Ewch yn syth i'r cynnwys

Llythyr atgoffa terfynol cyn mynd i’r llys

Defnyddiwch y templed canlynol i helpu i fygwth dwyn achos llys os na fydd gwerthwr neu weithiwr wedi ymateb i’ch cais neu os yw wedi rhoi ymateb anfoddhaol.

Lawrlwytho’r llythyr hwn ar ffurf dogfen Word

Eich cyfeiriad post llawn
Eich cod post
Eich rhifau ffôn


Dyddiad heddiw

Enw’r Perchennog neu’r Rheolwr (neu Y Rheolwr)
Enw’r Manwerthwr
Cyfeiriad y Manwerthwr
Cod post y Manwerthwr
 
Annwyl [enw’r perchennog neu’r rheolwr neu Syr/Madam]

Llythyr olaf cyn dwyn achos

Rydw i wedi amgáu copi o lythyr a ysgrifennais atoch ar [rhowch ddyddiad y llythyr(au)] a dydw i ddim wedi cael ymateb.

Rydw i wedi rhoi cyfle rhesymol i chi ddatrys fy nghwyn. Rydych chi wedi methu â gwneud hynny.

Erbyn hyn, does dim dewis ar ôl gen i ond ceisio sicrhau iawn cyfreithiol drwy fynd drwy’r llys. Os na fydd y mater yn cael ei ddatrys yn foddhaol o  fewn y saith diwrnod nesaf/y pedwar diwrnod ar ddeg nesaf [dileer fel y bo’n briodol] drwy [esboniwch yr hyn yr hoffech ei gael], fe fyddaf yn dechrau dwyn achos cyfreithiol heb roi rhybudd pellach. Bydd costau’r achos yn cael eu hychwanegu at fy hawliad.

Yn gywir
 
[Rhowch eich enw]

 

 

 


"Nôl i'r brig

Did you know

Os byddwch yn prynu cyfrifiadur ar-lein, gwnewch yn siŵr fod gan y cwmni gyfeiriad a rhif ffôn yn y DU, rhag ofn bod rhaid ichi gysylltu â nhw os bydd problem yn codi.

Rhagor o Wybodaeth >