Dodrefn
Os nad ydych yn fodlon ar ddodrefnyn neu gelficyn rydych chi wedi’i brynu, mae gennych chi hawliau penodol. Os nad yw’r dodrefn yn bodloni amodau penodol, gall fod gennych chi hawl i gael ad-daliad, atgyweiriad neu ddodrefnyn arall yn ei le.
- Eich hawliau
- Pethau pwysg i’w cadw mewn cof
- Os aiff rhywbeth o’i le
- Ombwdsmon Dodrefn – Safonau Dodrefn
Rhaid i ddodrefn fod o ansawdd foddhaol, yn addas at ei ddiben a chyd-fynd â’r disgrifiad. Pan na fydd dodrefn yn bodloni rhai neu’r cyfan o’r amodau hyn:
Os mai dim ond ers ychydig wythnosau mae’r dodrefn gennych chi neu os nad ydych chi wedi cael cyfle rhesymol i edrych arno, mae’n debyg bod gennych chi hawl i gael ad-daliad ar gyfer nam neu ddisgrifiad gwael, neu fel arall gallech ofyn am un arall yn ei le.
-
Os mai mân wall yn unig sydd yna a bod modd ei gywiro’n hawdd, fe allai fod yn rhesymol derbyn atgyweiriad. Fydd hynny ddim yn eich atal rhag hawlio un newydd neu ad-daliad os yw’r gwaith trwsio yn anfoddhaol wedyn, yn cymryd gormod o amser neu’n achosi anghyfleuster arwyddocaol.
-
Os yw’r dodrefn gennych chi ers mwy nag ychydig wythnosau neu os ydych chi wedi cael cyfle rhesymol i edrych arno, mae’n dal yn debyg y bydd gennych chi hawl i gael ei drwsio neu i gael un arall. Dylai’r gwaith trwsio gael ei wneud o fewn cyfnod rhesymol o amser a heb beri anghyfleuster arwyddocaol ichi. Dylai unrhyw waith trwsio adfer y dodrefn i gyflwr boddhaol. Os nad yw hynny’n digwydd, mae gennych hawl i gael un newydd neu iawndal. Gallai hynny fod yn swm o arian neu gost cael rhywun arall i drwsio’r dodrefn.
-
Os nad oes modd cael dodrefn newydd neu os nad yw’n ddarbodus trwsio’r dodrefn, mae gennych hawl i gael ad-daliad. Gall y masnachwr dynnu swm rhesymol oddi ar y pris a daloch chi, i ganiatáu am y defnydd gawsoch chi ar y dodrefn.
- Os ydych chi ar eich colled mewn unrhyw ffordd arall, efallai fod gennych hawl i gael iawndal yn ychwanegol at bris y dodrefn.
Y masnachwr sy’n gorfod datrys eich problem, nid y gweithgynhyrchydd
Cofiwch: os oes gennych hawl i gael ad-daliad, dodrefn newydd, atgyweiriad neu iawndal, y masnachwr sy’n gorfod datrys eich problem. Chaiff y masnachwr ddim dweud wrthych am fynd yn ôl at y gweithgynhyrchydd.
Pethau pwysg i’w cadw mewn cof
-
Os ydych chi wedi prynu ar gredyd, efallai y gallwch wneud cais yn erbyn y cwmni cyllid. Gweler Prynu ar gredyd? i gael rhagor o wybodaeth.
-
Os oes nam sy’n codi o’r ffordd y mae’r dodrefn wedi’i ffitio, mae’r masnachwr a werthodd y dodrefn ichi yn gyfrifol os oedd y gwaith ffitio yn rhan o’r fargen. Fel arall, gwnewch gais yn erbyn y ffitiwr.
-
Os ydych wedi dewis y maint anghywir, neu wedi rhoi’r mesuriadau anghywir, does dim hawliau gennych.
-
Os ydych wedi newid eich meddwl, does dim hawliau gennych.
-
Er hynny, mae gennych chi saith diwrnod gwaith i ganslo contract am nwyddau sydd wedi’u harchebu dros y ffôn, drwy’r post, yr e-bost neu’r ffacs, ac eithrio’r nwyddau hynny sy’n cael eu gwneud yn unswydd ar gyfer eich archeb chi. Gweler Dychwelyd neu ganslo archebion i gael rhagor o wybodaeth.
-
Os oes problem yn codi am eich bod wedi methu â dilyn y cyfarwyddiadau ar label y gweithgynhyrchydd i ofalu am y dodrefn, does dim hawliau gennych.
-
Os ydych wedi dewis dodrefn sy’n rhy fawr neu’n rhy fach i’r ystafell, does dim hawliau gennych.
-
Rhaid i bob dodrefn clustogog, gan gynnwys dodrefn ail-law, fodloni’r safonau atal tân.
- Dydy traul deg ddim yn nam.
Os penderfynwch chi fod problem gyda’r dodrefn rydych chi wedi’i brynu, gwnewch y canlynol.
-
Os gallwch chi, stopiwch ddefnyddio’r dodrefn.
- Chwiliwch am eich prawf prynu. Os nad oes derbynneb gennych, gallwch ddefnyddio taleb cerdyn credyd neu fonyn siec. Efallai y bydd nwyddau penodol y siop, rhywbeth sy’n unigryw i un siop neu’r pecyn yn profi ble cafodd yr eitem ei phrynu. Os oedd rhywun arall gyda chi wrth ichi ei phrynu, fe allan nhw’ch cefnogi. Cofiwch: chi sy’n gorfod dangos ble cafodd y dodrefn ei brynu a pha bryd.
Nawr bydd angen ichi gysylltu â’r masnachwr ar unwaith a dweud am y broblem. Os yw’r dodrefn wedi’i brynu’n lleol, ewch i weld y masnachwr. Ewch ag unrhyw brawf prynu gyda chi. Os na fydd hyn yn llwyddo, gall fod angen ichi ystyried ysgrifennu at y masnachwr. Gweler Gwneud cwyn i gael rhagor o wybodaeth.
Ombwdsmon Dodrefn – Safonau Dodrefn
Mae’r corff safonau annibynnol ym maes dodrefn a gorchuddion llawr (gan gynnwys ceginau ac ystafelloedd ymolchi), sef yr Ombwdsmon Dodrefn, yn darparu gwasanaeth datrys anghydfodau ac mae’n gallu archwilio cynhyrchion ar y safle. Mae manylion llawn eu gwasanaeth, gan gynnwys rhestr o’r aelodau cyfredol, ar gael ar wefan yr Ombwdsmon Dodrefn.

