Ewch yn syth i'r cynnwys

Templed rhif. 02 - Defnyddiwch y templed canlynol i ysgrifennu llythyr yn hysbysu’r masnachwr o’ch dymuniad i ganslo’r contract ar ôl iddo ymweld â chi naill ai yn eich cartref neu yn eich gweithle.

Defnyddiwch y templed canlynol i ysgrifennu llythyr yn hysbysu’r masnachwr o’ch dymuniad i ganslo’r contract ar ôl iddo ymweld â chi naill ai yn eich cartref neu yn eich gweithle.

Yn unol â Rheoliadau a wnaed yng Nghartref neu Weithle’r Defnyddiwr ac ati 2008, os byddwch yn prynu nwyddau neu wasanaethau sy’n werth mwy na £35 o ganlyniad i fasnachwr ymweld â’ch cartref neu’ch gweithle, mae’n ofynnol i’r masnachwr yn unol â’r gyfraith ddarparu copi i chi o’ch hawliau canslo gan esbonio eich hawliau i ganslo’r contract ar yr adeg y gwneir y contract. Yna bydd hyn yn rhoi 7 diwrnod i chi ganslo’r contract gan gychwyn o’r dyddiad y gwnaed y contract. Gall methu â gwneud hyn fod yn dramgwydd troseddol a gall hyn wneud y cytundeb yn anorfodadwy. Nid oes gwahaniaeth ai chi wnaeth gais am yr ymweliad neu ei fod yn un ddigymell.

(Hysbyswch Cyswllt Defnyddwyr os nad ydych wedi derbyn eich hawliau canslo)

Dylid defnyddio’r templed hwn fel canllaw ac efallai na fydd yn addas i’ch sefyllfa benodol. Os bydd arnoch angen cyngor ac arweiniad mwy manwl, ffoniwch Cyswllt Defnyddwyr ar 08454 04 05 06














Annwyl    ,

Rheoliadau Canslo Contract a wnaed yng Nghartref neu Weithle Defnyddiwr ac ati 2008

Ar , galwodd eich cynrychiolydd yn fy nghartref a am am bris o £ . Rwyf wedi talu £ tuag at y cyfanswm. Rwyf wedi penderfynu bellach nad wyf am fynd ymlaen â'r contract.

Yn unol â'r Rheoliadau uchod, mae gennyf 7 diwrnod o’r dyddiad y derbyniais y rhybudd canslo i ganslo'r contract.

Felly rwyf yn rhoi rhybudd i chi fy mod am arfer yr hawl hon i ganslo fy nghontract â chi.

Felly, rwyf am ad-daliad llawn o'r holl arian cyn pen 14 diwrnod ar ôl derbyn y llythyr hwn ynghyd â chadarnhad bod y contract wedi'i derfynu.



Did you know

Os bydd rhywbeth yn bod ar ddyfais drydanol yn yr ychydig fisoedd o’i phrynu, dylech fynd yn ôl at y manwerthwr a werthodd yr eitem i chi ( nid y gwneuthurwr).

Rhagor o Wybodaeth >