Ewch yn syth i'r cynnwys

Problemau wrth brynu o'r DU

Os aiff rhywbeth o’i le wrth ichi brynu dros y rhyngrwyd oddi wrth gwmni yn y DU, yna mae gennych yr un hawliau ag wrth brynu dros y ffôn, wrth archebu drwy’r post neu unrhyw fath arall o siopa o hirbell. Mae’r tudalen yma’n cynnig canllaw ar sut i gwyno, pwy all helpu, mynd â phethau ymhellach a mynd i’r llys.

Back to top

Sut i gwyno

Cysylltwch â’r masnachwr gyda manylion eich cwyn, a rhowch gyfle i’r masnachwr gywiro pethau. Rhowch eich cwyn mewn ysgrifen a gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

  • Dyddiad yr hysbyseb a’r wefan lle gwelsoch chi’r hysbyseb; 
  • Dyddiad eich archeb; 
  • Manylion y nwyddau neu’r gwasanaeth a archebwyd; 
  • Y swm a dalwyd a’r dull talu; 
  • Unrhyw gyfeirnod e.e. rhif archeb neu rif cyfeirnod cwsmer; 
  • Y rheswm dros eich cwyn; 
  • Unrhyw beth arall sy’n berthnasol yn eich barn chi; 
  • Sut hoffech chi i’ch cais gael ei ddatrys. 
  • Dyddiad cau rhesymol ar gyfer datrys unrhyw broblemau.

Cadwch gopïau o lythyrau ynghyd â dyddiadur o’r digwyddiadau a nodyn o unrhyw alwadau ffôn (gan gynnwys enwau pobl rydych chi wedi siarad â nhw).

Ystyriwch ddal unrhyw arian arall nôl nes bod y broblem wedi’i datrys, ond darllenwch brint mân unrhyw gontract rydych chi wedi’i lofnodi. Dylech fod yn arbennig o ofalus ynghylch dal taliadau nôl os ydych chi wedi gwneud cytundeb credyd.

Os oedd y nwyddau neu’r gwasanaeth dros £100 ac os cafodd cerdyn credyd ei ddefnyddio i dalu amdanyn nhw (hyd yn oed i dalu ernes) yna dylech siarad â’ch cwmni cerdyn credyd hefyd, oherwydd maen nhw’n gallu bod yr un mor atebol am unrhyw broblemau, o dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr.

Back to top

Pwy all helpu?

Os ydych yn dal yn anfodlon ar ôl ichi gwyno i’r masnachwr, efallai y bydd yna gymdeithas fasnach neu gorff arall y gallwch chi droi atyn nhw i gael cymorth. Mae gan rai cymdeithasau masnach godau ymarfer, sy’n rhoi arweiniad o ran a ydy’r masnachwyr wedi torri rheolau’r gymdeithas neu beidio.

Gallwch ofyn am gyngor gan gyfreithiwr hefyd. Mae rhai cyfreithwyr yn gweithio mewn canolfannau cyfraith neu asiantaethau cynghori sy’n cynnig cyngor yn rhad ac am ddim. Mae cyfreithwyr eraill yn cynnig cyfweliad cychwynnol am gost isel - mae canolfan leol Cyngor ar Bopeth yn gallu’ch helpu i ddod o hyd i un. Mae yna’r opsiwn hefyd o fynd i’r llys.

Wrth gwr, beth bynnag yw’r broblem sydd gennych fel defnyddiwr, gallwch ffonio Cyswllt Defnyddwyr i gael cyngor ar 08454 04 04 05.


"Nôl i'r brig

Did you know

Os prynwch chi rywbeth sy’n werth mwy na £35 oddi wrth werthwr sy’n galw yn eich tŷ heb wahoddiad, mae gennych chi saith diwrnod i ganslo’ch archeb.

Rhagor o Wybodaeth >