Hur bwrcas
Mae hur bwrcas (HP) yn ffordd gyffredin i dalu am eitemau o bwys, fel ceir, dodrefn a chyfrifiaduron. Ond, fel unrhyw gytundeb credyd, mae angen ichi feddwl yn ofalus cyn gwneud ymrwymiad. Bydd yr wybodaeth yma’n eich helpu i benderfynu ai HP yw’r dewis iawn i chi. Mae’n esbonio sut mae cytundeb HP yn gweithio a’r pethau i chwilio amdanyn nhw. Mae ein cyngor ni’n gymwys hefyd ar gyfer cytundebau gwerthu amodol, sy’n debyg iawn i HP.
- Beth yw hur bwrcas a gwerthu amodol?
- Darllenwch y print mân
- Yswiriant sy’n cael ei gynnig gyda chytundebau HP
Beth yw hur bwrcas a gwerthu amodol?
Gyda mathau eraill o gredyd, fel benthyciad neu gerdyn credyd, mae’r nwyddau y byddwch chi’n eu prynu yn perthyn i chi ar unwaith. Pan fyddwch yn defnyddio HP:
- Fydd y nwyddau ddim yn perthyn i chi’n gyfreithiol nes ichi dalu’r cyfan o’r arian sydd arnoch chi. Mae hynny’n golygu na chewch chi addasu’r nwyddau na’u gwerthu nhw heb ganiatâd y benthyciwr
- Bydd eich contract yn cael ei wneud gyda chwmni cyllid (nid y manwerthwr) a’r cwmni fydd perchennog y nwyddau nes i chi wneud y taliad terfynol
- Caiff y cwmni cyllid fynd â’r nwyddau nôl os na fyddwch yn brydlon gyda’ch taliadau
- Chi fydd yn gyfrifol am unrhyw ddifrod sy’n cael ei achosi i’r nwyddau yn ystod cyfnod y contract.
O dan gytundeb hur bwrcas (HP), byddwch yn talu blaendal i ddechrau ac wedyn daliadau misol (sef cyfran o’r arian rydych wedi’i fenthyg a llog) dros gyfnod y byddwch yn cytuno arno.
Ar ddiwedd y cyfnod, bydd gennych y dewis o ddod yn berchennog llwyr ar y nwyddau, er y caiff eich benthyciwr fynnu eich bod yn talu ffi (holwch am hyn, oherwydd fe allai fod yn uchel).
Mae cytundebau gwerthu amodol (CS) yn debyg i HP. Bydd y nwyddau’n perthyn ichi ar ôl ichi dalu pob rhandaliad. Fydd dim ffi ychwanegol i’w thalu ar y diwedd.
[anchor Chwiliwch o gwmpas cyn ichi lofnodi]Chwiliwch o gwmpas cyn ichi lofnodi
Ystyriwch ddewisiadau credyd eraill yn gyntaf. Efallai y gallwch fenthyg yr arian yn rhatach drwy fenthyciad, neu sicrhau gwell telerau gan ddarparwr HP arall.
Un ffordd dda o gymharu cost credyd yw edrych ar yr APR (y gyfradd ganrannol flynyddol) a’r cyfanswm y bydd rhaid ichi ei dalu. Cofiwch y gall fod ffioedd neu daliadau yn ogystal â’ch taliadau misol.
Os dewiswch chi HP, cymerwch amser i ddeall yr hyn rydych chi’n cytuno iddo ac i ddeall a allwch chi fforddio hyn neu beidio. Os bydd eich amgylchiadau’n newid er gwaeth, efallai y byddwch yn colli’r nwyddau a’r arian rydych chi wedi’i dalu.
Mae’n rhaid i fenthycwyr roi gwybodaeth allweddol i chi am y contract i chi gael mynd â hi i ffwrdd gyda chi i’w hystyried cyn ichi brynu.
Mae’r contract HP sydd wedi’i roi i chi i’w lofnodi yn gorfod dweud mewn iaith blaen yr hyn a ddisgwylir oddi wrthoch chi a faint y byddwch yn ei dalu. Dylech ddarllen y contract yn ofalus a pheidiwch â’i lofnodi oni bai eich bod yn hollol fodlon.
Os yw’ch cytundeb chi yn llai na £25,000 ac nad yw’n cynnwys yr holl wybodaeth ariannol bwysig, fe all fod rhaid i’r benthyciwr sicrhau gorchymyn llys er mwyn gorfodi’r cytundeb.
Os oes cwestiynau gennych, gofynnwch i’r manwerthwr neu’r benthyciwr. Os ydych yn dal yn ansicr, gofynnwch am gyngor annibynnol cyn ymrwymo. Peidiwch â llofnodi dim byd nad ydych yn ei ddeall.
Er enghraifft:
Gallai’ch contract HP ddweud:
- Eich bod mewn perygl o golli’r nwyddau ac y byddwch yn atebol am dalu’r swm llawn i’r benthyciwr, ar ôl un taliad hwyr nau ar ôl colli un taliad, neu os byddwch yn torri’r cytundeb mewn rhyw ffordd fach arall
- Bod rhaid ichi dalu gordal os byddwch yn torri’r cytundeb. Er enghraifft, gordal am lythyrau atgoffa yn sgil taliad hwyr.
Fe allai’r rhain fod yn delerau annheg. Os gwelwch chi ddatganiadau o’r fath, heriwch y benthyciwr ynglŷn â nhw cyn ichi lofnodi’r contract. Dim ond llys sy’n cael penderfynu a yw teler yn annheg neu beidio. Os ydych chi wedi llofnodi contract HP yn barod a chithau’n credu ei fod yn cynnwys telerau annheg, gofynnwch am gyngor. Gweler Telerau annheg mewn contractau i gael rhagor o wybodaeth.
Yswiriant sy’n cael ei gynnig gyda chytundebau HP
Efallai y cewch chi gynnig yswiriant diogelu taliadau, i’ch gwarchod chi rhag afiechyd neu ddiweithdra.
Os ydych yn prynu car, mae’n bosibl hefyd y cewch chi gynnig yswiriant Diogelwch Ased Gwarantedig (GAP) – i’ch gwarchod yn erbyn unrhyw ddiffyg yn eich yswiriant moduro eich hun os caiff y car ei ysgrifennu i ffwrdd neu ei ddwyn.
Yn y ddau achos yma, meddyliwch yn ofalus a yw’r yswiriant yn drefniant da i chi. Darllenwch y print mân i chwilio am eithriadau, er enghraifft efallai na fydd yswiriant diogelu taliadau yn gymwys i bobl hunangyflogedig.
Os penderfynwch fwrw ymlaen â’r yswiriant, fe allai fod yn well talu’r premiwm ag arian parod, yn hytrach na’i gynnwys yn eich credyd.

