Ewch yn syth i'r cynnwys

Problemau gyda gwerthwyr dros y môr

Mae yna gyrff rhyngwladol a allai chwarae rhan os cewch chi broblem wrth brynu o wlad dramor. Rhowch wybod iddyn nhw os bydd cwyn gennych - gallai hynny helpu pobl eraill hefyd yn y dyfodol.

I weld rhagor am broblemau o ran gwerthwyr tramor, edrychwch ar Gwybod eich hawliau – Prynu dros y môr

Back to top

Canolfannau Gwybodaeth Defnyddwyr Ewrop

Mae cyfanswm o 13 o ganolfannau gwybodaeth yn rhoi cyngor a chymorth ar sut i ddatrys cwynion defnyddwyr ar draws ffiniau’r UE. Gallwch ddod o hyd i ganolfannau gwybodaeth yn Ffrainc, Lwcsembwrg, Sbaen, Iwerddon, Awstria, yr Almaen, Y Ffindir, Gwlad Belg, Sweden a Phortiwgal.

Yn y DU, mae gwasanaeth y canolfannau gwybodaeth yn cael ei ddarparu drwy gyfrwng Cyngor ar Bopeth.

Back to top

Rhwydwaith All-farnwrol Ewrop (EEJ Net)

Bydd y rhwydwaith yma ar gyfer datrys anghydfodau defnyddwyr y tu allan i’r llys yn ei gwneud yn haws i ddefnyddwyr geisio cael iawn mewn anghydfodau â chyflenwyr o wlad arall yn yr Undeb Ewropeaidd yn ogystal â Norwy a Gwlad yr Iâ. Cafodd cyfnod peilot EEJ Net ei lansio ar 16 Hydref 2001.

Mae gan bob gwlad sy’n cymryd rhan, gan gynnwys y DU, bwynt cysylltu, neu dŷ clirio, canolog. Yma, gall defnyddwyr gael gwybodaeth a chyngor wrth gyrchu’r systemau amgen presennol mewn gwlad arall ar gyfer datrys anghydfodau y tu allan i’r llys.

Os ydych chi am fynd â’ch cwyn i gorff sy’n datrys anghydfodau mewn ffordd amgen, sylwch ei bod yn bosibl na fyddwch yn cael mynd i’r llys yn nes ymlaen os byddwch yn anfodlon ar y canlyniad. Holwch am hyn cyn ichi gyfeirio’ch cwyn yn ffurfiol at y corff amgen.

Y tŷ clirio yn y DU yw Cymdeithas Genedlaethol Cyngor ar Bopeth. Ffôn: 01902 310 568.

Back to top

Rhwydwaith Rhyngwladol Diogelwch a Gorfodaeth Defnyddwyr (ICPEN)

Mae’r OFT yn aelod o ICPEN, sef rhwydwaith byd-eang o asiantaethau cenedlaethol ar gyfer diogelu defnyddwyr. Er nad yw ICPEN yn helpu defnyddwyr unigol fel arfer, mae wedi sefydlu system i helpu i ddatrys anghydfodau cymharol fach ar draws ffiniau. Os yw canolfan y cyflenwr y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, mae’n bosibl i’r OFT drosglwyddo cwynion addas gan ddefnyddwyr unigol (mae ffurflen gwyno arbennig ar gael) i’r asiantaeth dramor berthnasol. Yna caiff y ffurflen gwyno ei hanfon ymlaen at y busnes o dan sylw i gael ymateb.

Office of Fair Trading
Fleetbank House
2-6 Salisbury Square
London EC4Y 8JX

Back to top

Econsumer.gov

Gall cwyn am fusnes rhyngrwyd dros y môr gael ei chofrestru yn www.econsumer.gov, sef cronfa ddata o gwynion gan ddefnyddwyr rhyngwladol sy’n cael ei chynnal gan Gomisiwn Masnach Ffederal yr Unol Daleithiau. Gall eich gwybodaeth chi helpu’r awdurdodau i rwystro masnachwyr rhyngrwyd anonest yn y dyfodol. Bydd eich cwyn ar gael i’w gweld gan yr asiantaethau llywodraeth sy’n gorfodi’r gyfraith yn y gwledydd sy’n cymryd rhan. Mae’r rhan fwyaf o’r asiantaethau sy’n cymryd rhan yn methu ymdrin â chwynion unigol - dylech ddarllen yn ofalus sut y gallen nhw ddefnyddio’ch manylion chi.

Mae’r wefan hefyd yn rhoi gwybodaeth gyffredinol am ddiogelu defnyddwyr yn yr holl wledydd sy’n cymryd rhan, a gwybodaeth am gysylltu â’r cyrff sy’n diogelu defnyddwyr yn y gwledydd hynny.

Y gwledydd sy’n cymryd rhan yw Awstralia, Canada, De Corea, Denmarc, y Deyrnas Unedig, y Ffindir, Hwngari, Mecsico, Norwy, Seland Newydd, Sweden, y Swistir a’r Unol Daleithiau. Dim ond ar gyfer cwynion ar draws ffiniau y mae gwefan econsumer ar gael. Os cwyn am fusnes ar-lein yn y DU sydd gennych chi, dylech gysylltu â naill ai’r OFT neu’ch awdurdod safonau masnachu lleol.

Back to top

Yr Unol Daleithiau

Os ydych wedi prynu nwyddau gan gwmni yn America, yna fe allech chi gysylltu â’r ‘Comisiwn Masnach Ffederal’ (www.ftc.gov) neu’r gangen o’r ‘Biwro Gwell Busnes’ sy’n lleol i’r masnachwr (http://lookup.bbb.org).

Ar gyfer pob gwlad neu diriogaeth arall, dylech ystyried siarad â’r Llysgenhadaeth er mwyn cael gwybod pwy sy’n rhoi cyngor i ddefnyddwyr neu pwy sy’n diogelu defnyddwyr yn yr ardal honno: mae’r rhain ar gael ar wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad.

Back to top

Darparwyr gwasanaethau rhyngrwyd

Os gwnaethoch chi’r cysylltiad â’r gwerthwr drwy gyfrwng darparwr gwasanaethau rhyngrwyd (ISP), fe allech chi ofyn iddyn nhw roi cymorth. Gwnewch yn siŵr bod eich ISP chi’n aelod o Gymdeithas y Darparwyr Gwasanaethau Rhyngrwyd (ISPA). Mae’r ISPA yn gymdeithas fasnach sy’n cynrychioli rhyw 85 y cant o ddarparwyr gwasanaethau rhyngrwyd y DU. Mae’r ISPA wedi datblygu cod ymarfer y mae’n rhaid i holl aelodau’r ISPA gydymffurfio ag e. Mae’n ymdrin ag ansawdd gwasanaethau a deunyddiau anghyfreithlon ar y rhyngrwyd.

Wrth gwrs, ar gyfer pob math o gyngor i ddefnyddwyr, gallwch ffonio Cyswllt Defnyddwyr ar 08454 04 05 05.


"Nôl i'r brig

Did you know

Efallai y bydd manwerthwyr nwyddau trydan yn ceisio gwerthu gwarantiad estynedig ichi. Os prynwch chi un, mae gennych chi 45 diwrnod i newid eich meddwl.

Rhagor o Wybodaeth >