Ewch yn syth i'r cynnwys

Templed rhif. 01 - Defnyddiwch y templed canlynol i ysgrifennu at eich darparwr credyd i’w hysbysu eich bod yn dal hwy yn gydatebol ac yn atebol bob yn un am y toriad.

Defnyddiwch y templed canlynol i ysgrifennu at eich darparwr credyd i’w hysbysu eich bod yn dal hwy yn gydatebol ac yn atebol bob yn un am y toriad.

Pan delir am nwyddau neu wasanaethau drwy ddefnyddio ffurf o gredyd, h.y. cerdyn credyd neu gytundeb credyd a drefnwyd gan y masnachwr, mae’n bosibl y bydd gennych hawliad atebolrwydd cydraddol yn erbyn y cwmni credyd yn unol ag adran 75 o Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974 cyn belled ag y bo’r swm yn y contract yn fwy na £100 ond yn llai na £30,000.

Yn ogystal ag ysgrifennu at y masnachwr, dylech anfon llythyr dosbarthiad a gofnodwyd / prawf postio at y cwmni credyd yn amlinellu’r problemau rydych wedi’u cael a rhoi terfyn amser ar gyfer yr un datrysiad yn unol â’r cais gan y masnachwr o fewn cyfnod penodol o amser (h.y. 14 diwrnod).

Dylech gadw copïau o’ch llythyron ar gyfer eich cofnodion.

Os taloch chi â cherdyn debyd, nid ydych yn dod o dan adran 75 ac nid oes rhwymedigaeth gyfreithiol ar ddarparwr y cerdyn i’ch ad-dalu chi. Ond efallai y gallwch ofyn am gael yr arian nôl o dan y drefn talu yn ôl a weithredir gan aelodau cynlluniau Visa a Mastercard – siaradwch â’ch banc i weld a fydd hyn yn bosibl.

Dylid defnyddio’r templed hwn fel canllaw ac efallai na fydd yn addas i’ch sefyllfa benodol. Os bydd arnoch angen cyngor ac arweiniad mwy manwl, ffoniwch Cyswllt Defnyddwyr ar 08454 04 05 06















Annwyl    ,

Rhif Cyfrif
Deddf Credyd Defnyddwyr 1974 (fel y’i diwygiwyd)

Amgaeir copïau o lythyron i mewn cysylltiad â , a brynais ar am bris o £ , .

Yn unol ag adran 75 o Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974, rwyf yn eich dal yn gydatebol ac yn atebol bob yn un am dorri’r contract â ac felly rwyf yn ceisio’r un datrysiad yn unol â'r cais ganddynt yn yr ohebiaeth amgaeedig cyn pen y 14 diwrnod nesaf.



Did you know

Mae’n bosibl y bydd manwerthwyr trydanol yn ceisio gwerthu gwarantiad estynedig i chi. Os prynwch un, mae gennych 45 diwrnod i ganslo rhag ofn i chi newid eich meddwl.

Rhagor o Wybodaeth >