Ewch yn syth i'r cynnwys

Byddwch yn ymwybodol

Mae nwyddau ffug yn broblem aruthrol ac maen nhw ar gael yn fwy ac yn fwy eang. Mae lefelau technoleg wedi gwella gymaint nes ei bod yn hawdd i droseddwyr greu copïau soffistigedig.

Back to top

Beth yw’r nwyddau ffug mwyaf cyffredin?

  • Dillad, watsys, persawr a cholur â labeli dylunwyr enwog.
  • Alcohol.
  • CDs, DVDs, tapiau fideo a thapiau sain.
  • Meddalwedd gyfrifiadur, fel gemau.
  • Cydrannau i gerbydau.
  • Offer crefftwaith.

Back to top

Sut mae osgoi prynu nwyddau ffug?

  • Er mwyn osgoi prynu nwyddau ffug, mae’r cynghorion gorau yn cynnwys:
  • Byddwch yn amheus ynghylch bargeinion. Os yw’n ymddangos bod rhywbeth yn rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod e!
  • Gofynnwch a oes yna warant ichi, neu wasanaethau ar ôl ichi brynu.
  • Edrychwch yn ofalus ar ansawdd y nwyddau.
  • Chwiliwch am gamsillafu a logos gwael ar labeli a phecynnau.
  • Byddwch yn arbennig o wyliadwrus mewn marchnadoedd ar y stryd, arwerthiannau cist car, tafarndai a ffeiriau cyfrifiadur, neu mewn sefyllfaoedd eraill lle gallai fod yn fwy anodd cysylltu â’r masnachwr ar ôl ichi brynu.
  • Dylech ofalu hefyd na fyddwch yn prynu nwyddau ffug ar y rhyngrwyd. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar y daflen ffeithiau Siopa’n ddiogel ar y Rhyngrwyd.

Back to top

Pam dylech chi osgoi prynu nwyddau ffug?

Mae llawer o resymau pam na ddylech chi brynu nwyddau ffug – a rhai na fyddwch chi wedi meddwl amdanyn nhw o’r blaen efallai.

  • Gallai’r nwyddau fod yn beryglus – o golur sy’n gallu achosi brech ar y croen i gydrannau ceir ffug sy’n gallu achosi marwolaeth.
  • Mae llawer o nwyddau ffug yn ariannu delwyr cyffuriau a throseddau trefnedig eraill – hyd yn oed terfysgaeth.
  • Efallai y byddwch yn talu trethi uwch yn y pen draw achos dydy’r bobl sy’n delio mewn nwyddau ffug ddim yn talu – cwsmeriaid fel chi sy’n talu’r gwahaniaeth yn y pen draw.
  • Gallech chi beri bod pobl leol yn colli eu swyddi oherwydd dydy gweithgynhyrchwyr dilys ddim yn gallu cystadlu â’r troseddwyr sy’n gwneud ac yn gwerthu nwyddau ffug.
  • Os prynwch chi nwyddau ffug ac nad ydyn nhw’n ateb eich disgwyliadau, chewch chi ddim gwarant na gwasanaeth ar ôl eu prynu.
  • Mae nwyddau ffug yn amddifadu perchennog yr hawlfraint o arian a allai gael ei ddefnyddio i ariannu datblygiadau newydd.

Back to top

Beth mae’r gyfraith yn ei ddweud?

Mae’n anghyfreithlon gosod nod masnach cofrestredig ar nwyddau, neu wneud copi union o nwyddau sy’n dwyn nod masnach cofrestredig, heb gael caniatâd perchennog y nod masnach.

Hyd yn oed os nad oes nod masnach wedi’i gofrestru ar gyfer nwyddau, mae’n dal yn bosibl dwyn achos weithiau yn erbyn rhywun sy’n gwneud copïau o nwyddau, neu sy’n gosod nodau ar nwyddau, heb ganiatâd y person sydd eisoes yn masnachu’r nwyddau hynny a’r nodau sy’n gysylltiedig â nhw. Yr enw ar hyn yw achos ‘efelychu’.

Mae’n dal yn bosibl y gallwch ddefnyddio’ch hawliau statudol yn erbyn y gwerthwr - am nad yw’r nwyddau’n cyd-fynd â’r disgrifiad. I gael rhagor o gyngor am hyn, dylech gysylltu â Chyswllt Defnyddwyr.

Gall fod yna hawlfraint ar nwyddau penodol, fel dyluniadau artistig ar ddillad, rhaglenni cyfrifiadur, CDs, DVDs a chyfryngau electronig eraill. Gall yr hawlfraint fod yn cael ei thorri os caiff y nwyddau hyn eu copïo heb ganiatâd perchennog yr hawlfraint.

Mae’r nwyddau sy’n torri’r hawlfraint yn cael eu hadnabod fel rheol fel nwyddau 'ffug’ neu nwyddau 'peirat’.



Back to top

Beth gallwch chi ei wneud?

Os hoffech wybod rhagor am nwyddau ffug, neu os ydych yn meddwl bod rhywun yn gwerthu nwyddau ffug, ffoniwch Gyswllt Defnyddwyr.

Mae’r Cynghrair yn erbyn Ffugio a Pheiratio (AACP) yn gynghrair o gymdeithasau masnach a sefydliadau gorfodi diwydiannol ym Mhrydain sydd â diddordeb mewn atal nwyddau ffug a pheiratio yn y DU. Nod y cynghrair yw helpu busnesau dilys i ffynnu fel nad yw nwyddau is-safonol, a allai fod yn beryglus, yn creu risgiau i ddefnyddwyr.

Mae gan wefan Eiddo Deallusol y Llywodraeth ragor o gyngor am sut i osgoi prynu nwyddau ffug.

Nôl i’r brig

Os gwelwch chi nam ar eitem drydan yn ystod yr ychydig fisoedd cyntaf ar ôl ichi ei phrynu, dylech fynd yn ôl at y manwerthwr a werthodd yr eitem i chi (nid y gweithgynhyrchydd).
Rhagor o wybodaeth >
• © Hawlfraint y Goron
• | Telerau ac amodau


"Nôl i'r brig

Did you know

Os prynwch nwyddau ffug ac nac ydynt yn cwrdd â’ch disgwyliadau, ni chewch unrhyw wasanaeth gwerthu na gwarant, Y pethau ffug mwyaf cyffredin yw dillad dyluynwyr, watshis, persawr, DVDs ac alcohol.

Rhagor o Wybodaeth >