Prynu dros y môr
Beth dylech chi ei wneud os cewch chi broblem gyda nwyddau gafodd eu prynu dros y môr? Darllenwch ragor i ddysgu am y sefyllfa gyfreithiol, pwy all helpu, a beth i’w wneud nesaf.
Yn gyffredinol, wrth ichi wneud cwyn ar draws ffiniau, dylech gwyno i ddechrau i’r sawl rydych chi wedi prynu’r nwyddau oddi wrtho.
Os ydych yn dal yn anfodlon ar ôl cwyno i’r masnachwr, cysylltwch â Chyswllt Defnyddwyr i gael cyngor. Fel arall, efallai fod yna gymdeithas fasnach neu gorff arall y gallwch chi droi atyn nhw i gael cymorth. Mae gan rai cymdeithasau masnach godau ymarfer, sy’n eich helpu i weld a yw’r masnachwyr wedi torri rheolau’r gymdeithas.
Gallwch ofyn am gymorth gan gyfreithiwr. Mae rhai cyfreithwyr yn gweithio mewn canolfannau cyfraith neu asiantaethau cynghori sy’n cynnig cyngor am ddim. Mae cyfreithwyr eraill yn cynnig y cyfweliad cyntaf am gost isel – gall swyddfa leol Cyngor ar Bopeth eich helpu i ddod o hyd i un. Mae gennych y dewis hefyd o fynd i’r llys.
Mae’n gallu bod yn anodd ac yn gostus dwyn achos yn erbyn cyflenwr dros y môr, ac mae’n gallu cymryd llawer o amser. Efallai na fydd yn glir o’r wefan ble yn y byd mae canolfan y cyflenwr. Hefyd, efallai bod y contract yn dod o dan gyfraith y wlad lle cafodd y nwyddau eu cyflenwi yn hytrach na’r wlad lle cawson nhw eu prynu, neu hyd yn oed gyfraith rhyw drydedd wlad.
Mae camau cyfreithiol yn gallu cynnwys dechrau achos llys yng ngwlad y cyflenwr. A hyd yn oed os gall yr achos gael ei ddechrau yn y DU, mae’n dal yn bosibl y bydd angen i ddyfarniad sy’n cael ei roi gan lys yn y DU gael ei orfodi yn y wlad arall. Yn y naill achos neu’r llall, efallai na fyddwch yn debyg o gael eich holl gostau cyfreithiol yn ôl gan y cyflenwr.
Ble byddwn i’n dwyn yr achos?
Dylech sicrhau cyngor cyfreithiol, er mwyn cael gweld a oes modd dwyn achos yn llysoedd y DU ynteu a fydd rhaid dwyn achos yn erbyn y cyflenwr yn eu gwlad nhw eu hunain.
Pa gyfraith fydd yn gymwys?
Os bydd prynwr yng Nghymru, er enghraifft, yn prynu nwyddau dros y rhyngrwyd gan gyflenwr yn Ffrainc, yna mae’n dal yn bosibl mai cyfraith Cymru a Lloegr fydd yn gymwys, oni bai bod rhyw gyfraith arall wedi’i dewis a dylai hynny gael ei ddatgan yn nhelerau ac amodau’r contract (drwy gyfrwng cymal yn y contract ei hun fel arfer). Hyd yn oed os yw’r contract yn dweud y bydd cyfraith gwlad benodol yn gymwys, mae’n dal yn bosibl y bydd gennych rai hawliau statudol arferol o dan gyfraith y DU. Dylech sicrhau cyngor cyfreithiol ynghylch pa gyfraith fydd yn gymwys yn eich achos penodol chi.
Gweler hefyd Siopa ar-lein – Problemau gyda gwerthwyr dros y môr os prynsoch chi’r nwyddau ar-lein.

