Templed rhif. 08 - Defnyddiwch y templed canlynol ar gyfer ysgrifennu llythyr cwyno i weithiwr neu werthwr os ydynt wedi cyflenwi nwyddau diffygiol fel rhan o wasanaeth.
Defnyddiwch y templed canlynol ar gyfer ysgrifennu llythyr cwyno i weithiwr neu werthwr os ydynt wedi cyflenwi nwyddau diffygiol fel rhan o wasanaeth.
Pan gyflenwir gwasanaethau i chi, ac fel rhan o’r contract mae’r masnachwr hefyd yn cyflenwi’r nwyddau, mae gennych hawliau yn erbyn y masnachwr yn unol â Deddf Cyflenwi Nwyddau a Gwasanaethau 1982 / Cyfraith Gyffredin Yr Alban. Dylai unrhyw nwyddau a gyflenwir fel rhan o’r contract gyfateb ag unrhyw ddisgrifiad, eu bod o ansawdd boddhaol, h.y. heb ddiffygion ac yn addas i’r pwrpas a hysbyswyd.
Os yw’r masnachwr wedi methu â bodloni’r gofynion uchod, yna dylai ddod yn ôl ac unioni’r broblem heb gost ychwanegol.*
*Gall costau ychwanegol fod yn rhesymol gan ddibynnu ar y defnydd o’r nwyddau.
Sylwer y mae llawer o faterion gwahanol a all ddeillio o wasanaethau is-safonol. Mae’r templed hwn i’w ddefnyddio fel canllaw ac efallai na fydd yn addas i’ch sefyllfa benodol. Os bydd arnoch angen cyngor ac arweiniad mwy manwl, ffoniwch Cyswllt Defnyddwyr ar 08454 04 05 06

