Cardiau credyd a chardiau siopau
Mae cannoedd o gardiau ar gael, ond mae’r mwyafrif yn perthyn i un o’r categorïau yma. I gymhlethu pethau ychydig, fe welwch chi fod cwmnïau cardiau yn cynnig cardiau aur a phlatinwm a chardiau cyffredin. Yr un math o gardiau yw’r rhain, ond maen nhw’n cynnig gwahanol amodau a manteision.
- Cardiau debyd
- Cardiau talu
- Cardiau cyllidebu, cardiau opsiynau neu gardiau siop
- Cardiau credyd
- Cardiau pwrs electronig
- Ambell bwynt i’w gofio
Mae’r rhain yn mynd ag arian yn uniongyrchol o’ch cyfrif banc. Nid cardiau credyd ydyn nhw, ond maen nhw’n ddewis arall yn lle arian parod neu ysgrifennu siec. Maen nhw wedi’u cysylltu â’ch cyfrif banc, ac felly mae cardiau debyd yn aml yn gweithio mewn peiriannau arian ac fel cerdyn gwarantu siec hefyd.
Os defnyddiwch chi gerdyn talu, bydd bil yn cael ei anfon atoch bob mis ac fel arfer mae’n rhaid ichi ei dalu i gyd. Unwaith eto felly, nid cerdyn credyd yw hwn. Bydd rhaid fel rheol ichi dalu ffi flynyddol.
Cardiau cyllidebu, cardiau opsiynau neu gardiau siop
Siopau neu grwpiau manwerthu sy’n rhoi’r cardiau hyn, sy’n cynnig math o gredyd ichi. Gallwch ddefnyddio’r cerdyn i brynu nwyddau yn y siop ac fe gewch chi fil misol. Mae ad-dalu’r arian rydych chi wedi’i fenthyg yn amrywio. Bydd rhai cardiau’n gofyn eich bod yn talu rhyw isafswm misol, bydd eraill yn cymryd taliad penodedig drwy gyfrwng archeb sefydlog neu ddebyd uniongyrchol. Byddwch yn talu llog fel rheol os na fyddwch yn talu’r cyfan sydd arnoch chi i’r siop bob mis. Cofiwch gymharu’r APRs (y Cyfraddau Canrannol Blynyddol). Fel arfer, isaf yn y byd yw’r APR, lleiaf yn y byd y byddwch yn ei dalu fel llog.
Gallwch ddefnyddio cerdyn credyd i gael benthyg arian er mwyn prynu pethau ar unwaith, ac wedyn penderfynu dros ba gyfnod o amser i ad-dalu’r arian sydd arnoch chi, a’r llog. Byddwch yn cael datganiad bob mis i ddweud beth rydych chi wedi’i brynu a faint sydd arnoch chi. Bob mis byddwch yn cael ad-dalu’r swm llawn (heb log fel arfer) neu dim ond rhywfaint ohono. Fel rheol, mae’n rhaid ichi dalu o leiaf £5 neu 3-5 y cant (p’un bynnag yw’r mwyaf) o’r arian sydd arnoch chi bob mis a bydd llog yn cael ei godi ar y ddyled sy’n weddill bob mis. Cofiwch gymharu’r APRs. Fel arfer, isaf yn y byd yw’r APR, lleiaf yn y byd y byddwch yn ei dalu fel llog. Mae cardiau credyd yn gallu cael eu defnyddio mewn peiriannau arian fel arfer, ond mae’n debyg y bydd rhaid ichi dalu ychwaneg os gwnewch chi hyn.
Cynllun cymharol newydd lle byddwch yn dodi arian ar gerdyn ac yn defnyddio hwnnw wedyn yn lle arian parod. Yn gyffredinol, mae’r cardiau hyn yn cael eu defnyddio i brynu mân bethau neu i brynu ar y rhyngrwyd.
- Mae Cyfradd Ganrannol Flynyddol (APR) y tâl yn ddatganiad o gyfanswm y tâl am y credyd am bob blwyddyn o’r cytundeb credyd.
- Mae defnyddio cardiau i fenthyg arian yn gallu bod yn ddrud ac mae’n ymrwymiad. Meddyliwch yn ofalus cyn defnyddio un a gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu fforddio’r ad-daliadau.
- Cymharwch yr APRs. Mae’r ffigurau’n amrywio’n aruthrol. Fel arfer, isaf yn y byd yw’r APR, lleiaf yn y byd o log y byddwch yn ei dalu.
- Arhoswch o fewn eich terfyn credyd a thalwch yn brydlon er mwyn osgoi ffioedd.
- Mae yna fanteision wrth ddefnyddio cardiau credyd i brynu drwy’r post neu dros y rhyngrwyd. Os yw’r nwyddau neu’r gwasanaethau wedi’u camliwio neu os na chyrhaeddan nhw, fe allech chi gael ad daliad gan y cwmni cardiau. Hefyd, mae’r Ddeddf Credyd Defnyddwyr yn gosod cyfyngiad statudol o £50 ar eich rhwymedigaethau chi os caiff eich cerdyn credyd ei golli neu ei ddwyn.
- Os bydd rhywun arall yn defnyddio’ch manylion cerdyn credyd i brynu nwyddau drwy’r post neu dros y rhyngrwyd, fydd dim rhwymedigaeth arnoch chi o gwbl.

