Ewch yn syth i'r cynnwys

Byddwch yn ymwybodol

Meddwl prynu rhywbeth dros y môr? Mae’r rhyngrwyd wedi’i gwneud yn llawer haws prynu o wledydd tramor, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’r problemau posibl. Bydd y rhestr gyfeirio yma yn eich helpu i osgoi rhai o’r anawsterau wrth siopa ar draws ffiniau.

Pethau i’w hystyried

Ystyriwch y canlynol cyn ichi brynu yn rhyngwladol, p’un a fyddwch chi’n siopa ar y rhyngrwyd neu drwy unrhyw fodd arall:

  • Fydd e’n gweithio? Mae’r safonau a’r systemau’n amrywio o wlad i wlad. Gofynnwch i’r cyflenwr gadarnhau y bydd y nwyddau, er enghraifft nwyddau trydan, yn gymharus.
  • Gwnewch yn siŵr fod unrhyw warant yn ddilys yn y DU. Efallai y bydd rhaid ichi ddychwelyd y cynnyrch i wlad y cyflenwr os bydd yna broblem.
  • Chwiliwch am gostau cudd fel TAW, tollau, taliadau am ddod â’r nwyddau atoch, postio a phacio. Mae gwybodaeth ar gael ar wefan y Tollau Tramor a Chartref ynghylch pryd mae’n rhaid talu TAW a thollau. Er hynny, os yw’ch cyflenwr wedi’i leoli yn yr UE, fe ddylai’r pris y mae’n ei roi ichi gynnwys yr holl drethi.
  • Pa mor hawdd fydd hi i ddatrys unrhyw broblemau? Os bydd yna broblemau, efallai y bydd rhaid ichi gymryd camau cyfreithiol yng ngwlad y gwerthwr.



"Nôl i'r brig

Did you know

Os prynwch chi nwyddau ffug ac nad ydyn nhw’n bodloni’ch disgwyliadau, chewch chi ddim gwasanaeth na gwarant ar ôl ichi eu prynu.

Rhagor o Wybodaeth >