Cwnsela ynghylch dyledion
Dydy Cyswllt Defnyddwyr ddim yn darparu gwasanaeth cwnsela ar gyfer dyledion, ond mae’n gallu rhoi cyngor pan fydd credydwr neu gasglwr dyledion yn gweithredu’n anghyfreithlon. Gall nifer o gyrff eich helpu i ddatrys eich dyled.
Canolfannau Cyngor ar Bopeth
Mae canolfannau Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor cyfrinachol a diduedd am ddyled a hynny yn rhad ac am ddim. Mae manylion eich canolfan agosaf i’w gweld yn eich llyfr ffôn lleol.
Advice UK
12th Floor, New London Bridge House,
25 London Bridge Street, London SE1 9ST
Ffôn: 020 7407 4070
I ddod o hyd i asiantaethau yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â Chymdeithas y Canolfannau Cynghori Annibynnol ar 028 9064 5919
Y Llinell Ddyledion Genedlaethol
Llinell gymorth sydd ar gael am ddim dros y ffôn yw hon, i bobl sydd â phroblemau gyda dyledion yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
Ffôn: 0808 808 4000
Gwasanaeth Cwnsela Credyd Defnyddwyr
Yn darparu gwasanaeth cyfrinachol am ddim i helpu i sicrhau atebion realistig i broblemau gyda dyledion, osgoi methdaliad a dysgu trin a thrafod arian.
Ffôn: 0800 138 1111

