Ewch yn syth i'r cynnwys

Ystyried newid

Pan fydd gennych gyfrif cyfredol, mae’n beth da o bryd i’w gilydd i gymharu’r dewisiadau sydd ar gael ei chi. Er enghraifft, os ydych wedi gorfod talu costau i’ch banc yn y gorffennol, mae’n bosibl eich bod am ddewis cyfrif sydd â thaliadau isel. Ac os yw’ch cyfrif yn talu cyfradd llog isel, efallai eich bod am symud eich arian i gyfrif sy’n cynnig cyfradd uwch.

Gall newid eich cyfrif banc deimlo’n ormod o drafferth ond, os byddwch yn defnyddio canllawiau newid cyfrif BACS, gall fod yn hawdd ac mae’n werth gwybod na fydd eich hen fanc na’ch banc newydd yn codi taliadau arnoch oherwydd eu camgymeriadau hwy neu o achos oedi diangen yn ystod y broses o newid.

Cofiwch gall cyfrifon cyfredol fod yn addas i chi os byddwch yn:

Chwilio o gwmpas
Ystyried llog
Ystyried taliadau


"Nôl i'r brig

Did you know

Os prynwch rywbeth sy'n costio mwy na £35 oddi wrth werthwr sy'n galw heibio i'ch cartref, mae gennych saith niwrnod i ganslo eich archeb.

Rhagor o Wybodaeth >