Cwestiynau allweddol cyn benthyg
Deg cwestiwn amhrisiadwy i’ch helpu i sicrhau popeth yr hoffech ei gael mewn benthyciad neu gerdyn credyd.
- Beth fydd cost y credyd o’i gymharu â threfniadau tebyg?
- Ydy’ch cartref yn cael ei ddefnyddio fel gwarant?
- Ai dyma’r fargen orau a’r gyfradd log orau y gallwch eu cael?
- Ydych chi’n deall ffurflen y cytundeb credyd rydych chi ar fin ei llofnodi yn llwyr?
- Fydd y gyfradd log yn aros yr un fath?
- Oes yna daliadau ychwanegol os ad-dalwch y ddyled yn gynnar?
- Beth sy’n digwydd os collwch chi daliad?
- Faint mae’n rhaid ichi ei dalu bob mis ac am faint o amser?
- Beth yw’r cyfanswm y byddwch yn ei dalu'n ôl?
- Gewch chi fynd â’r cytundeb credyd gyda chi i’w ystyried wrth eich pwysau?
Beth fydd cost y credyd o’i gymharu â threfniadau tebyg?
Cymharwch yr APRs. Fel arfer, isaf yn y byd yw’r APR, lleiaf yn y byd y byddwch yn ei dalu. Ond, efallai fod yna daliadau eraill sydd heb eu cynnwys yn yr APR, felly holwch beth yw’r rhain. Mae angen ichi fod yn siŵr faint y byddwch yn ei dalu i gyd.
Ydy’ch cartref yn cael ei ddefnyddio fel gwarant?
Os yw eich cartref yn cael ei ddefnyddio fel gwarant ar gyfer benthyciad ac na fyddwch yn llwyddo i’w ad-dalu, fe allech ei golli.
Ai dyma’r fargen orau a’r gyfradd log orau y gallwch eu cael?
Mae prynu credyd fel prynu unrhyw beth arall - byddwch yn siopa o le i le am nwyddau, felly gwnewch yr un fath ar gyfer credyd. Efallai nad y credyd sy’n cael ei gynnig ichi wrth ichi brynu yw’r fargen orau sydd ar gael.
Ydych chi’n deall ffurflen y cytundeb credyd rydych chi ar fin ei llofnodi yn llwyr?
Peidiwch â chael eich gwasgu i lofnodi wrth y til - os nad ydych yn deall y ffurflen, ewch â hi gyda chi a chymerwch gyngor. Cofiwch nad oes modd newid eich meddwl os llofnodwch chi yn y siop.
Fydd y gyfradd log yn aros yr un fath?
Holwch a yw’r gyfradd wedi’i phennu neu yn gallu newid. Gofynnwch ai cynnig arbennig yw’r gyfradd sy’n cael ei chynnig.
Oes yna daliadau ychwanegol os ad-dalwch y ddyled yn gynnar?
Bydd rhai benthycwyr yn codi tâl ychwanegol os byddwch yn ad-dalu benthyciad yn gynnar.
Beth sy’n digwydd os collwch chi daliad?
Yn aml, bydd yna ffioedd cosb i’w talu os collwch chi daliad, ac mae hyn yn gallu ychwanegu llawer at y cyfanswm y bydd rhaid ichi ei dalu'n ôl.
Faint mae’n rhaid ichi ei dalu bob mis ac am faint o amser?
Mae’n bwysig edrych dros faint o amser y byddwch yn talu yn ogystal ag edrych ar faint. Er enghraifft, efallai fod £20 y mis yn fforddiadwy ond dros ddeng mlynedd byddech chi’n talu llawer mwy yn ôl na thros ddwy flynedd.
Beth yw’r cyfanswm y byddwch yn ei dalu'n ôl?
Hiraf yn y byd yw cyfnod y benthyciad, mwyaf yn y byd y talwch yn ôl. Dyna pam mae’n bwysig talu cymaint ag y gallwch bob mis ar gerdyn credyd - hiraf yn y byd y byddwch yn talu, mwyaf yn y byd y bydd yn ei gostio ichi.
Gewch chi fynd â’r cytundeb credyd gyda chi i’w ystyried wrth eich pwysau?
Mae cytundeb credyd yn ddogfen gyfreithiol – mae angen ichi ei ddarllen yn ofalus cyn ichi ei lofnodi.

