Gwneud cwyn
Does neb yn disgwyl cael problem neu anghydfod difrifol gyda chyflenwr neu ddarparwr gwasanaeth – ond mae’n bwysig gwybod beth allai ddigwydd os aiff pethau i’r pen. Mae’n harweiniad ni i Ddulliau Amgen o Ddatrys Anghydfodau yn mynd â chi drwy’r opsiynau os oes gennych chi anghydfod ond nad ydych am fynd i’r llys.
- Dulliau Amgen o Ddatrys Anghydfodau (ADR)
- Sut i wneud cwyn
- Manteision ADR
- Cynlluniau Ombwdsmon
- Rheolyddion
- Cymdeithasau masnach
- Cyfryngu annibynnol
- Y Llwybr Hawliadau Bychain
- Ble i fynd i gael cymorth
Dulliau Amgen o Ddatrys Anghydfodau (ADR)
Os hoffech chi ddatrys anghydfod difrifol heb fynd i’r llys, fe allech chi ddatrys eich problem drwy ddefnyddio cynllun Dull Amgen o Ddatrys Anghydfodau (ADR). Mae ADR yn ymadrodd sy’n cael ei ddefnyddio i olygu dulliau o ddatrys cwynion a phroblemau cyfreithiol heb fynd i’r llys.
Er hynny, fel dewis olaf y dylech chi droi at ADR. Os ydych chi wedi cael problem gyda nwyddau neu wasanaethau, dylech geisio trafod gyda’r masnachwr neu’r cyflenwr i ddechrau, gan gadw cofnod o bob sgwrs a phob gohebiaeth.
Os nad oes modd datrys eich problem yn y ffordd arferol, mae yna bedwar prif fath o weithdrefn y tu allan i’r llys i’w hystyried:
- Cynlluniau Ombwdsmon
- Rheolyddion
- Cymdeithasau masnach
- Cyfryngu annibynnol
Mae gan bob math o weithdrefn wahanol gyfyngiadau amser a gofynion eraill. Bydd y math o ADR y byddwch yn ei ddewis yn dibynnu ar beth yw’ch problem a sut yr hoffech ymdrin â hi.
Un o fanteision ADR yw na fyddwch fel arfer yn gorfod wynebu’ch gwthwynebydd yn bersonol. Yn hytrach, byddwch yn dibynnu ar ddogfennau. Pa fath bynnag o ADR y byddwch yn ei ddewis, mae’n hanfodol eich bod yn cadw cofnodion ysgrifenedig, manwl-gywir a ffotograffau o bob problem, cwyn a gohebiaeth. Rhaid ichi weithredu’n gyflym hefyd.
Mae manteision eraill ADR yn cynnwys y rhain:
- Mae’n gallu arwain at iawndal. (Gallai canlyniadau boddhaol eraill gynnwys ymddiheuriad ffurfiol, newid gweithdrefnau, etc.)
- Gallai gostio llai ichi na mynd drwy’r llys.
- Mae’n gyfrinachol.
- Mae’n llai ffurfiol na mynd i’r llys.
Pethau i feddwl amdanyn nhw cyn dewis ADR: - Sut mae costau’r weithdrefn yn cymharu â chost mynd i’r llys?
- Fyddai’n well gennych fynegi’ch safbwynt yn bersonol, neu ddibynnu ar ddogfennau yn unig?
- Os yw penderfyniad y cymrodeddwr yn gyfreithiol-rwymol, fydd dim modd ichi fynd â’ch problem i’r llys wedyn.
- Fydd yna gyfyngiadau amser ar y dull rydych chi wedi’i ddewis? Hefyd, fe allai’r amser sy’n cael ei dreulio ar un weithdrefn effeithio ar eich gallu i fynd â’ch achos i rywle arall os bydd angen.
Mae gan lawer o wasanaethau gynllun Ombwdsman y gallwch ei ddefnyddio. Mae Ombwdsmyn yn gweithredu fel ‘dyfarnwyr’ annibynnol sy’n edrych ar gŵynion am gyrff cyhoeddus a phreifat. Mae modd darganfod a yw’r cwmni sy’n peri problem i chi yn aelod o gynllun ombwdsmon drwy ofyn i’r cwmni, drwy edrych ar un o lyfrynnau’r cwmni (a ddylai ddweud hyn) neu drwy gysylltu â Chymdeithas Ombwdsmyn Prydain ac Iwerddon.
Sut mae’n gweithio?
Yn gyntaf, bydd angen ichi ddihysbyddu gweithdrefn gwyno fewnol y cyflenwr. Ar ôl ichi wneud hynny, rhaid ichi roi manylion ysgrifenedig am eich cwyn a chopïau o’ch holl dystiolaeth i’r Ombwdsmon.
Bydd yr Ombwdsmon yn gwneud argymhelliad sydd fel arfer yn cael ei dderbyn gan y cyflenwr. Er hynny, dydy’r argymhelliad ddim yn ei rwymo o safbwynt y gyfraith, ac felly mae’n dal yn bosibl ichi fynd i’r llys os na fyddwch yn fodlon ar y penderfyniad.
Mae gwasanaethau Ombwdsmon ar gael am ddim.
Mae gan yr holl gwmnïau cyfleustodau reolydd i oruchwylio’r modd y maen nhw’n cynnal eu busnes. Bydd rheolyddion yn diogelu defnyddwyr rhag prisiau annheg drwy hybu cystadleuaeth effeithiol. Maen nhw’n rheoleiddio yn ôl yr angen ac yn sicrhau hefyd fod cymorth arbennig yn cael ei dargedu ar gwsmeriaid sy’n hawdd i’w niweidio.
Sut mae’n gweithio?
Mae gan y mwyafrif o reolyddion adran warchod a gall defnyddwyr droi at y rhain i gael gwybodaeth a chyngor am ddim. Yn aml, bydd yr adran warchod yn ymchwilio i gŵynion i’w datrys.
Mae gwasanaethau rheolyddion ar gael am ddim. Gallwch gael manylion llawn am sut i gwyno ar gefn eich bil cyfleustod, neu drwy gysylltu â Chyswllt Defnyddwyr.
Os yw’r masnachwr neu’r darparwr gwasanaethau sy’n peri problem i chi yn aelod o gymdeithas fasnach, bydd wedi cael ei glymu gan god ymarfer y gymdeithas. Mae’r union gymorth y gallwch ddisgwyl ei gael yn dibynnu ar y gymdeithas fasnach o dan sylw, ond efallai y bydd yn cynnwys gwasanaeth cyfryngu neu wasanaeth cymrodeddu.
Sut mae’n gweithio?
Gall fod rhaid ichi dalu i ddefnyddio’r gwasanaeth cymrodeddu, ond mae cyfryngu ar gael am ddim fel arfer.
Os byddwch yn defnyddio gwasanaeth cymrodeddu, mae unrhyw benderfyniad yn debyg o fod yn gyfreithiol rwymol a byddai hynny’n eich atal rhag mynd â’ch achos i’r llys (ac eithrio i orfodi unrhyw ddyfarniad ynghylch iawndal).
Mae cyfryngu’n rhoi cyfle i chi a’r person arall neu’r cwmni ddod o hyd i ateb i’ch problem gyda chymorth trydydd parti annibynnol: cyfryngwr.
Gwaith y cyfryngwr yw helpu’r ddau barti i ddatrys y broblem eu hunain. Nid gwneud penderfyniad yw gwaith y cyfryngwr – chi a’ch gwrthwynebydd sy’n penderfynu beth fydd yn digwydd a thelerau unrhyw gytundeb y byddwch yn ei wneud.
Mae’r cyfryngwr yn gallu trosglwyddo negeseuon os nad ydych am gyfarfod â’r parti arall.
Sut mae’n gweithio?
Proses wirfoddol yw cyfryngu, felly allwch chi ddim gorfodi’r person neu’r cwmni i gymryd rhan.
Os byddwch yn dod i gytundeb, y cam nesaf yw drafftio telerau’r setliad. Bydd y setliad yn gyfreithiol rwymol oni bai eich bod yn datgan yn wahanol, a bydd hyn yn eich atal rhag dwyn achos llys (ac eithrio i orfodi unrhyw ddyfarniad ynghylch iawndal).
Gall cyfryngu fod yn gostus oni bai eich bod yn gymwys i gael cymorth gan y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol (yng Nghymru a Lloegr yn unig).
Gallwch ddwyn achos cyfreithiol sifil yn y llys sirol, neu yn yr Uchel Lys, yn ôl amgylchiadau’r achos. Os yw’r hawliad yn hawliad am £15,000 neu lai, mae’n rhaid dechrau yn y llys sirol. Os yw’r achos yn un syml neu’n hawliad am lai na £5,000, bydd y llys sirol yn penderfynu defnyddio’r weithdrefn hawliadau bychain ac yn gosod yr achos ar y Llwybr Hawliadau Bychain.
Proses gymrodeddu yw’r Llwybr Hawliadau Bychain yn hytrach na gwrandawiad llawn yn y llys. Y gwahaniaeth yw nad yw’r broses yn eich rhwymo mewn rhai mathau o ADR, ond bod y penderfyniad ar y Llwybr Hawliadau Bychain yn cael ei gefnogi gan y llysoedd, sy’n caniatáu i’r penderfyniad gael ei orfodi. Mae Cyngor ar Bopeth yn darparu rhagor o wybodaeth am broses y Llwybr Hawliadau Bychain.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, neu os oes arnoch angen rhagor o gyngor, ffoniwch Gyswllt Defnyddwyr ar 08454 04 04 05.
Mae Cyngor ar Bopeth hefyd yn darparu taflenni ffeithiau sy’n cynnwys rhagor o fanylion am y cynlluniau hyn.

