Ewch yn syth i'r cynnwys

Cyfrifon Cyfredol

Cyfrifon Cyfredol

 

Gall cyfrifon cyfredol fod orau i chi os byddwch yn:

 

Chwilio o gwmpas

Ystyried newid

Ystyried llog

Ystyried taliadau

Mae gwahanol fathau o gyfrifon cyfredol. Fel arfer, mae cyfrif cyfredol safonol yn:

  •  Cynnig cerdyn debyd, y gallwch ei ddefnyddio naill ai er mwyn gwneud taliadau neu gael arian o beiriant codi arian
  • eich caniatáu i wneud debydau uniongyrchol, er enghraifft, er mwyn talu’ch bil nwy neu drydan
  • eich caniatáu i gael llyfr sieciau
  • eich caniatáu i reoli’ch cyfrif drwy ddulliau gwahanol fel drwy’r gangen, y rhyngrwyd neu dros y ffôn
  • Talu llog i chi ar unrhyw arian sydd gennych yn eich cyfrif

Gallwch wneud cais am gyfleuster gorddrafft hefyd – mae hyn yn eich caniatáu i dynnu mwy o arian o’ch cyfrif nag ydd gennych ynddo, ac yn ôl pob tebyg bydd yn rhaid i chi dalu llog ar hwn. Mae’n rhaid i chi drefnu â’ch banc i fenthyg yr arian hwn neu bydd taliadau eraill yn gymwys ac efallai caiff eich trafodion eu gwrthod.

Mae cyfrif sylfaenol yn caniatáu i arian gael ei dalu i mewn i gyfrif a thynnu arian allan ohono. Nid yw cyfrifon banc sylfaenol yn cynnig cyfleusterau gorddrafft ac nid ydynt yn cynnig rhai mathau o dalu fel llyfr sieciau.

Mae sawl offeryn ar gael i’ch helpu i benderfynu wrth ystyried newid cyfrifon, chwilio o gwmpas, ystyried llog ac ystyried taliadau. Rhowch gynnig ar ein cyfrifiannell ddefnyddiol i’ch helpu i gymharu’r llog rydych yn ei ennill ar hyn o bryd â’r hyn y gallech ei ennill wrth ddefnyddio cyfrif arall, y canllawiau newid cyfrif BACS am gyngor diduedd ynghylch newid cyfrifon neu ein sia rt cymharu.

Ewch i’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol am fwy o wybodaeth am y mathau gwahanol o gyfrifon banc.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth neu gyngor pan fyddwch yn dewis cyfrif cyfredol, gallwch chwilio am gyngor ariannol annibynnol am ddim yma.


"Nôl i'r brig

Did you know

Os prynwch rywbeth sy'n costio mwy na £35 oddi wrth werthwr sy'n galw heibio i'ch cartref, mae gennych saith niwrnod i ganslo eich archeb.

Rhagor o Wybodaeth >