Ewch yn syth i'r cynnwys

Tocynnau

Ydych chi’n anfodlon ar docynnau rydych chi wedi’u prynu, neu oes arnoch chi angen ad-daliad? Dysgwch am yr hawliau sydd gennych ar ôl ichi brynu tocyn.

 

Eich hawliau

O ran y gyfraith, mae’n ofynnol i werthwyr tocynnau:

  • roi gwybodaeth am brisiau mewn hysbysebion nad yw’n camarwain ac nad yw’n debyg o gamarwain
  • rhoi gwybodaeth glir, onest a diamwys am brisiau adeg y prynu 
  • cadarnhau lleoliad y seddi
  • anfon y tocynnau mewn pryd ar gyfer y digwyddiad 
  • ad-dalu’r holl arian a dalwyd neu roi dewis arall yn lle digwyddiadau o dan do sy’n cael eu canslo gan hyrwyddwr digwyddiadau neu gynhyrchydd os yw’r tocynnau wedi’u prynu dros y ffôn neu’r rhyngrwyd
  • rhoi gwybodaeth ichi am werth enwol y tocyn. Gall yr wybodaeth yma gael ei rhoi ar lafar neu mewn ysgrifen.

Cofiwch: os ydych chi wedi prynu tocynnau dros y rhyngrwyd, dydy’r hawliau i ganslo sydd gennych wrth brynu nwyddau eraill ddim ar gael ichi. Er hynny, mae gennych chi hawl o hyd i gael ad-daliad os bydd y cyflenwr yn methu cyflawni’r contract.


"Nôl i'r brig

Did you know

Os gwelwch chi nam ar eitem drydan yn y misoedd cyntaf ar ôl ei phrynu, dylech fynd nôl at y manwerthwr a’i gwerthodd i chi (nid at y gweithgynhyrchydd).

Rhagor o Wybodaeth >