Gwarantiadau estynedig
Beth dylech chi ei wneud os cewch chi broblem gyda gwarantiad estynedig? Dysgwch ragor am ganslo’ch cytundeb, cael eich premiwm yn ôl, a chymalau eithrio a allai olygu nad oes gwarantiad gennych ar gyfer popeth roeddech chi’n credu ei fod wedi’i gynnwys.
Efallai bod gennych chi hawl i ganslo’ch gwarantiad estynedig os dewiswch chi wneud hynny. Cysylltwch â Chyswllt Defnyddwyr i gael cyngor.
Erbyn hyn, mae nifer o warantiadau estynedig yn cael eu gwerthu ar y sail y cewch chi arian yn ôl. Gyda’r rhain, mae’ch premiwm yn cael ei ddychwelyd yn llawn os na fyddwch chi wedi gwneud cais am gyfnod penodedig - sef pum mlynedd fel arfer. Os ydych chi wedi prynu’r math yma o warantiad ac na fyddwch yn gwneud cais, eich cyfrifoldeb chi yw cymryd camau i gael y premiwm yn ôl pan ddaw’r amser i ben. Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y telerau’n ofalus iawn. Efallai mai dim ond amser byr gewch chi i gofrestru’ch statws arian-yn-ôl ar ôl ichi lofnodi’r gwarantiad, a dim ond ychydig wythnosau fydd yn cael eu caniatáu i chi ofyn i’r premiwm gael ei ddychwelyd pan fydd y pum mlynedd wedi dod i ben. Mae’n rhaid ichi gofio gwneud hyn wrth gwrs, a chadw’r dogfennau’n ddiogel yn y cyfamser.
- Cofiwch: fydd cynlluniau arian-yn-ôl ddim yn well na’r cwmnïau sy’n eu cynnig. Os bydd y cwmni’n rhoi’r gorau i wneud busnes, efallai na chewch chi ddim arian yn ôl.
- Darllenwch y geiriau’n ofalus i weld beth sydd wedi’i gynnwys o dan y gwarantiad a beth sydd heb ei gynnwys.
- Edrychwch ar y drefn ar gyfer gwneud cais. A fydd y gwarantiad yn talu am waith trwsio, ynteu a fyddwch chithau’n gorfod talu i ddechrau a hawlio’r arian yn ôl wedyn?
- Cadwch fanylion unrhyw warant neu warantiad gyda’ch derbynneb wreiddiol ac unrhyw ddogfennau cynnal-a-chadw neu ddogfennau trwsio bob tro. Cadwch nodyn o rifau cyfres i gael cyfeirio atyn nhw yn y dyfodol.
Gallai rhai masnachwyr geisio ymwrthod â’u cyfrifoldebau o dan gontractau drwy ddefnyddio cymalau eithrio, er enghraifft drwy ddweud nad ydyn nhw’n derbyn dim cyfrifoldeb dros golled neu ddifrod. Os yw cymal eithrio yn annheg, yna mae’n annilys o dan y gyfraith a does dim modd iddo gael ei ddefnyddio yn eich erbyn.
Yn gyffredinol, dim ond llys sy’n gallu penderfynu a yw teler mewn contract yn annheg neu beidio. Ond mae unrhyw gymal sy’n gwrthod cyfrifoldeb, mewn teler mewn contract neu ar hysbysiad, bob amser yn annilys os yw’n cael ei ddefnyddio er mwyn ceisio osgoi cymryd cyfrifoldeb dros farwolaeth neu anaf personol oherwydd esgeulustod. Hefyd, dydy masnachwr sy’n gwerthu nwyddau ddim yn cael ymwrthod â’i gyfrifoldeb dros dorri’ch hawliau statudol - er enghraifft drwy godi arwydd sy’n dweud: 'dim ad-daliad ar gael’. Mae’n drosedd ceisio gwneud hyn.
Dydy datganiadau tebyg am wasanaethau - er enghraifft: 'dim cyfrifoldeb dros golli neu ddifrodi dillad, sut bynnag mae’n cael ei achosi’ ar gefn tocyn sychlanhau - ddim yn anghyfreithlon. Ond, does dim modd i delerau o’r fath gael eu gorfodi os bydd y llys yn dyfarnu eu bod yn annheg. Mae gennyn ni ragor o wybodaeth am Delerau annheg mewn contractau.

