Dewis cynghorydd ariannol
Wrthi’n chwilio am gynghorydd ariannol? Dilynwch ein canllawiau er mwyn sicrhau eich bod yn gwneud dewis da.
Dydy hi byth yn hawdd penderfynu pa gyflenwr i’w ddefnyddio, ac felly mae’n bosibl y byddwch am ystyried y cyngor canlynol wrth ichi ddewis cynghorydd ariannol:
- Ewch ati i bwyso a mesur eich sefyllfa ariannol ar hyn o bryd a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth rydych chi’n gobeithio’i gyflawni a faint rydych chi’n fodlon ei wario.
- Dewiswch gynghorydd ariannol sy’n arbenigo ar waith o’r math ac o’r maint yr hoffech chi ei gael.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod y gwahaniaeth rhwng gwybodaeth a chyngor. Gall cyngor roi hawliau ac amddiffyniadau penodol ichi – holwch eich cynghorydd am hyn.
- Gofynnwch am gael dyfynbris ysgrifenedig a gofynnwch a fydd y cynghorydd yn cael ei dalu trwy ffi ynteu ar gomisiwn.
- Gofynnwch pa brofiad sydd gan y cynghorydd yn y maes sydd o ddiddordeb i chi.

