Ewch yn syth i'r cynnwys

Templed rhif. 07 - Defnyddiwch y templed canlynol ar gyfer ysgrifennu llythyr cwyno i weithiwr neu werthwr os ydynt wedi rhoi gwasanaeth gwael neu wedi cyflenwi nwyddau diffygiol fel rhan o wasanaeth.

Defnyddiwch y templed canlynol ar gyfer ysgrifennu llythyr cwyno i weithiwr neu werthwr os ydynt wedi rhoi gwasanaeth gwael neu wedi cyflenwi nwyddau diffygiol fel rhan o wasanaeth.

Pan gyflenwir gwasanaethau i chi, mae gennych hawliau yn erbyn y masnachwr yn unol â Deddf Cyflenwi Nwyddau a Gwasanaethau 1982 / Cyfraith Gyffredin Yr Alban. Yn unol â’r Ddeddf dylid gwneud gwaith gyda gofal a medr rhesymol, am bris rhesymol (oni bai ei fod yn bris penodol dan gontract), ac o fewn amser rhesymol (oni bai ei fod yn gyfnod amser penodol dan gontract).

Mae’n deddfu hefyd y dylai unrhyw nwyddau a deunyddiau a gyflenwir fel rhan o’r gwasanaeth fod o ansawdd boddhaol h.y. heb ddiffygion.

Os yw’r masnachwr wedi methu â bodloni’r gofynion uchod, yna dylai ddod yn ôl ac unioni’r broblem heb gost ychwanegol. *

* Gall costau ychwanegol fod yn rhesymol gan ddibynnu ar y defnydd o’r nwyddau.

Sylwer y gall llawer o faterion gwahanol ddeillio o wasanaethau is-safonol. Mae’r templed hwn i’w ddefnyddio fel canllaw ac efallai na fydd yn addas i’ch sefyllfa benodol. Os bydd arnoch angen cyngor ac arweiniad mwy manwl, ffoniwch Cyswllt Defnyddwyr ar 08454 04 05 06















Annwyl    ,

Deddf Cyflenwi Nwyddau a Gwasanaethau 1982(Fel y’i diwygiwyd)
Cyfraith Gyffredin Yr Alban

Ar , gwnaethoch ymgymryd â/ag am bris o £ i'w orffen erbyn


Eglurwch eich cwyn / rhowch fraslun o'ch cwyn,e.e. rhestrwch y diffygion â'r atgyweiriadau, rhestrwch y problemau sy'n weddill

 

Yn ôl Deddf Cyflenwad Nwyddau a Gwasanaethau 1982 (fel y’i diwygiwyd)dylid gwneud gwaith gyda gofal a medr rhesymol  ,


Esboniwch beth rydych am i ddigwydd / beth rydych yn edrych amdano e.e. Y car i'w drwsio heb unrhyw gost ychwanegol, Y gwaith i'w gwblhau

 

Os byddwch yn methu yn ystod y cyfnod hwn ni fydd gennyf unrhyw ddewis ond ystyried mynd â’r mater yn bellach.



Did you know

Wrth brynu cyrfrifiadur personol, ceisiwch ddarganfod pa feddalwedd sy’n cael ei gynnwys ac a yw wedi cael ei osod ymlaen llaw.

Rhagor o Wybodaeth >