Nwyddau diffygiol a brynwyd drwy hur-bwrcas
Defnyddiwch y templed canlynol i ysgrifennu llythyr i gwyno am nwyddau diffygiol a brynwyd drwy hur-bwrcas.
Lawrlwytho’r llythyr hwn ar ffurf dogfen Word
Eich cyfeiriad post llawn
Eich cod post
Eich rhifau ffôn
Dyddiad heddiw
Y Rheolwr
Enw’r cwmni credyd/cyllid
Cyfeiriad y cwmni credyd/cyllid
Cod post y cwmni credyd/cyllid
Annwyl Syr/Madam,
Rhif Cyfrif: [rhowch rif y cyfrif neu rif y cytundeb]
Deddf Cyflenwi Nwyddau (Telerau Tybiedig) 1973 (fel y’i diwygiwyd)
Ar [dyddiad prynu], fe wnes i gytundeb hur-bwrcas gyda chi i brynu [rhowch ddisgrifiad o’r nwyddau, er enghraifft, car wedi’i ddefnyddio]. Cafodd y car ei gyflenwi gan [rhowch enw’r manwerthwr].
Rydw i wedi darganfod y problemau canlynol: [rhestrwch y diffygion, er enghraifft:]
1. Mae’r car wedi methu â chychwyn sawl gwaith.
2. Mae olew yn gollwng.
Fe gwynais am hyn i [rhowch enw’r manwerthwr] ar [rhowch ddyddiad eich galwad(au) ffôn, eich cwynion etc.] ac maen nhw wedi gwrthod gwneud dim byd.
O dan y ddeddfwriaeth uchod, rwy’n deall mai eich cyfrifoldeb chi yw datrys y mater.
Byddwch cystal ag ateb fy nghwyn o fewn 7 diwrnod.
Yn gywir,
[Rhowch eich enw]

