Ewch yn syth i'r cynnwys

Gwasanaethau gwael

Defnyddiwch y templed hwn i ysgrifennu llythyr i gwyno i weithiwr neu werthwr os ydyn nhw wedi darparu gwasanaethau gwael neu nwyddau diffygiol.

Lawrlwytho’r llythyr hwn ar ffurf dogfen Word

Eich cyfeiriad post llawn
Eich cod post
Eich rhifau ffôn


Dyddiad heddiw

Enw’r Perchennog neu’r Rheolwr (neu Y Rheolwr)
Enw’r Manwerthwr
Cyfeiriad y Manwerthwr
Cod post y Manwerthwr
 
Annwyl [enw’r perchennog neu’r rheolwr neu Syr/Madam]

Deddf Cyflenwi Nwyddau a Gwasanaethau 1982 (fel y’i diwygiwyd)
Sylwch: Yn yr Alban, hepgorwch y cyfeiriad at Ddeddf Cyflenwi Nwyddau a Gwasanaethau 1982 (fel y’i diwygiwyd).

Ar [dyddiad prynu], [rhowch ddisgrifiad o’r gwasanaeth, er enghraifft gosododd eich cwmni ffenestri dwbl imi] am £xxx ac erbyn hyn rydw i wedi darganfod diffygion.

Dyma’r problemau: [rhestrwch y diffygion, er enghraifft]

1. Dydy ffenest y stafell ymolchi ddim yn cau yn iawn
2. Mae’r seliau ar ffenestri’r ystafell fyw wedi methu.

Cwynais ichi am hyn ar [rhowch ddyddiad eich cwyn cychwynnol].  Daeth rhywun allan i gael golwg ar y broblem ar [rhowch ddyddiad yr ymweliad, os yw’n gymwys] ond dydw i ddim wedi clywed dim byd wedyn.

Hoffwn wneud cais am gael trwsio’r nwyddau am ddim/nwyddau newydd am ddim.

Byddwch cystal ag ateb fy nghwyn o fewn saith diwrnod.

Yn gywir

[Rhowch eich enw]


"Nôl i'r brig

Did you know

Os gwelwch chi nam ar eitem drydan yn y misoedd cyntaf ar ôl ei phrynu, dylech fynd nôl at y manwerthwr a’i gwerthodd i chi (nid at y gweithgynhyrchydd).

Rhagor o Wybodaeth >