Gwneud cwyn
Pan fyddwch yn ysgrifennu llythyr i gwyno, mae’n bwysig rhoi gwybodaeth glir a ffeithiol am yr hyn rydych chi wedi’i brynu, pa bryd a beth sydd wedi mynd o’i le – a dweud wrth y cwmni beth hoffech chi iddyn nhw ei wneud.
Mae gan Gyswllt Defnyddwyr chwe thempled llythyrau gwahanol, i’ch helpu i gynnwys popeth sy’n angenrheidiol mewn llythyr cwyno.
Os ydych yn cwyno mewn ysgrifen:
- Cadwch y llythyr yn fyr ac yn bwrpasol - defnyddiwch bwyntiau bwled
- Disgrifiwch yr eitem neu’r gwasanaeth a brynsoch chi
- Dywedwch ble prynsoch chi’r eitem a pha bryd – neu pryd cawsoch chi’r gwasanaeth – a faint oedd y gost
- Esboniwch beth sydd o’i le, unrhyw gamau rydych chi wedi’u cymryd yn barod, â phwy y buoch chi’n siarad a beth ddigwyddodd
- Dywedwch beth hoffech chi iddyn nhw ei wneud i gywiro pethau - er enghraifft ad-daliad neu waith trwsio, neu wneud y gwaith eto heb godi tâl amdano
- Anfonwch y llythyr drwy ddosbarthiad wedi’i gofnodi/dosbarthiad arbennig, er mwyn ichi wirio bod y llythyr wedi cyrraedd, neu anfonwch y llythyr gyda phrawf postio gan swyddfa’r post.
- Cadwch gopïau o unrhyw lythyrau y byddwch yn eu hanfon. Peidiwch ag anfon dogfennau gwreiddiol - anfonwch lungopïau.
Defnyddiwch ein templedi fel sail ar gyfer y mathau canlynol o lythyr:
- Cwyno am nwyddau diffygiol
- Cwyno am wasanaethau gwael
- Cwyno am nwyddau diffygiol wedi’u prynu ar gredyd
- Cwyno am wasanaethau gwael ar ôl talu ar gredyd
- Cwyno am nwyddau diffygiol wedi’u prynu ar hur-bwrcas
- Anfon llythyr atgoffa terfynol cyn mynd â masnachwr i'r llys

