Gosod archeb
Os ydych yn archebu cynnyrch o’ch cartref, gwnewch yn siŵr eich bod wedi siopa o lei i le er mwyn cael y pris gorau, a’ch bod wedi sicrhau bod y masnachwr rydych chi’n prynu oddi wrtho yn un dilys, a hynny cyn ichi dalu am y nwyddau.
- Cyn archebu
- Gwybodaeth y mae’n rhaid i’r gwerthwr ei rhoi ichi
- Gosod archeb
- Pan fydd eich archeb yn cyrraedd
Siopwch o le i le. Mae’n ddigon posibl bod y fargen arbennig wych yna ar gael rywle arall hefyd – yn rhatach. Defnyddiwch fanwerthwyr a gwasanaethau yr ydych yn gwybod amdanyn nhw neu rai sydd wedi’u hargymell yn bersonol i chi.
Byddwch yn ofalus gyda masnachwyr sy’n defnyddio rhifau blwch Swyddfa’r Post (P.O.) yn gyfeiriad.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod cyfeiriad llawn y masnachwr – yn enwedig os yw canolfan y cwmni y tu allan i’r DU.
Os byddwch yn defnyddio gwasanaeth cyfradd bremiwm (rhifau 090), chwiliwch am wybodaeth glir ac amlwg am gost y galwadau. Dylai pob hysbyseb ddangos cost yr alwad fesul munud yn glir. Os ydych yn defnyddio’r rhyngrwyd, dylai gwybodaeth am gostau galwadau bob amser gael ei rhoi ichi cyn ichi gysylltu â gwefan, p’un a yw honno’n alwad ar gyfradd bremiwm y DU neu’n alwad ar gyfradd bremiwm ryngwladol.
Cadwch y canlynol mewn lle diogel:
- Cyfeiriad a rhif ffôn y masnachwr.
- Yr hysbyseb, ynghyd â nodyn i ddweud pryd a ble y gwelsoch chi hi.
- Manylion am gostau cludiant a pha bryd y bydd y nwyddau’n cyrraedd.
- Copi o’r cadarnhad eich bod wedi archebu neu neges e-bost sy’n profi hynny.
- Os ydych yn ymuno â chlwb llyfrau neu glwb cerddoriaeth neu’n gwneud unrhyw fath o ymrwymiad tymor-hir, chwiliwch drwy’r print mân am unrhyw rwymedigaethau y mae’n rhaid ichi gadw atyn nhw – a’r telerau ynglŷn â chanslo.
- Os byddwch yn prynu drwy hysbyseb mewn papur newydd neu gylchgrawn, gofynnwch beth y mae’n rhaid ichi ei brynu er mwyn sicrhau unrhyw gynnig cychwynnol, a thros ba gyfnod o amser. Gwnewch yn siŵr fod cynllun diogelu ar gael i’ch amddiffyn.
Gwybodaeth y mae’n rhaid i’r gwerthwr ei rhoi ichi
Rhaid i’r gwerthwr, neu’r cyflenwr, roi’r wybodaeth ganlynol ichi mewn ffordd glir a dealladwy:
- Eu henw ac (os oes rhaid ichi dalu ymlaen llaw) eu cyfeiriad.
- Prif nodweddion y nwyddau neu’r gwasanaethau.
- Y pris, gan gynnwys TAW ac unrhyw drethi eraill.
- Cost dod â’r nwyddau atoch (os oes cost o’r fath).
- Am faint y bydd y cynnig neu’r pris yn ddilys.
- Sut y gallwch chi dalu.
- Y trefniadau ar gyfer dod â’r nwyddau atoch (sef o fewn 30 diwrnod fel rheol oni bai eich bod yn cytuno fel arall).
- Bod gennych chi hawl i ganslo’r archeb.
- Y cyfnod lleiaf y byddwch wedi’ch clymu i’r contract am wasanaeth parhaus (er enghraifft, mae rhai contractau ar gyfer ffôn symudol yn mynnu eich bod yn cymryd cytundeb am flwyddyn o leiaf).
- A ydyn nhw’n codi taliadau ffôn, ffacs neu ryngrwyd ar gyfradd bremiwm.
- Y byddan nhw’n rhoi rhywbeth arall ichi os nad yw’r eitem rydych chi wedi’i harchebu ar gael. Os gwnewch chi hyn, dylen nhw ddweud mai nhw fyddai’n talu cost dychwelyd y nwyddau, pe baech chi’n penderfynu peidio â’u cadw.
Pan fyddwch yn gosod archeb, mae’n ofynnol i’r cyflenwr roi gwybodaeth benodol ichi mewn ysgrifen (er enghraifft, drwy lythyr, ffacs neu e-bost). Rhaid i’r wybodaeth yma ddod i law ar yr hwyraf pan ddaw’r nwyddau i law neu pan gaiff y gwasanaeth ei gyflawni.
Os ydych chi wedi cael yr holl wybodaeth angenrheidiol mewn ysgrifen cyn ichi osod yr archeb – er enghraifft, drwy gatalog neu hysbyseb mewn cylchgrawn – chewch chi ddim byd arall.
Dylai’r wybodaeth ysgrifenedig gynnwys y rhan fwyaf o’r manylion uchod, a hefyd:
- Pryd a sut y gallwch ganslo’ch archeb.
- Cyfeiriad daearyddol lle gallwch ysgrifennu i gwyno os bydd yna broblem.
- Manylion unrhyw warant a gwasanaethau ar ôl ichi brynu.
- Sut i ganslo contract parhaus os nad oes dyddiad wedi’i bennu iddo ddirwyn i ben – neu os yw’n para am fwy na blwyddyn.
- A yw’r gwerthwr am ichi ddychwelyd y nwyddau ar ôl ichi ganslo.
- Rhaid iddyn nhw ddweud wrthych chi hefyd ai chi ynteu’r masnachwr fydd yn talu am ddychwelyd y nwyddau.
Pan fydd eich archeb yn cyrraedd
Mae gennych chi hawl i ddychwelyd eich archeb neu ei chanslo am unrhyw reswm. Ond mae yna eithriadau. Os nad ydych yn hoffi’r nwyddau neu os ydych chi wedi newid eich meddwl, cewch ganslo’r archeb. Mae hyn yn digwydd fel arfer o fewn cyfnod ailfeddwl o saith diwrnod. (Sylwch fod y rheolau ar wasanaethau ariannol (gan gynnwys credyd defnyddwyr) yn gallu caniatáu cyfnod gwahanol ar gyfer tynnu'n ôl).
Gweler Dychwelyd neu ganslo archebion i gael rhagor o wybodaeth.
Rhaid i werthwr sy’n mynd o ddrws i ddrws roi gwybod ichi mewn ysgrifen am eich hawl i ganslo. Mae’n drosedd peidio â gwneud.

