Ewch yn syth i'r cynnwys

Eich cofnod gredyd

Os ydych chi’n credu bod benthyciad, cerdyn credyd neu gytundeb credyd wedi’u gwrthod ichi oherwydd eich cofnod credyd gydag asiantaeth, gallwch wirio’r wybodaeth sydd ganddyn nhw amdanoch chi.

Back to top

Gweld eich cofnod credyd

Os oedd arnoch eisiau credyd ar gyfer hyd at £25,000, cewch ofyn i’r benthyciwr a’ch gwrthododd roi enw a chyfeiriad unrhyw asiantaeth cyfeirio credyd a roddodd wybodaeth amdanoch chi os byddwch yn ysgrifennu at y benthyciwr cyn pen 28 diwrnod ar ôl eich cysylltiad diwethaf ynghylch y trefniant credyd. Os defnyddiodd y benthyciwr asiantaeth gredyd, mae’n rhaid iddo roi enw a chyfeiriad yr asiantaeth ichi o fewn saith diwrnod gwaith ar ôl cael eich llythyr.

Mae tair prif asiantaeth gredyd yn y DU, sef:

Callcredit plc
PO Box 491
Leeds LS3 1WZ
Ffôn: 0870 060 1414

Experian Limited
Y Gwasanaeth Cymorth Defnyddwyr
PO Box 8000
Nottingham NG1 5GX
Ffôn: 0870 241 6212

Equifax plc
PO Box 1140
Bradford
BD1 5US
Ffôn: 0870 514 3700

Gallwch ysgrifennu atyn nhw ar unrhyw adeg i ofyn am gael gweld yr wybodaeth amdanoch chi sydd ganddyn nhw. Gallwch archebu copi o’ch ffeil hefyd ar-lein a thros y ffôn gan Equifax ac Experian, ar yr amod bod gennych chi naill ai cerdyn credyd neu gerdyn debyd yn eich enw chi’ch hun.

Os ysgrifennwch chi, fe fydd angen ichi:

  • Anfon ffi (sef isafswm o £2 fel arfer, ond mae’n dibynnu ar yr asiantaeth) 
  • Rhoi’ch enw llawn, eich dyddiad geni, eich cyfeiriad a’ch cod post 
  • Cynnwys unrhyw gyfeiriadau eraill lle buoch yn byw yn y chwe blynedd diwethaf 
  • Rhoi enw a chyfeiriad eich busnes os ydych yn unig fasnachwr neu’n bartneriaeth, oherwydd fe allai fod gan yr asiantaeth wybodaeth amdanoch o dan yr enw hwnnw.

Cadwch gopïau o unrhyw lythyrau y byddwch yn eu hanfon.

Rhaid i’r asiantaeth ateb o fewn saith diwrnod gwaith er mwyn:

  • Gofyn am ragor o wybodaeth gennych i’w helpu i ddod o hyd i’ch ffeil, neu 
  • Ddweud nad oes ganddi ffeil amdanoch chi, neu
  • Anfon y ffeil atoch.

Back to top

Newid eich ffeil

Cewch ofyn i’r asiantaeth newid yr wybodaeth yn eich ffeil os yw honno’n anghywir, neu os yw’n cynnwys manylion am bobl sydd heb gysylltiad ariannol â chi.

Chewch chi ddim trefnu dileu gwybodaeth dim ond am ei bod yn peri embaras.

Os oes arnoch angen rhagor o gyngor am ddelio ag asiantaethau credyd, cysylltwch â Llinell Wybodaeth y Comisiynydd Gwybodaeth ar 01625 545 745.


"Nôl i'r brig

Did you know

Os gwelwch chi nam ar eitem drydan yn y misoedd cyntaf ar ôl ei phrynu, dylech fynd nôl at y manwerthwr a’i gwerthodd i chi (nid at y gweithgynhyrchydd).

Rhagor o Wybodaeth >