Ocsiynau rhyngrwyd
Ocsiwn rhyngrwyd yw’r term cyffredin i ddisgrifio unrhyw fath o wefan sy’n caniatáu i bobl werthu amrywiaeth mawr o nwyddau mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys drwy gyfrwng cynigion sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd.
Dydyn nhw ddim yn cyflawni swyddogaethau arwerthwr byw fel rheol, ac felly dydyn nhw ddim yn debyg o ddod o dan rwymedigaethau cyfreithiol arwerthwr.
Mae poblogrwydd y math yma o siopa ar-lein yn tyfu, ond gofalwch: mae problemau’n digwydd.
Cynghorion ar gyfer masnachu’n ddiogel
Cofiwch: fel rheol, nid oddi wrth wefan yr ocsiwn ei hun y byddwch yn prynu, ac felly fydd dim rhaid i’r wefan dderbyn cyfrifoldeb os aiff rhywbeth o’i le ar y nwyddau. O safbwynt y gyfraith, mae’r wefan yn gweithredu fel ‘hysbysfwrdd’ fel y rhai yn eich uwchfarchnad neu’ch siop bapurau lle gall defnyddwyr a busnesau osod eitemau ar werth. Darllenwch y telerau a’r amodau er mwyn cael gwybod.
Mae llawer o’r cynghorion ar gyfer masnachu ar wefannau ocsiwn ar y rhyngrwyd yr un fath ag wrth brynu ar y rhyngrwyd yn gyffredinol, ond mae yna wahaniaethau pwysig.
Mae angen ichi benderfynu a ydych yn gallu ymddiried yn y sawl sy’n cynnig yr eitem. Meddyliwch am y problemau a allai godi wrth brynu oddi wrth rywun yn y dafarn neu wrth ymateb i hysbyseb fach mewn papur newydd.
Dyma rai o’r problemau mwyaf cyffredin:
- Nad yw’r nwyddau yn cyrraedd y prynwr
- Nad yw’r taliad yn cyrraedd y gwerthwr
- Bod nwyddau sy’n werth llai neu sy’n wahanol iawn i’r disgrifiad yn cael eu hanfon at y prynwr
- Bod y nwyddau’n dod i law yn hwyr
- Methu â rhoi gwybodaeth berthnasol am y cynnyrch neu’r telerau gwerthu.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler yr adran ar ocsiynau rhyngrwyd ar y tudalen Siopa’n ddiogel.

