Ewch yn syth i'r cynnwys

Rhannu amser

Beth gallwch chi ei wneud os ydych chi wedi newid eich meddwl ar ôl prynu cynllun rhannu amser, neu os nad ydych yn fodlon ar yr hyn rydych chi wedi’i gael? Darllenwch ragor er mwyn darganfod eich hawliau.

Os ydych chi wedi llofnodi contract rhannu amser yn y DU, mae gennych chi gyfnod ailfeddwl o 14 diwrnod pryd y cewch chi ganslo’r contract (ac unrhyw gytundeb credyd sy’n gysylltiedig â'r contract) yn rhad ac am ddim a sicrhau ad-daliad am unrhyw arian rydych wedi’i dalu. Rhaid i’r gwerthwr beidio â gofyn am arian gennych na derbyn arian gennych yn ystod y cyfnod ailfeddwl.

Mewn llawer gwlad arall, 10 diwrnod yw’r cyfnod ailfeddwl.

Mae clybiau gwyliau yn debyg iawn i gynhyrchion rhannu amser ond dylech fod yn ymwybodol ei bod yn bosibl na chewch chi’r un amddiffyniad ag a gewch chi ar gyfer rhannu amser.

Os ydych wedi prynu cynllun rhannu amser neu aelodaeth mewn clwb gwyliau a'ch bod yn gweld wedyn nad ydych wedi cael popeth rydych chi wedi talu amdano, mae'n dal yn bosib y gallwch gael eich arian yn ôl, ar yr amod eich bod wedi talu ar gredyd. Os byddwch yn digwydd newid eich meddwl, dydy hyn ddim yn gymwys.

 


"Nôl i'r brig

Did you know

Os prynwch nwyddau ffug ac nac ydynt yn cwrdd â’ch disgwyliadau, ni chewch unrhyw wasanaeth gwerthu na gwarant, Y pethau ffug mwyaf cyffredin yw dillad dyluynwyr, watshis, persawr, DVDs ac alcohol.

Rhagor o Wybodaeth >