Ewch yn syth i'r cynnwys

Eich hawliau

Os ydych chi wedi prynu ar-lein oddi wrth gwmni yn y DU, mae llawer o’ch hawliau chi yr un fath ag wrth brynu mewn siop. Mae hawliau ychwanegol gennych chi hefyd - darllenwch ragor i ddysgu mwy.

Back to top

Yr hyn y mae gennych hawl i’w gael

  • Gwybodaeth glir am y nwyddau neu’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig cyn ichi brynu.
  • Cadarnhad ysgrifenedig am yr wybodaeth yma ar ôl ichi brynu.
  • Cyfnod 'ailfeddwl’ pryd y gall archeb gael ei dileu heb reswm, gydag ad-daliad llawn.
  • Ad-daliad llawn os na chaiff y nwyddau neu’r gwasanaethau eu darparu erbyn y dyddiad y cytunwyd arno. Os na wnaethoch chi gytuno ar ddyddiad, yna mae gennych hawl i gael ad-daliad llawn os na chaiff y nwyddau neu’r gwasanaethau eu darparu o fewn 30 diwrnod.

Mae’r hawliau yma’n gymwys ym mhob math o siopa o’ch cartref, nid dim ond dros y rhyngrywd. Mae yna achosion lle nad yw’r hawliau ychwanegol yma yn gymwys:

  • Gwasanaethau ariannol, fel yswiriant neu fancio.
  • Ocsiynau ar-lein. Byddwch yn ofalus wrth brynu mewn ocsiwn ar-lein oherwydd mae ocsiwnïar, yn wahanol i werthwyr eraill, yn cael gwrthod cymryd cyfrifoldeb dros ansawdd y nwyddau yn yr ocsiwn. Darllenwch yr amodau gwerthu yn ofalus. Ond, oni bai bod y gwerthwr yn unigolyn preifat, mae’r telerau contract safonol sydd wedi’u nodi yn Rheoliadau Telerau Annheg mewn Contractau Defnyddwyr 1999 yn dal yn gymwys.
  • Prynu o beiriannau gwerthu.
  • Contractau sy’n cynnwys gwerthu tir.

Yn achos gwasanaethau ariannol, mae’n bosibl y bydd hawliau gennych o dan Reoliadau Gwasanaethau Ariannol (Marchnata o Hirbell) 2004.

Back to top

Prynu ar gerdyn credyd

Os yw cost y nwyddau neu’r gwasanaethau rydych chi wedi’u prynu yn fwy na £100 a’ch bod wedi talu â cherdyn credyd, mae’n bosibl eich bod wedi’ch diogelu gan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr. Mae honno’n dweud bod y cwmni cerdyn credyd yr un mor atebol am unrhyw ddiffygion. Oherwydd hynny, os bydd problem yn codi, cewch wneud cais yn erbyn y masnachwr neu’r cwmni cerdyn credyd.

Er mwyn i’r diogelwch yma fod yn gymwys, sylwch fod rhaid i bris y contract fod yn fwy na £100. Er enghraifft, os ydych chi wedi prynu siwt, a’r siaced yn costio £75 a’r trowsus yn costio £40, fe fydd diogelwch ar gael ichi. Ond, os ydych chi wedi prynu’r ddwy eitem ar wahân yn hytrach nag fel un siwt, fydd yr un diogelwch ddim ar gael ichi, a hynny am nad yw’r naill eitem na’r llall wedi costio mwy na £100.

Mae problemau’n gallu codi pan fydd pencadlys y cwmni sydd wedi gwerthu ichi y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd. Er enghraifft, efallai na fydd gwarant yn ddilys yn y DU, neu efallai na fydd y nwyddau’n gweithio yn y DU. Er bod eich contract yn dod o dan gyfraith y DU, yn ymarferol fe allai fod yn anodd iawn sicrhau arian yn ôl gan gwmni sydd â phencadlys dros y môr.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler Prynu ar gredyd

Back to top

Ocsiynau rhyngrwyd

Mae gennych chi lai o hawliau wrth brynu’n breifat, boed drwy hysbyseb fach mewn papur newydd neu mewn ocsiwn ar y rhyngrywd. Wrth werthu’n breifat, mae’n rhaid i’r nwyddau gyd-fynd â’r disgrifiad, ond dydy gwerthwr nad yw’n gweithredu fel busnes ddim yn dod o dan y rheolau ar ansawdd foddhaol ac addasrwydd at y diben.

Os cewch chi broblem, fe allai fod yn anos ei datrys na phe baech wedi prynu mewn siop. Mae rhai gwefannau ocsiynau neu brosesau trydydd parti (paypal, nochex, etc) yn cynnig prosesau datrys cwynion neu warantau atal twyll. Ond nid pawb sy’n cynnig y rhain, felly darllenwch y telerau a’r amodau. Mae’n debyg y bydd rhwymedigaethau’r wefan tuag atoch yn gyfyngedig.

Back to top

Cynhyrchion iechyd ar-lein

Os prynwch chi gynhyrchion iechyd ar-lein, mynnwch wybod eich hawliau. Cofiwch fod genych hawl i gael:

  • cyfnod canslo sy’n dechrau pan gaiff y contract ei wneud, gan redeg nes bod saith diwrnod gwaith wedi dod i ben ar ôl y diwrnod y daw’r nwyddau i law
  • hysbysiad ynghylch eich hawl i ganslo – os na fydd hysbysiad cywir ynghylch eich hawl i ganslo’n cael ei roi, bydd eich hawl i ganslo yn rhedeg am dri mis a saith diwrnod gwaith ar ôl i’r nwyddau ddod i law 
  • cyfeiriad daearyddol llawn (dydy Blwch Swyddfa’r Post ddim yn ddigon), heb fod yn hwyrach na’r adeg y daw’r nwyddau i law 
  • ad-daliad llawn, ar ôl ichi roi hysbysiad canslo mewn ysgrifen neu ar ffurf arall sy’n parhau, a hynny heb i ddim byd gael ei dynnu am gostau’r gwaith trafod a chludo ar y dechrau.
  • Sylwch na chewch ofyn am ad-daliad os ydych chi wedi bwyta neu yfed y nwyddau neu wedi’u defnyddio mewn ffordd arall.

Back to top

Os aiff rhywbeth o’i le

  • Os prynwch chi nwyddau ar y rhyngrwyd, mae’r un hawliau gennych â phe baech chi wedi siopa ar y stryd fawr, o ran nwyddau diffygiol neu nwyddau sydd wedi’u disgrifio’n wael.
  • Ar ben hynny, mae gennych hawl i gael cyfnod ‘ailfeddwl’ o saith diwrnod gwaith.

"Nôl i'r brig

Did you know

I fod yn gyfran amser, rhaid i ddefnyddiwyr dreulio cyfnod penodol (ond heb fod yn llai nag wythnos) mewn eiddo gwyliau bob blwyddyn am dair blynedd neu fwy.

Rhagor o Wybodaeth >