Ewch yn syth i'r cynnwys

Cynhyrchion iechyd ar-lein

Ydych chi’n prynu cynhyrchion iechyd ar-lein? Os felly, byddwch yn sylweddoli mor bwysig yw hysbysebion dilys a chywir am wasanaethau a chynhyrchion. Ond cymerwch ofal - mae yna gyflenwyr sy’n gwerthu cynhyrchion iechyd sydd heb gael eu profi ac a allai yn aml fod yn ddi-werth.

Mynnwch wybod eich hawliau

Os prynwch chi gynhyrchion iechyd ar-lein, mynnwch wybod eich hawliau. Cofiwch fod gennych hawl i gael:

  • cyfnod canslo sy’n dechrau pan gaiff y contract ei wneud, gan redeg nes bod saith diwrnod gwaith wedi dod i ben ar ôl y diwrnod y daw’r nwyddau i law
  • hysbysiad ynghylch eich hawl i ganslo – os na fydd hysbysiad cywir ynghylch eich hawl i ganslo’n cael ei roi, bydd eich hawl i ganslo yn rhedeg am dri mis a saith diwrnod gwaith ar ôl i’r nwyddau ddod i law 
  • cyfeiriad daearyddol llawn (dydy Blwch Swyddfa’r Post ddim yn ddigon), heb fod yn hwyrach na’r adeg y daw’r nwyddau i law 
  • ad-daliad llawn, ar ôl ichi roi hysbysiad canslo mewn ysgrifen neu ar ffurf arall sy’n parhau, a hynny heb i ddim byd gael ei dynnu am gostau’r gwaith trafod a chludo ar y dechrau.
  • Sylwch na chewch ofyn am ad-daliad os ydych chi wedi bwyta neu yfed y nwyddau neu wedi’u defnyddio mewn ffordd arall.

"Nôl i'r brig

Did you know

Os prynwch nwyddau ffug ac nac ydynt yn cwrdd â’ch disgwyliadau, ni chewch unrhyw wasanaeth gwerthu na gwarant, Y pethau ffug mwyaf cyffredin yw dillad dyluynwyr, watshis, persawr, DVDs ac alcohol.

Rhagor o Wybodaeth >