Gwystlo
Ydych chi’n ei chael yn anodd talu gwystlwr? Neu efallai eich bod yn anfodlon ar y swm gafodd ei dalu am eich eitem? Darganfyddwch beth i’w wneud nesaf.
Gweler hefyd Os ydych yn meddwl am wystlo i gael cyngor os ydych yn ystyried defnyddio gwystlwr.
- Ar ôl gwystlo eitem
- Os na allwch chi dalu, neu os collwch chi’ch derbynneb
- Os nad ydych yn fodlon ar y pris gafodd ei dalu
- Yr hyn y gall y llysoedd ei benderfynu
Fel rheol, byddwch yn cael eich eitem yn ôl (ei hatbrynu) drwy roi’ch derbynneb wystlo yn ôl a thalu’r hyn sydd arnoch chi o dan y cytundeb credyd. Mae gennych chi chwe mis fel rheol i atbrynu eitem, ond efallai y bydd y gwystlwr yn cytuno ar gyfnod hirach pan fyddwch yn gwneud y cytundeb.
Os na allwch chi dalu, neu os collwch chi’ch derbynneb
- Os collwch chi’ch derbynneb wystlo, gall y gwystlwr wrthod rhoi’r gwystl yn ôl.
- Os na allwch chi dalu’r swm sydd arnoch chi erbyn y dyddiad cau, a’ch bod wedi benthyg £75 neu lai, bydd y gwystlwr yn cadw’ch gwystl.
- Os ydych wedi benthyg mwy na £75, caiff y gwystlwr werthu’r gwystl er mwyn adennill eich dyled. (Chi biau’r gwystl nes iddo gael ei werthu ac mae’n dal yn bosibl ichi ei atbrynu drwy dalu’ch dyled, gan gynnwys y llog sydd wedi cronni.)
- Os na allwch chi dalu’ch dyled a bod y gwystlwr yn gwerthu’r gwystl, fe allai gael ei werthu am lai na’r gwerth roeddech chi’n disgwyl ei gael. Ac os bydd yn codi llai na swm eich dyled, bydd rhaid i chi dalu’r gwahaniaeth.
- Os na allwch chi dalu’ch dyled, ac nad ydych am i’r eitem gael ei gwerthu, efallai y bydd y gwystlwr yn cytuno i adnewyddu’ch benthyciad. Bydd gofyn fel arfer ichi dalu’r llog sydd wedi cronni ar y benthyciad wrth ichi adnewyddu’r benthyciad. Rhaid i’r gwystlwr roi cytundeb arall ichi ('cytundeb diwygio’) pan fyddwch yn adnewyddu benthyciad.
- Os bydd eich gwystl yn gwerthu am fwy na swm eich dyled, fyddwch chi ddim yn cael y gwahaniaeth yn awtomatig - efallai y bydd rhaid ichi ofyn i’r gwystlwr amdano. Ond yn ôl y gyfraith mae’r gwystlwr o dan rwymedigaeth i dalu’r gweddill i chi.
- Os collwch chi’ch derbynneb wystlo, dywedwch wrth y gwystlwr fel na fydd neb arall yn gallu ei defnyddio. Gall y gwystlwr wrthod rhoi’r gwystl yn ôl ond mae’n bosibl y gallwch ei gael yn ôl drwy dalu’ch dyled a llofnodi datganiad sy’n dweud eich bod wedi colli’ch derbynneb wystlo ac mai chi yw’r perchennog. Os ydych chi wedi benthyg mwy na £75, bydd rhaid ichi sicrhau bod Comisiynydd Llwon, Ynad Heddwch neu Notari Cyhoeddus yn ardystio’ch datganiad. Gallwch ddefnyddio cyfreithiwr lleol hefyd, ond efallai y bydd rhaid ichi dalu ffi.
Os nad ydych yn fodlon ar y pris gafodd ei dalu
- Os ydych yn credu bod y pris gafodd ei dalu am y gwystl yn rhy isel neu fod y costau gwerthu’n rhy uchel, siaradwch â’r gwystlwr.
- Os ydych yn dal yn anfodlon, gallwch fynd â’r gwystlwr i lys hawliadau bychain. Mae’n anffurfiol ac yn hawdd ei ddefnyddio: does dim rhaid ichi fynd at gyfreithiwr. Bydd rhaid i’r gwystlwr brofi bod y pris yn un teg a bod y costau gwerthu’n rhesymol, ond mae’n syniad da i chithau sicrhau tystiolaeth sy’n dangos pam nad oedd hynny’n wir.
Ond cofiwch: mae gwerth nwyddau ail-law, hyd yn oed gemwaith, yn llawer llai at ei gilydd na phris eitemau newydd ac yn gallu bod yn llai na’r swm y maen nhw wedi’u hyswirio ar ei gyfer. Ac os cafodd y gwystl ei werthu mewn ocsiwn cyhoeddus, mae’r llysoedd yn debyg o feddwl bod y pris a gododd yn deg, dim ots pa mor isel.
Yr hyn y gall y llysoedd ei benderfynu
Os bydd y gwystlwr yn cadw’ch gwystl heb reswm da a’i fod yn cael ei gollfarnu mewn llys troseddol, mae’n bosibl y bydd y llysoedd yn dyfarnu iawndal ichi (yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon) neu’n gorchymyn iddo gael ei ddychwelyd (yn yr Alban).
Os ewch chi â’r gwystlwr i’r llys, os na fydd y llys yn fodlon bod y gwystlwr wedi gwerthu’r gwystl am bris teg, mae’r llys hefyd yn cael penderfynu ar bris teg ar gyfer yr eitem.
Os ewch chi â’r gwystlwr i’r llys, gall y gyfarwyddo’r gwystlwr i dalu unrhyw log ar y gweddill sydd ar gael ar ôl y gwerthiant – os nad yw’r gwystlwr wedi rhoi’r gweddill i chi yn brydlon.

