Ewch yn syth i'r cynnwys

Prynu ar gredyd?

Gall fod hawliau ychwanegol gennych os ydych wedi prynu nwyddau diffygiol neu os oes gwaith gwael wedi’i wneud ichi, a naill ai os ydych wedi talu â cherdyn credyd (hyd yn oed yr ernes yn unig) neu os trefnodd y masnachwr gredyd ar eich rhan.

  • Cyhyd ag y bo pris y contract yn fwy na £100, mae’n bosibl y bydd y cwmni credyd yr un mor atebol am nwyddau diffygiol, neu waith o ansawdd wael neu wasanaethau annigonol. Cysylltwch â Chyswllt Defnyddwyr i gael rhagor o gyngor. 
  • Os cewch chi broblem, cysylltwch â naill ai’r masnachwr neu’r cwmni credyd neu’r ddau. Os prynsoch chi ar hurbwrcas (edrychwch ar eich cytundeb), mae’n rhaid ichi gysylltu â’r cwmni credyd am fod yna reolau gwahanol. Cysylltwch â Chyswllt Defnyddwyr i gael rhagor o gyngor. 
  • Os ydych yn cysylltu â’r cwmni credyd, ysgrifennwch at y brif swyddfa a rhowch rif eich cyfrif. Gallwch weld cyfeiriad y brif swyddfa a rhif eich cyfrif ar eich cytundeb credyd neu ar unrhyw gyfriflen y maen nhw’n ei hanfon atoch. Does dim ots a ydych chi wedi talu pob rhandaliad yn barod neu beidio.
  • I gael cymorth wrth ysgrifennu’ch llythyr, gweler y templedi llythyrau. Anfonwch eich llythyr drwy’r Dosbarthiad wedi’i Gofnodi (rhaid ichi fynd i Swyddfa’r Post i wneud hyn). Cadwch gopi o’ch llythyr. 
  • Os na chewch chi ateb i’ch llythyr, anfonwch air i atgoffa’r cwmni credyd. Cynhwyswch gopi o’ch llythyr diwethaf. Cofiwch gadw copi o’r ddau lythyr. Anfonwch eich llythyr atgoffa drwy’r Dosbarthiad wedi’i Gofnodi.
  • Os bydd y cwmni credyd yn gofyn am ragor o wybodaeth, rhowch gymaint o gymorth ag y gallwch. Gallai hynny eu helpu i ddatrys y broblem. Os byddan nhw’n gofyn am dderbynebau neu ddogfennau eraill, anfonwch gopïau, nid y rhai gwreiddiol. Cadwch gopi o’ch ateb.
  • Os bydd y cwmni credyd yn cynnig gwneud rhywbeth, ond nid yr hyn rydych chi wedi gofyn amdano, cewch naill ai derbyn y cynnig neu negodi er mwyn cael cynnig gwell. Cadwch gopi o unrhyw lythyr y byddwch yn ei ysgrifennu. 
  • Byddwch yn rhesymol o ran yr hyn rydych chi’n fodlon ei dderbyn. Weithiau mae’n well cyfaddawdu. Dim ond chi a all benderfynu. Cofiwch, rydych chi bob amser yn cael cysylltu â Chyswllt Defnyddwyr i gael cyngor. 
  • Os na fydd y cwmni credyd yn ateb eich llythyrau, os bydd yn gwrthod gwneud dim neu os bydd yn gwneud cynnig nad ydych yn fodlon ei dderbyn, bydd angen ichi bwyso a mesur beth i’w wneud nesaf. Cysylltwch â Chyswllt Defnyddwyr i gael cyngor.
  • COFIWCH y gall fod gennych hawliad yn erbyn y gwerthwr, y cwmni credyd neu’r ddau OS ydych chi wedi talu am y nwyddau neu’r gwaith â cherdyn credyd neu drwy gredyd a gafodd ei drefnu gan y masnachwr, AC os yw cost y contract yn fwy na £100.
  • Os byddwch yn stopio’ch taliadau credyd, byddwch yn torri’ch ochr chi i’r cytundeb ac fe allech chi wynebu achos llys a/neu ei chael yn anodd sicrhau credyd yn y dyfodol.

 


"Nôl i'r brig

Did you know

Os prynwch chi rywbeth sy’n werth mwy na £35 oddi wrth werthwr sy’n galw yn eich tŷ heb wahoddiad, mae gennych chi saith diwrnod i ganslo’ch archeb.

Rhagor o Wybodaeth >