Nwyddau diffygiol a brynwyd ar gredyd
Defnyddiwch y templed hwn i ysgrifennu at eich cwmni credyd neu’ch cwmni cyllid os ydych chi wedi defnyddio credyd i brynu nwyddau sy’n ddiffygiol.
Lawrlwytho’r llythyr hwn ar ffurf dogfen Word
Eich cyfeiriad post llawn
Eich cod post
Eich rhifau ffôn
Dyddiad heddiw
Y Rheolwr
Enw’r cwmni credyd/cyllid
Cyfeiriad y cwmni credyd/cyllid
Cod post y cwmni credyd/cyllid
Annwyl Syr/Madam
Rhif Cyfrif: [rhowch rif y cyfrif neu rif y cytundeb]
Deddf Gwerthu Nwyddau 1979 (fel y’i diwygiwyd)
Ar [dyddiad prynu], prynais [rhowch ddisgrifiad o’r hyn brynsoch chi, er enghraifft soffa i ddau] oddi wrth [rhowch enw’r manwerthwr] am £xxx. Rydw i wedi darganfod ei fod yn ddiffygiol.
Dyma’r problemau: [rhestrwch y diffygion, er enghraifft]
1. Mae braich y soffa’n rhydd
2. Mae hoelion i’w teimlo drwy’r ochr
3. Mae un o’r clustogau wedi mynd yn hollol fflat.
Fe gwynais iddyn nhw am hyn ar [rhowch ddyddiad eich galwad(au) ffôn]. Dydw i ddim wedi clywed dim byd wedyn.
Hoffwn wrthod y nwyddau a hawlio nwyddau newydd/ad-daliad oddi wrthoch chi. Rydych chi’n gyd-gyfrifol o dan Adran 75 o Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974.
Byddwch cystal ag ateb fy nghwyn o fewn saith diwrnod.
Yn gywir
[Rhowch eich enw]

