Ewch yn syth i'r cynnwys

Defnyddio gwarantau

Mae gwarant yn rhoi hawliau ychwanegol ichi a allai fod yn ddefnyddiol os bydd rhaid ichi gwyno. Dylai unrhyw warant fod yn glir, yn ddiamwys ac ar gael ichi ei weld cyn ichi brynu.


Back to top

Ynghylch gwarantau

Mae’n bosibl y cewch chi warant gan y gweithgynhyrchydd gyda rhai nwyddau. Os oes cerdyn cofrestru sy’n gorfod cael ei ddychwelyd i’r gweithgynhyrchydd, gwnewch yn siŵr bod y gwerthwr wedi llenwi’r manylion prynu – efallai na fydd y cerdyn yn ddilys hebddyn nhw.
Er mwyn i’r warant fod yn effeithiol, gall fod angen ichi sicrhau eich bod yn anfon y cerdyn cofrestru nôl i’r cyfeiriad sydd wedi’i roi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw’r dogfennau sy’n dod gyda’r nwyddau i ddweud wrthoch chi sut mae gwneud cais o dan y warant.
Peidiwch â dewis ffyrm dim ond am fod y ffyrm yn gwarantu ei gwasanaethau. Gallai gwarant 10-mlynedd ar estyniad newydd i’r tŷ fod yn ddiwerth os aiff y ffyrm allan o fusnes. Er hynny, mae cynlluniau gwarantu sydd ag yswiriant wrth gefn ar gael drwy rai cymdeithasau masnach ar gyfer gwaith adeiladu. Gyda chynlluniau tymor hir, gwnewch yn siŵr bod yr yswiriant yn parhau yr un mor hir â’r warant.
Byddwch yn ofalus – o dan y gyfraith, all gwarantau ddim cael eu defnyddio i wrthod rhwymedigaeth neu i gyfyngu rhwymedigaeth siop neu fasnachwr am werthu nwydau sy’n ddiffygiol neu nwyddau nad ydyn nhw’n cyfateb i’w disgrifiad.

Back to top

Defnyddio gwarantau

Os ydych wedi prynu nwyddau diffygiol neu os oes gwaith gwael wedi’i wneud ichi a bod gennych chi warant neu warantiad, mae’n bosibl y byddwch yn gallu datrys eich problem drwy ddelio â’r cwmni a roddodd y warant neu’r gwarantiad.
Fe allai hi fod yn well dilyn y cwrs gweithredu yma:

  • os yw’r masnachwr wedi mynd allan o fusnes neu wedi gwrthod datrys eich problem.
  • os nad chi dalodd am y gwaith a gafodd ei wneud. Er enghraifft, os talodd y perchennog blaenorol am rywbeth sydd wedi’i osod yn eich cartref chi.

Mathau o warantau a gwarantiadau:

  • Gallai gwarant neu warantiad gan y gweithgynhyrchydd gyda’r nwyddau eich galluogi i hawlio gwaith trwsio am ddim neu eitem newydd o fewn amser penodedig.
  • Gallai gwarantiad estynedig roi hawl ichi wneud cais am gost gwaith trwsio dros gyfnod hirach o amser.
  • Os ydych chi wedi gwneud gwaith gwella ar eich cartref megis gosod haen atal tamprwydd, mae’n debyg y bydd gwarant tymor hir gennych. Efallai y bydd honno’n eich diogelu yn erbyn nwyddau neu waith diffygiol am hyd at 30 mlynedd. Er hynny, dim ond os bydd y masnachwr yn dal mewn busnes neu os oes yna yswiriant dilys i ategu’r warant y bydd hyn yn ddefnyddiol.

Os oes gennych chi warant neu warantiad, darllenwch nhw’n ofalus er mwyn sicrhau:

  • Eich bod yn eu deall yn llawn.
  • Eu bod yn gymwys i’ch problem.
  • Eich bod yn dal o fewn y cyfnod amser dilys.
  • Eu bod yn cynnig ateb derbyniol.
  • Eich bod yn fodlon talu unrhyw gostau ychwanegol.

Efallai y bydd rhaid ichi brofi bod y nam wedi’i achosi gan rywbeth sy’n dod o dan y warant neu’r gwarantiad.

Efallai y bydd rhaid ichi dalu am unrhyw waith trwsio eich hun a hawlio’r arian yn ôl oddi wrth y cwmni a roddodd y warant neu’r gwarantiad.

Os ydych yn poeni am hyn neu os yw cost y gwaith trwsio’n uchel, dylech ysgrifennu at y cwmni. Gwnewch hyn cyn ichi drefnu unrhyw waith, er mwyn sicrhau y byddan nhw’n rhoi ad-daliad i chi.

Back to top

Pwyntiau pwysig i’w cofio

Mae’n dal yn bosibl bod gennych eich hawliau arferol yn erbyn y cyflenwr.

Mae gwarant neu warantiad am ddim a gynigir gan fasnachwr yn eu rhwymo o dan y gyfraith (ers mis Mawrth 2003). Dylen nhw fod wedi’u hysgrifennu’n glir ac mae’n rhaid trefnu eu bod ar gael i’w gweld os gwnewch chi gais. Mae’n rhaid iddyn nhw ddweud hefyd nad ydyn nhw’n effeithio ar eich hawliau cyfreithiol.

 


"Nôl i'r brig

Did you know

Os prynwch chi rywbeth sy’n werth mwy na £35 oddi wrth werthwr sy’n galw yn eich tŷ heb wahoddiad, mae gennych chi saith diwrnod i ganslo’ch archeb.

Rhagor o Wybodaeth >