Uwchfarchnadoedd ar-lein
Mae prynu oddi wrth uwchfarchnadoedd ar-lein yn wahanol i fynd i mewn i siop a dewis y nwyddau eich hun. Gall y prisiau amrywio, felly cadwch nodyn o’r hyn rydych chi wedi cytuno i’w dalu.
Yn aml, y pris y byddwch yn ei dalu fydd y pris yn y siop ar y diwrnod y bydd eich nwyddau’n cael eu casglu i ddod â nhw atoch. Fe allai hynny fod yn wahanol i’r prisiau ar y wefan ar y diwrnod y gosodwch eich archeb.
Rydym yn argymell y dylech gymharu’r prisiau pan ddaw eich nwyddau i law â’r canllaw prisiau oedd i’w weld ar y wefan pan wnaethoch chi’ch archeb. Mae gennych chi hawl i ganslo os yw’r prisiau pan ddaw’r nwyddau i law wedi cynyddu ers ichi archebu, oherwydd fe allai hynny gael ei ystyried fel torri contract.
Mae’r uwchfarchnadoedd sy’n cynnig y cyfle i siopa ar-lein wedi cytuno i roi gwell gwybodaeth i’r cwsmeriaid am brisiau, ar ôl i’r OFT gymryd camau.
Mae llawer o uwchfarchnadoedd yn defnyddio canllawiau prisiau ar eu gwefannau i ddangos prisiau’r nwyddau yn y siop ar y diwrnod y mae’r archeb yn cael ei osod. Gall y prisiau yn y siop newid rhwng diwrnod yr archeb a’r diwrnod y daw’r nwyddau i law.
Hwyrach bod rhai yn gwerthu nwyddau am bris gosod, ac eithrio nwyddau sy’n cael eu gwerthu wrth eu pwysau. Er bod y pris wedi’i bennu yn ôl y pwysau, efallai na fydd y pwysau gewch chi yn cyfateb yn hollol i’r pwysau ar eich archeb.
Mae’r uwchfarchnadoedd i gyd wedi cytuno gyda’r OFT y byddan nhw’n ei gwneud yn gliriach sut mae eu cynlluniau siopa ar-lein yn gweithio, gan gynnwys:
-
gwybodaeth ymlaen llaw am eu polisïau prisio a sut mae’r broses siopa ar-lein yn gweithio
-
sicrhau bod prisiau’r cynigion arbennig sy’n cael eu dyfynnu ar-lein yn cael eu trin fel prisiau cadarn ar gyfer archebion sydd i’w hanfon atoch yn ystod cyfnod y cynnig - byddan nhw’n esbonio am faint y bydd y cynnig yn para
-
cyfle hawdd i weld y telerau a’r amodau.

