Ewch yn syth i'r cynnwys

Templed rhif. 03 Defnyddiwch y templed canlynol i ysgrifennu llythyr er mwyn hysbysu’r masnachwr eich bod am ddychwelyd y nwyddau a derbyn ad-daliad.

Defnyddiwch y templed canlynol i ysgrifennu llythyr er mwyn hysbysu’r masnachwr eich bod am ddychwelyd y nwyddau a derbyn ad-daliad.

Pan fyddwch yn prynu nwyddau neu’n gwneud contract am wasanaethau penodol trwy ddulliau o bell, e.e. dros y rhyngrwyd, dros y ffôn, drwy archebu drwy’r post ac ati, rheolir eich contract gan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr (Gwerthu o Bell) 2000.

Yn gyffredinol, mae’r Rheoliadau yn rhoi'r hawl i chi newid eich meddwl ac i hawlio ad-daliad llawn (gan gynnwys tâl post) hyd at yr amser pan gewch y nwyddau. Ar ôl i chi dderbyn y nwyddau mae gennych 7 diwrnod gwaith (sy’n cychwyn ar y diwrnod ar ôl i chi dderbyn y nwyddau) i archwilio’r nwyddau, ac, os nad ydynt yn addas, i'w dychwelyd i gael ad-daliad llawn.

Mae’n bosibl y bydd rhai nwyddau wedi'u heithrio o’r ddeddfwriaeth hon ac felly cysylltwch â Chyswllt Defnyddwyr am eglurhad pellach: 08454 04 05 06

Mae’n rhaid i chi gymryd gofal o’r nwyddau tra bônt yn eich meddiant, a naill ai eu dychwelyd neu sicrhau eu bod ar gael i’w casglu gan y gwerthwr. Efallai bydd y gwerthwr yn codi tâl arnoch am gasglu’r nwyddau, neu bydd rhaid i chi dalu am eu dychwelyd drwy’r post os dywedir hyn yn y telerau ac amodau. Os byddwch yn canslo’r archeb neu yn dychwelyd y nwyddau o fewn y terfyn amser, mae’n rhaid i’r masnachwr roi ad-daliad llawn i chi, heb ffi ailstocio, o fewn 30 diwrnod ar ôl i chi eu canslo.

Os ydych yn dymuno canslo, dylech gysylltu â’r masnachwr ar unwaith dros y ffôn neu drwy anfon neges e-bost, a dilyn hyn yn ysgrifenedig (mynnwch brawf postio / neu anfonwch drwy ddosbarthiad a gofnodwyd, gan gadw copi ar gyfer eich cofnodion), ac anfon y llythyr o fewn y terfyn amser.

Dylid defnyddio’r templed hwn fel canllaw ac efallai na fydd yn addas i’ch sefyllfa benodol. Os bydd arnoch angen cyngor ac arweiniad mwy manwl, ffoniwch Cyswllt Defnyddwyr ar 08454 04 05 06















Annwyl    Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr (Gwerthu o Bell) 2000

Ar archebais . .

Yn unol â Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr (Gwerthu o Bell) 2000 dymunaf ganslo'r archeb a chael ad-daliad llawn gennych cyn pen 30 diwrnod.

Cysylltwch â mi o fewn 14 diwrnod i drefnu casglu/dychwelyd y nwyddau.




Did you know

I fod yn gyfran amser, rhaid i ddefnyddiwyr dreulio cyfnod penodol (ond heb fod yn llai nag wythnos) mewn eiddo gwyliau bob blwyddyn am dair blynedd neu fwy.

Rhagor o Wybodaeth >