Nwyddau diffygiol
Defnyddiwch y templed hwn i ysgrifennu llythyr at y manwerthwr os ydych chi wedi prynu nwyddau diffygiol.
Lawrlwytho’r llythyr hwn ar ffurf dogfen Word
Eich cyfeiriad post llawn
Eich cod post
Eich rhifau ffôn
Dyddiad heddiw
Enw’r Perchennog neu’r Rheolwr (neu Y Rheolwr)
Enw’r Manwerthwr
Cyfeiriad y Manwerthwr
Cod post y Manwerthwr
Annwyl [enw’r perchennog neu’r rheolwr neu Syr/Madam]
Deddf Gwerthu Nwyddau 1979 (fel y’i diwygiwyd)
Ar [dyddiad prynu], prynais [rhowch ddisgrifiad o’r hyn brynsoch chi, er enghraifft soffa i ddau] oddi wrthoch chi am £xxx ac mae’n ddiffygiol.
Dyma’r problemau: [rhestrwch y diffygion, er enghraifft]
1. Mae braich y soffa’n rhydd
2. Mae hoelion i’w teimlo drwy’r ochr
3. Mae un o’r clustogau wedi mynd yn hollol fflat.
Fe gwynais i chi am hyn ar [rhowch ddyddiad eich galwad(au) ffôn]. Dydw i ddim wedi clywed dim byd wedyn.
Hoffwn wrthod y nwyddau a hawlio nwyddau newydd/ad-daliad.
Byddwch cystal ag ateb fy nghwyn o fewn saith diwrnod.
Yn gywir,
[Rhowch eich enw]

