Nwyddau diffygiol a gwasanaethau gwael a brynwyd ar gredyd
Defnyddiwch y templed hwn i ysgrifennu llythyr i gwyno i’ch cwmni credyd os ydych chi wedi talu am nwyddau diffygiol neu wasanaethau gwael ar gredyd.
Lawrlwytho’r llythyr hwn ar ffurf dogfen Word
Eich cyfeiriad post llawn
Eich cod post
Eich rhifau ffôn
Dyddiad heddiw
Y Rheolwr
Enw’r cwmni credyd/cyllid
Cyfeiriad y cwmni credyd/cyllid
Cod post y cwmni credyd/cyllid
Annwyl Syr/Madam
Rhif Cyfrif: [rhowch rif y cyfrif neu rif y cytundeb]
Deddf Gwerthu Nwyddau 1979 (fel y’i diwygiwyd)
Ar [dyddiad prynu], prynais [rhowch ddisgrifiad o’r hyn brynsoch chi, er enghraifft soffa i ddau] oddi wrth [rhowch enw’r manwerthwr] am £xxx. Rydw i wedi darganfod ei fod yn ddiffygiol.
Dyma’r problemau: [rhestrwch y diffygion, er enghraifft]
1. Mae braich y soffa’n rhydd
2. Mae hoelion i’w teimlo drwy’r ochr
3. Mae un o’r clustogau wedi mynd yn hollol fflat.
Fe gwynais iddyn nhw am hyn ar [rhowch ddyddiad eich galwad(au) ffôn]. Dydw i ddim wedi clywed dim byd wedyn.
Hoffwn wrthod y nwyddau a hawlio nwyddau newydd oddi wrthoch chi. Rydych chi’n gyd-gyfrifol o dan Adran 75 o Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974.
Byddwch cystal ag ateb fy nghwyn o fewn saith diwrnod.
Yn gywir
[Rhowch eich enw]

