Ewch yn syth i'r cynnwys

Byddwch yn ymwybodol

Mae amrywiaeth mawr o nwyddau a gwasanaethau’n cael eu gwerthu i bobl yn eu cartref eu hunain. Mae’r math yma o fasnachu’n gallu bod yn ddefnyddiol i lawer o ddefnyddwyr. Mae llawer o fasnachwyr yn onest a didwyll. Ond mae eraill sydd heb fod, ac maen nhw’n gallu bod yn berswadiol tu hwnt. Mae yna dystiolaeth o arferion drwg a niwed i ddefnyddwyr yn yr arferion gwerthu hyn.

Back to top

Mynnwch wybod eich hawliau



Mae’n hanfodol bod unigolion sy’n dewis prynu nwyddau neu wasanaethau ar y rhiniog yn ymwybodol o’u hawliau statudol. Gweler isod i gael rhagor o wybodaeth am Reoliadau Gwerthu ar y Rhiniog, a hefyd Sut i drafod gwerthwyr ar y rhiniog

Back to top

Rheoliadau Gwerthu ar y Rhiniog

Mae Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr (Canslo Contractau a Gwblhawyd oddi ar Fangre Busnes) 1987, a gafodd eu diwygio ym 1998 ac sy’n cael eu galw yn fwy cyffredin yn “Rheoliadau Gwerthu ar y Rhiniog” yn gymwys i’r rhan fwyaf o fusnes ar garreg y drws (ond sylwch yn benodol nad ydyn nhw’n gymwys i fusnes sy’n cynnwys tir, morgeisiau, yswiriant, credyd defnyddwyr a’r mwyafrif o wasanaethau ariannol eraill). Mae’r Rheoliadau’n rhoi’r canlynol i ddefnyddwyr:

  • yr hawl i gael cyfnod ailfeddwl o saith diwrnod, pryd y cân nhw ganslo cytundeb i brynu nwyddau neu wasanaethau sy’n werth mwy na £35 oddi wrth fasnachwr sydd wedi ymweld â nhw heb wahoddiad (hynny yw, heb i’r defnyddiwr ofyn iddyn nhw alw).
  • yr un hawl i gael cyfnod ailfeddwl o saith diwrnod os bydd y masnachwr yn ymweld yn sgil cysylltu heb wahoddiad ar garreg y drws neu dros y ffôn.  
    Sylwch nad yw’r amddiffyniadau hyn yn gymwys os bydd y defnyddiwr yn mynd ati o’i ben a’i bastwn ei hun i wahodd masnachwr i ymweld.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn darparu:

  • bod masnachwyr sy’n methu â rhoi gwybod i ddefnyddwyr mewn ysgrifen fod ganddyn nhw hawl i gael cyfnod ailfeddwl yn cyflawni tramgwydd troseddol.
  • bod rhaid i werthwyr o ddrws i ddrws roi hysbysiad sy’n nodi’r hawliau canslo pan fydd unrhyw gytundeb yn cael ei wneud. Mae methu â gwneud hyn yn golygu nad oes modd i’r cytundeb gael ei orfodi. Mae hyn yn wir p’un a fydd blaendal yn cael ei dalu neu beidio.
  • bod rhaid i’r defnyddiwr ysgrifennu at y masnachwr er mwyn arfer yr hawliau canslo hyn (neu at unrhyw berson sydd wedi’i bennu gan y masnachwr yn yr hysbysiad ynglŷn â’r hawliau canslo). Os caiff ei anfon drwy’r post, bydd y canslo yn dod i rym ar yr adeg y caiff ei bostio.

Os bydd nwyddau (er enghraifft, cegin osod) yn cael eu gosod yn ystod y cyfnod ailfeddwl o saith diwrnod, sylwch y caiff y defnyddiwr ganslo’r contract, ond ei bod yn bosibl y bydd rhaid iddo dalu’r costau sy’n gysylltiedig â’r gwaith gosod (er enghraifft anfon y nwyddau a’u ffitio). Bydd unrhyw drefniadau credyd yn parhau mewn grym, ond fydd dim rhaid talu llog ar unrhyw arian sydd wedi’i dalu o fewn mis ar ôl canslo neu cyn bod y rhandaliad cyntaf yn ddyledus

Back to top

Galwadau ffôn



Caiff defnyddwyr gofrestru gyda’r Gwasanaeth Dewisiadau Ffôn i atal galwadau ffôn nad oes eu heisiau ac sy’n ceisio gwerthu pethau. Ar ôl ichi gofrestru, mae’n anghyfreithlon i fusnes ffonio unigolyn heb wahoddiad, ac mae unigolyn yn cynnwys defnyddwyr, unig fasnachwyr a (heblaw yn yr Alban) partneriaethau.

Telephone Preference Service
70 Margaret Street
London
SW1Y 4EE
Y rhif ffôn er mwyn cofrestru: 0845 070 0707
Dylai ymholiadau neu gwynion am arferion masnachu cyflenwyr ynni gael eu cyfeirio at Energywatch.

Os gwelwch chi nam ar eitem drydan yn ystod yr ychydig fisoedd cyntaf ar ôl ichi ei phrynu, dylech fynd yn ôl at y manwerthwr a werthodd yr eitem i chi (nid y gweithgynhyrchydd).


 

 


"Nôl i'r brig

Did you know

Os prynwch rywbeth sy'n costio mwy na £35 oddi wrth werthwr sy'n galw heibio i'ch cartref, mae gennych saith niwrnod i ganslo eich archeb.

Rhagor o Wybodaeth >