Gwneud cwyn
P’un ai am nwyddau ynteu am wasanaeth y bydd angen ichi gwyno, mae yna gamau ymarferol y dylech eu cymryd.
- Yn gyntaf oll, dylech fod yn glir o ran eich barn chi am y nam ar yr eitem rydych chi wedi’i phrynu, ac wedyn sut rydych chi am i’r nam gael ei ddatrys ar ôl ichi gwyno.
- Casglwch bopeth a allwch chi o ran tystiolaeth. Gallai hyn gynnwys ffotograffau neu luniau fideo. Ceisiwch gadw mewn cof y gallai fod rhaid ichi fynd i’r llys i sicrhau ad-daliad, a gofynnwch i’ch hun pa dystiolaeth y byddai angen ichi ei chyflwyno i’r barnwr.
- Ewch ati i greu dyddiadur cwyno – a’i ddefnyddio i restru beth ddigwyddodd, pa bryd ac â phwy y buoch chi’n siarad. Bydd hynny’n eich helpu i gofio wrth ichi drafod eich cwyn.
- Dylech weithredu’n gyflym hefyd. Rhowch wybod am y nam i’r gwerthwr cyn gynted ag y gallwch, gan gadarnhau hynny mewn ysgrifen. Cadwch gopi ar gyfer eich cofnodion.
- Os nad ydych yn sicr beth yw’ch sefyllfa chi, gwiriwch eich hawliau cyfreithiol cyn ichi fynd at y masnachwr. Os oes amheuaeth, cysylltwch â ni i gael cymorth.
- Peidiwch â cholli’ch tymer, hyd yn oed os ydych yn grac.
- Byddwch yn bendant heb fod yn ymosodol. Byddwch yn glir ynghylch beth hoffech ei gael ond yn gwrtais yr un pryd.
- Ategwch eich hawliad mewn ysgrifen pryd bynnag y bo modd.
- Cadwch gofnodion: mae hyn yn cynnwys copïau o bob derbynneb, llythyr a neges e-bost a phob nodyn am sgwrs ar y ffôn. Peidiwch byth ag anfon dogfennau gwreiddiol – anfonwch lungopïau.
- Gall cwyno yn bersonol fod yn fwy effeithiol: gofynnwch am gael gair â’r sawl sy’n gyfrifol i drafod y mater. Does dim pwynt colli’ch tymer neu fynd yn grac, yn enwedig os nad yw’r person mewn sefyllfa i awdurdodi ad-daliad.
- Os ydych yn cwyno dros y ffôn, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw cofnod o enw’r sawl sy’n siarad â chi, pryd digwyddodd yr alwad a beth gafodd ei ddweud. Anfonwch lythyr i ddilyn eich galwad bob amser.
- Ystyriwch gael barn gan arbenigwr neu ail farn i ategu’ch cwyn. Gall fod rhaid ichi dalu amdani, ond fe allai fod yn ddefnyddiol os bydd angen ichi ddwyn achos cyfreithiol. Ond rhaid ichi fod yn ymwybodol hefyd nad yw’r llysoedd yn aml yn hoffi i bobl sicrhau adroddiadau gan arbenigwyr sydd heb eu hawdurdodi gan y llysoedd ac y gallen nhw wrthod dyfarnu costau’r adroddiad. Cofiwch hefyd fod yna gyfyngiad uchaf o £250 ar gyfer adroddiad o’r fath. Gallech ofyn a fyddai’r gwerthwr yn cytuno i gyd-ariannu adroddiad gan arbenigwr a chael ei rwymo gan gasgliadau’r adroddiad.
- Peidiwch â digalonni. Os na chewch chi lwyddiant y tro cyntaf ichi gwyno, rhowch gynnig arall arni.
Mae’n bwysig cysylltu â’r gwerthwr cyn gynted ag y gallwch gyda rhyw fath o brawf prynu (does dim rhaid cael y dderbynneb). Esboniwch y broblem a dywedwch wrth y gwerthwr beth hoffech chi iddo ei wneud amdani. Rhowch ddyddiad cau i’r gwerthwr.
Rhowch eich cwyn i lawr ar bapur i’r rheolwr neu i’r adran gwasanaethau cwsmeriaid i gadarnhau eich ymweliad ac unrhyw addewid neu ymateb a gawsoch. Os yw’r siop yn rhan o gadwyn, ysgrifennwch at y brif swyddfa. Defnyddiwch ein templedi llythyrau i’ch helpu i gynnwys popeth sy’n angenrheidiol. Rhaid i’r siop roi’r wybodaeth yma i chi os byddwch yn gofyn amdani – mae Deddf Enwau Busnes 1985 yn dweud bod rhaid i fusnesau sy’n gweithredu o dan enw gwahanol i’w henw cyfreithiol ddangos eu henw a’u cyfeiriad corfforaethol ym Mhrydain Fawr.
Er mwyn iddyn nhw weld eich bod yn rhesymol, fe allech chi roi cyfle i’r cyflenwr gywiro’r broblem. Ond does dim rhwymedigaeth arnoch i wneud hynny.
Rhowch eich cwyn i lawr ar bapur i brif swyddfa’r gwasanaeth a’i gyfeirio at y rheolwr neu at gadeirydd y cwmni. Rhowch esboniad clir o’r hyn yr hoffech chi iddyn nhw ei wneud ac erbyn pa bryd. Defnyddiwch ein templedi llythyrau i’ch helpu i gynnwys popeth sy’n angenrheidiol.
Os nad yw’n ymddangos eich bod yn gwneud cynnydd gyda’ch cwyn, neu os oes arnoch angen rhagor o gyngor, cysylltwch â ni dros y ffôn neu drwy’r e-bost.

