. Os oes modd, dylech ddefnyddio cerdyn credyd (gwnewch yn siŵr fod eich manylion yn cael eu diogelu) am mai dyna sy’n cynnig yr amddiffyniad gorau os bydd yna broblem.
     
  • Cyn ichi gynnig pris, meddyliwch yn ofalus. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod faint rydych yn fodlon ei dalu, cadwch at y swm, a meddyliwch a ydych chi’n cael gwerth am eich arian neu beidio. Ar ôl i bris gael ei dderbyn, fe fydd disgwyl ichi ei dalu. 
  • Darllenwch y print mân. Ydy’r cludiant wedi’i gynnwys yn y pris? Sut caiff y nwyddau eu postio? Oes angen codi yswiriant ychwanegol? Ydy’r gwerthwr wedi’i leoli yn y DU? Os nad yw, pa gamau gallwch chi eu cymryd os aiff rhywbeth o’i le?

I gael rhagor o wybodaeth, gweler Ocsiynau rhyngrwyd


"Nôl i'r brig

Did you know

Os prynwch chi rywbeth sy’n werth mwy na £35 oddi wrth werthwr sy’n galw yn eich tŷ heb wahoddiad, mae gennych chi saith diwrnod i ganslo’ch archeb.

Rhagor o Wybodaeth >