Ewch yn syth i'r cynnwys

Hurbwrcas

Os ydych chi wedi prynu nwyddau drwy hurbwrcas (HP), rydych chi’n gyfrifol am dalu’r arian yn ôl mewn rhandaliadau misol. Os ydych yn credu bod eich contract yn annheg, os hoffech ei derfynu’n gynnar, neu os na allwch fforddio’r ad-daliadau, darllenwch ragor er mwyn gweld beth i’w wneud nesaf.

Back to top

Eich hawliau wrth ddefnyddio HP

Gyda mathau eraill o gredyd, megis benthyciad neu gerdyn credyd, mae’r nwyddau rydych chi wedi’u prynu yn perthyn i chi ar unwaith. Wrth ichi ddefnyddio HP:

  • Nid chi yw perchennog cyfreithiol y nwyddau nes ichi dalu’r cyfan o’r arian sydd arnoch yn ôl. Mae hynny’n golygu na chewch chi addasu’r nwyddau na’u gwerthu heb ganiatâd y benthyciwr.
  • Contract gyda chwmni cyllid sydd gennych (nid gyda’r manwerthwr), a’r cwmni fydd perchennog y nwyddau nes i’r taliad terfynol gael ei wneud.
  • Caiff y cwmni cyllid fynd â’r nwyddau nôl os na fyddwch yn gwneud eich ad-daliadau yn gyson.
  • Chi fydd yn atebol am unrhyw ddifrod i’r nwyddau yn ystod cyfnod y contract.

O dan gytundeb hurbwrcas (HP), rydych yn talu ernes i ddechrau ac wedyn taliad bob mis (sef cyfran o’r arian rydych chi wedi’i fenthyca a llog) dros gyfnod o amser y cytunir arno.

Ar ddiwedd y cyfnod yma, bydd gennych yr opsiwn o feddiannu’r nwyddau’n llwyr, er y gall eich benthyciwr ei gwneud yn ofynnol ichi dalu ffi (holwch, achos fe allai’r ffi fod yn uchel).

Mae cytundebau gwerthu amodol (CS) yn debyg i HP. Chi fydd perchennog y nwyddau ar ôl i bob rhandaliad gael ei dalu. Fydd dim ffi ychwanegol i’w thalu ar y diwedd.

[anchor  Darllenwch y print mân]Darllenwch y print mân

Mae’n rhaid i fenthycwyr roi gwybodaeth allweddol i chi am y contract i chi gael mynd â hi i ffwrdd gyda chi i’w hystyried cyn ichi brynu.

Mae’r contract HP sydd wedi’i roi i chi i’w lofnodi yn gorfod dweud mewn iaith blaen yr hyn a ddisgwylir oddi wrthoch chi a faint y byddwch yn ei dalu.

Os yw’ch cytundeb chi yn llai na £25,000 ac nad  yw’n cynnwys yr holl wybodaeth ariannol bwysig, fe all fod rhaid i’r benthyciwr sicrhau gorchymyn llys er mwyn gorfodi’r cytundeb.

Er enghraifft:

Gallai’ch contract HP ddweud:

  • Eich bod mewn perygl o golli’r nwyddau ac y byddwch yn atebol am dalu’r swm llawn i’r benthyciwr, ar ôl un taliad hwyr nau ar ôl colli un taliad, neu os byddwch yn torri’r cytundeb mewn rhyw ffordd fach arall
  • Bod rhaid ichi dalu gordal os byddwch yn torri’r cytundeb. Er enghraifft, gorda am lythyrau atgoffa yn sgil taliad hwyr.

Fe allai’r rhain fod yn delerau annheg. Os ydych chi wedi llofnodi contract HP yn barod a chithau’n credu ei fod yn cynnwys telerau annheg, gofynnwch am gyngor. Gweler Telerau annheg mewn contractau i gael rhagor o wybodaeth.
Ending your contract early

Back to top

Dod â’ch contract i ben yn gynnar

Os yw’ch cytundeb HP yn llai na £25,000, mae gennych chi ddwy ffordd i ddod â’ch contract i ben yn gynnar:

  • Cewch derfynu contract HP a dychwelyd y nwyddau unrhyw bryd drwy ysgrifennu at y benthyciwr, cyhyd ag y byddwch yn talu cyfanswm o hanner pris y nwyddau (bydd yr union swm wedi’i nodi mewn blwch ar du blaen eich contract). Ond bydd rhaid hefyd ichi dalu’r cyfan o unrhyw gredyd a gawsoch chi er mwyn talu am yswiriant. Os ydych chi wedi talu hanner yn barod, y cyfan mae’n rhaid ichi ei dalu yw unrhyw daliadau gafodd eu colli neu unrhyw ddifrod i’r nwyddau. Ond os ydych chi wedi talu mwy na’r swm yma yn barod, chewch chi ddim ad-daliad. Ddylech chi ddim gorfod talu am ddychwelyd y nwyddau. Os oes rhaid ichi fynd â’r nwyddau yn ôl o dan delerau’ch contract, dim ond i rywle o fewn pellter rhesymol i’ch cartref y dylai hynny fod.
  • Cewch dalu’ch benthyciad yn gynnar hefyd (gan gynnwys unrhyw gredyd am yswiriant) a chadw’r nwyddau. Cysylltwch â’ch benthyciwr i gael gwybod faint y bydd hyn yn ei gostio. Bydd gennych hawl i gael gostyngiad ar gyfer taliadau’r dyfodol. Mae yna enghreifftiau o sut mae hynny’n cael ei gyfrifo. Dylai cytundebau credyd gynnwys enghreifftiau o faint fydd cost talu’n gynnar ar wahanol adegau.

Os nad ydych yn sicr pa ddull yw’r un gorau ichi, gofynnwch am help.

Back to top

Os na allwch chi fforddio’r ad-daliadau

  • Cysylltwch â’ch benthyciwr cyn gynted ag y gallwch: efallai y bydd modd ail-negodi’r trefniant. Mae yna gynghorwyr annibynnol ar gael y gallwch siarad â nhw yn rhad ac am ddim.
  • Mae gan eich benthyciwr hawl i fynd â’r nwyddau yn ôl os na fyddwch yn talu’ch ad-daliadau’n gyson. Bydd hysbysiad yn cael ei anfon atoch yn gyntaf, i roi cyfle ichi gywiro pethau. Ond bydd rhaid ichi weithredu’n gyflym - cyn pen saith diwrnod.
  • Os nad oes arian gennych i gywiro pethau, esboniwch hynny i’r benthyciwr. Os na fydd y benthyciwr yn cytuno i gymryd llai na’r taliad llawn, mae’n cael mynd â chi i’r llys. Cewch chithau ofyn i’r llys roi mwy o amser ichi i dalu os ydych chi’n sicr eich bod am barhau â’r trefniant. Gofynnwch am gyngor am hyn.
  • Os ydych chi wedi talu mwy nag un rhan o dair o gyfanswm cost yr HP neu’r CS (heb gynnwys unrhyw yswiriant), bydd ar eich benthyciwr angen gorchymyn llys er mwyn mynd â’r nwyddau nôl. Os ydych chi wedi talu llai na hyn, mae’r benthyciwr yn dal yn methu dod i’ch eiddo i fynd â’r nwyddau heb orchymyn llys, oni bai eich bod chi’n rhoi caniatâd iddyn nhw.
  • Os ydych yn cael problemau o ran parhau â’r ad-daliadau, fe allai fod yn rhatach yn y tymor hir ichi roi’r nwyddau nôl.

Back to top

Cwyno am nwyddau a brynwyd drwy hurbwrcas

Os nad ydych yn fodlon ar nwyddau sydd wedi’u prynu drwy hurbwrcas, gallwch gwyno. Gweler ein templed llythyr ar gyfer cwyno am nwyddau diffygiol a brynwyd drwy hurbwrcas


"Nôl i'r brig

Did you know

Efallai y bydd manwerthwyr nwyddau trydan yn ceisio gwerthu gwarantiad estynedig ichi. Os prynwch chi un, mae gennych chi 45 diwrnod i newid eich meddwl.

Rhagor o Wybodaeth >