Gwyliau a theithio
Os cewch chi broblem ar ôl ichi dalu am eich gwyliau, mae’n bwysig gwybod â phwy y dylech chi siarad er mwyn sicrhau iawndal neu yswiriant. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cwyno ar unwaith os nad oedd eich gwyliau’n cyd-fynd â’r disgrifiad.
Gwyliau a theithio
Dylai mynd ar eich gwyliau fod yn hwyl a hamddenol - ond os aiff rhywbeth o’i le, mae’n gallu bod yn stori hollol wahanol. Felly, byddwch yn ofalus wrth ddewis gwyliau, a byddwch yn ymwybodol o’ch hawliau cyn teithio.
Dewis eich gwyliau
Dewiswch asiantaethau a gweithredwyr teithio sy’n perthyn i gymdeithas fasnach gydnabyddedig ac sydd â chod ymarfer. Chwiliwch am ABTA (Cymdeithas Asiantaethau Teithio Prydain) neu AITO (Cymdeithas Gweithredwyr Teithio Annibynnol) ar daflenni gwybodaeth neu anfonebau.
Gwyliau Parod
Mae gwyliau parod yn cynnwys o leiaf dau o’r canlynol i greu cyfuniad sydd wedi ei drefnu o flaen llaw:
cludiant
llety
gwasanaethau arwyddocaol eraill i dwristiaid (megis gwibdeithiau rydych yn talu amdanynt wrth archebu eich gwyliau)
caiff y gwyliau ei werthu am bris cynhwysol ac mae’n cynnwys cyfnod o fwy na 24 awr (neu’n cynnwys llety dros nos).
Yn ogystal, mae gweithredwyr teithio yn gyfrifol am sicrhau bod y gwyliau cyfan yn cael eu cyflenwi fel y’u haddawyd - hyd yn oed os caiff rhan o’r gwyliau eu cyflenwi gan ddarparwr arall, megis cwmni hedfan. Golyga hyn, er enghraifft, os oes yna broblem gyda’ch gwesty neu’ch awyren, gan gynnwys os yw’r cwmni hedfan yn methu, y bydd hi’n bosibl i chi hawlio yn erbyn eich gweithredwr teithio.
Wrth brynu gwyliau mae’n bosibl y byddwch yn cael cynnig yswiriant teithio ond nid oes rhaid i chi ei brynu. Mae’n bosibl bod gennych chi yswiriant teithio blynyddol yn barod, neu eich bod yn dymuno prynu yswiriant teithio oddi wrth rywun arall neu nad ydych eisiau prynu yswiriant teithio o gwbl. Nid oes hawl gan asiantaethau teithio a gweithredwyr teithio godi pris gwahanol neu ofyn am daliad ychwanegol os nad ydych yn prynu yswiriant gwyliau oddi wrthynt.
Diogelwch ariannol
Rhaid i bob gweithredwr teithio a threfnydd gwyliau sy’n gwerthu gwyliau a chludiant mewn awyren fod yn rhwym neu ddiogelu’r rhagdaliadau sydd ganddynt. Felly, os yw’r cwmni’n methu cyn i chi deithio, dylech chi gael eich arian yn ôl neu, os rydych eisoes wedi mynd, byddwch yn gallu parhau â’ch gwyliau a dychwelyd adref heb orfod talu unrhyw beth ychwanegol.
Rhaid i bob gweithredwr teithio a threfnydd gwyliau sy’n gwerthu gwyliau a chludiant mewn awyren ddiogelu eu cwsmeriaid trwy ddal ATOL (Trwydded Trefnwyr Teithio Awyr) gan yr Awdurdod Hedfan Sifil. Caiff gwyliau sy’n defnyddio dulliau eraill o gludiant eu diogelu gan ystod o sefydliadau, gan gynnwys ABTA ac AITO. Anfoneb eich gweithredwr teithio yw eich prawf o ddiogelwch ATOL, felly cadwch yr anfoneb yn ddiogel ac ewch â hi gyda chi er mwyn profi eich bod yn cael eich diogelu.
Teithwyr annibynnol
Mae’n gynyddol boblogaidd i bobl sy’n mynd ar eu gwyliau drefnu’r gwyliau eu hunain, gan gyfuno taith ar awyren gyda llety maen nhw wedi dod o hyd iddo ar y we. Mae gwneud trefniadau o’r fath yn gallu bod yn ffordd ratach o drefnu gwyliau addas ar gyfer eich anghenion, ond rhaid i deithwyr annibynnol fod yn ymwybodol nad ydynt yn cael eu diogelu yn yr un ffordd â phobl ar wyliau parod. Os yw’r cwmni hedfan neu’r gwesty’n methu, ni fydd trefniadau gwahanol yn cael eu gwneud ar eich rhan ac mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi ddod o hyd i westy arall neu deithio ymhellach ar ddechrau a diwedd eich gwyliau. Bydd yn rhaid i chi wneud y trefniadau hyn eich hunan ac nid yw’n debygol y cewch iawndal. Rhaid cysylltu â chyflenwr y gwasanaeth yn uniongyrchol er mwyn delio ag unrhyw broblemau.
Os bydd y cwmni hedfan perthnasol yn methu, mae’n bosibl y cewch ad-daliad rhannol neu lawn os archeboch chi eich taith awyren wreiddiol gyda chwmni gwahanol i’r cwmni hedfan rydych yn teithio gydag ef.
Cysylltwch â nhw cyn prynu tocynnau newydd neu os taloch chi â cherdyn credyd. Os taloch chi arian i gwmni hedfan sydd yn nwylo’r gweinyddwyr, gallwch geisio hawlio’ch arian yn ôl oddi wrth y gweinyddwr penodedig. Gallwch gael eu manylion o wefan y cwmni hedfan neu gan y Cyngor Defnyddwyr Cludiant Awyr. Am fwy o wybodaeth ar yr hyn ddylech ei wneud pan fo cwmni yn nwylo’r gweinyddwyr, cliciwch ar y ddolen hon.
Dylai teithwyr annibynnol ddarllen cynnwys eu hyswiriant i weld sut y byddent yn cael eu diogelu yn sgil methiant un o’u trefniadau unigol.
Mae rhai polisïau yn cynnwys methiant cwmnïau hedfan, fel arfer trwy gynnwys Yswiriant Methiant Cwmnïau Hedfan Rhestredig (SAFI). Fodd bynnag, nid yw pob polisi yn cynnwys SAFI ac mae rhai darparwyr yswiriant yn eithrio rhai cwmnïau hedfan penodol felly mae’n werth darllen amodau a thelerau eich polisi.
Talu am eich gwyliau
Mae yna fanteision i dalu am eich gwyliau â cherdyn credyd. Os yw’r gwyliau’n siomi oherwydd nad oeddent wedi cael eu disgrifio’n gywir neu os na wnaethoch gael yr hyn y gwnaethoch dalu amdano, mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio yn erbyn eich cwmni cerdyn credyd yn ogystal â’r gweithredwr teithio os cafodd y contract ei lunio yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban. Cyfeiriwch at Wedi prynu ar gredyd? am fwy o fanylion.
Golyga penderfyniad llys a wnaed ym mis Hydref 2007 fod mwyafrif y taliadau a wneir â chardiau credyd yn uniongyrchol i gyflenwyr tramor yn cael eu hymgorffori gan adran 75 Deddf Credyd Defnyddwyr 1974 sy’n gwneud y cwmni cerdyn credyd yn gyfartal atebol am nwyddau a gwasanaethau o ansawdd isel.
Golyga hyn y gallwch hawlio oddi wrth eich cwmni cerdyn credyd mewn rhai achosion, os aiff pethau o chwith. Mae’n bosibl y bydd rhai cwmnïau cardiau credyd yn barod i barhau i anrhydeddu adran 75 ar sail gyfyngedig ac felly awgrymwn eich bod yn cysylltu â’r cwmni i weld a fyddant yn gyfrifol am daliadau sy’n cael eu gwneud i gyflenwyr tramor, cyn talu â cherdyn credyd.

