Ewch yn syth i'r cynnwys

Templed rhif. 05 - Defnyddiwch y templed canlynol i ysgrifennu llythyr er mwyn hysbysu’r masnachwr eich bod wedi derbyn eitem nas archebwyd, ac yn rhoi’r cyfle iddo drefnu ei chasglu.

Defnyddiwch y templed canlynol i ysgrifennu llythyr er mwyn hysbysu’r masnachwr eich bod wedi derbyn eitem nas archebwyd, ac yn rhoi’r cyfle iddo drefnu ei chasglu.

Yn ôl Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr (Gwerthu o Bell) 2000, gellir trin nwyddau nas archebwyd ac a anfonwyd yn ddirybudd fel anrheg ddiamod; mewn geiriau eraill, gallwch eu cadw neu gael gwared arnynt fel y mynnoch. Yn ôl y Rheoliadau mae’n dramgwydd troseddol i fynnu taliad amdanynt neu fygwth dwyn achos i gael taliad am nwyddau neu wasanaethau nas archebwyd.

Fodd bynnag, mae’n fuddiol i ysgrifennu at y masnachwr, gan gael prawf postio, a dweud eich bod wedi cael eitem nas archebwyd a’ch bod yn gwybod bod gennych hawl i gadw’r eitem fel anrheg, ond eich bod yn rhoi’r cyfle i’r masnachwr drefnu ei chasglu cyn pen 14 diwrnod ar ei draul ef/hi. Er nad oes rhaid i chi wneud felly, rydym yn argymell hyn er mwyn osgoi ceisiadau pellach am daliad.

Dylid defnyddio’r templed hwn fel canllaw ac efallai na fydd yn addas i’ch sefyllfa benodol. Os bydd arnoch angen cyngor ac arweiniad mwy manwl, ffoniwch Cyswllt Defnyddwyr ar 08454 040506













Annwyl    ,

Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr (Gwerthu o Bell) 2000

Ar cefais a anfonwyd gennych drwy'r post. Roedd y rhain yn nwyddau nas archebwyd.

Yn unol â Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr (Gwerthu o Bell) 2000, gallaf gadw'r nwyddau fel anrheg. Fodd bynnag, rwyf yn rhoi'r cyfle i chi drefnu casglu'r nwyddau ar eich traul eich hun o fewn 14 diwrnod, ond ar ôl hynny byddaf yn ystyried bod y nwyddau yn eiddo i mi.




Did you know

Wrth brynu cyrfrifiadur personol, ceisiwch ddarganfod pa feddalwedd sy’n cael ei gynnwys ac a yw wedi cael ei osod ymlaen llaw.

Rhagor o Wybodaeth >