Gwasanaethau cyfreithiol
Beth gallwch chi ei wneud os nad ydych yn fodlon ar y gwasanaeth sydd wedi’i roi gan eich cynghorwyr cyfreithiol? Darganfyddwch a ydyn nhw wedi’u rheoleiddio gan gorff proffesiynol, ac a oes gennych chi hawl i gael yswiriant neu iawndal.
Gweler hefyd Os ydych yn meddwl am wasanaethau cyfreithiol i gael gwybodaeth a chyngor am ddewis gwasanaethau cyfreithiol.
- Beth gallwch chi ei wneud os aiff rhywbeth o’i le, neu os nad ydych yn fodlon ar y gwasanaeth?
- Nodyn arbennig am ddefnyddio cyfreithiwr neu drawsgludwr trwyddedig
Beth gallwch chi ei wneud os aiff rhywbeth o’i le, neu os nad ydych yn fodlon ar y gwasanaeth?
Ydy’r cynghorydd proffesiynol wedi’i reoleiddio gan gorff proffesiynol? (Er enghraifft, mae cyfreithwyr yn cael eu rheoleiddio gan Gymdeithas y Cyfreithwyr.) Os ydy, yna mae’n rhaid iddo gael gweithdrefn gwyno glir. Os nad ydych yn fodlon ar wasanaeth eich cynghorydd cyfreithiol, dylech ysgrifennu at y cynghorydd cyfreithiol i ddechrau - efallai y gall gywiro pethau heb fod angen i ragor o gamau gael eu cymryd. Os na fydd hyn yn helpu, gwnewch gŵyn ffurfiol, mewn ysgrifen, i’r partner sy’n gyfrifol am gwynion. Os na fyddwch yn fodlon ar yr ymateb, yna dylech gysylltu â’r corff proffesiynol.
Os nad ydych chi’n siŵr a ydy’r cynghorydd cyfreithiol yn cael ei reoleiddio gan gorff proffesiynol, does dim byd o’i le ar ofyn.
Sylwch: Nid pob cynghorydd cyfreithiol sy’n cael ei reoleiddio gan gorff proffesiynol. Os nad ydyn nhw’n cael eu rheoleiddio, efallai na fydd gan y ffyrm weithdrefn gwyno na ffordd i wneud iawn os aiff rhywbeth o’i le.
Enghreifftiau o gynghorwyr sy’n cael eu rheoleiddio
- Cyfreithwyr
- Bargyfreithwyr
- Trawsgludwyr trwyddedig
- Gweithredwyr cyfreithiol
Enghreifftiau o gynghorwyr nad ydyn nhw’n cael eu rheoleiddio
- Rheolwyr ceisiadau
- Ysgrifenwyr ewyllysiau
- Asiantaethau cynghori (e.e. Cyngor ar Bopeth)
- Cynghorwyr ar y gyfraith gyflogaeth
Rhaid i gynghorwyr wedi’u rheoleiddio gael yswiriant indemniad. Mae hynny’n golygu bod ganddyn nhw yswiriant i sicrhau ad-daliad ichi os byddwch yn colli arian am eu bod nhw ar fai. Hefyd, mae gan gyfreithwyr a thrawsgludwyr trwyddedig gronfa i’ch ad-dalu os cymeran nhw arian rydych chi wedi’i adneuo gyda nhw. Efallai na fydd yswiriant na chronfa iawndal gan gynghorwyr cyfreithiol eraill.
Nodyn arbennig am ddefnyddio cyfreithiwr neu drawsgludwr trwyddedig
Os ydych yn anfodlon ar wasanaeth eich cyfreithiwr neu’ch trawsgludwr trwyddedig ac nad ydych am dalu amdano neu os hoffech symud at gynghorydd cyfreithiol arall, yna mae gan y cyfreithiwr neu’r trawsgludwr trwyddedig hawl gyfreithiol i wrthod rhyddhau’ch dogfennau nes ichi dalu’r costau hyd yn hyn. Yr enw ar hyn yw lien y cyfreithiwr.

