Offer trydan a nwy
Os ydych wedi prynu offeryn trydan neu nwy, ac nad ydych yn fodlon arno, efallai bod gennych chi hawl i gael atgyweiriad, ad-daliad neu offeryn arall yn ei le.
Os ydych wedi prynu offeryn trydan neu nwy, rhaid iddo fod o ansawdd foddhaol, yn addas at ei ddiben ac yn cyd-fynd â’r disgrifiad.
Os nad yw eitem yn bodloni un neu rai o’r amodau yma:
-
Os mai dim ond ambell waith rydych chi wedi’i ddefnyddio neu os nad ydych chi wedi cael cyfle rhesymol i edrych arno, mae’n debyg bod gennych chi hawl i gael ad-daliad ar gyfer nam neu ddisgrifiad gwael, neu fel arall gallech ofyn am un arall yn ei le.
-
Os mai mân wall yn unig sydd yna a bod modd ei gywiro’n hawdd, mae’n rhesymol derbyn atgyweiriad. Fydd hynny ddim yn eich atal rhag hawlio un newydd neu ad-daliad os yw’r gwaith trwsio yn anfoddhaol wedyn.
-
Os ydych chi wedi’i ddefnyddio mwy nag ambell waith neu os ydych chi wedi cael cyfle rhesymol i edrych arno, mae’n dal yn debyg y bydd gennych chi hawl i gael ei drwsio neu i gael un arall. Dylai’r gwaith trwsio gael ei wneud o fewn cyfnod rhesymol o amser a heb beri anghyfleuster arwyddocaol ichi. Dylai unrhyw waith trwsio adfer yr offeryn i gyflwr boddhaol. Os nad yw hynny’n digwydd, mae gennych hawl i gael un newydd neu iawndal. Gallai hynny fod yn swm o arian, neu gost llogi offeryn arall dros dro, neu efallai rhoi benthyg offeryn arall yn ei le.
-
Os nad oes modd cael offeryn newydd neu os nad yw’n ddarbodus trwsio’r offeryn, mae gennych hawl i gael ad-daliad. Gall y masnachwr dynnu rhywfaint oddi ar y pris a daloch chi, i ganiatáu am y defnydd gawsoch chi ar y nwyddau.
- Os yw’r nwyddau wedi difrodi unrhyw beth arall, neu os ydych chi wedi colli arian mewn rhyw fodd arall, efallai y bydd gennych chi hawl i gael iawndal yn ychwanegol at bris y nwyddau gwreiddiol.
Y masnachwr sy’n gorfod datrys eich problem, nid y gweithgynhyrchydd
Cofiwch: os oes gennych hawl i gael ad-daliad, offeryn newydd, atgyweiriad neu iawndal, y masnachwr sy’n gorfod datrys eich problem. Chaiff y masnachwr ddim dweud wrthych am fynd yn ôl at y gweithgynhyrchydd.
Pethau pwysg i’w cadw mewn cof
-
Os ydych chi wedi prynu ar gredyd, efallai y bydd modd gwneud cais yn erbyn y cwmni cyllid. Gweler Prynu ar gredyd? i gael rhagor o wybodaeth
-
Mae gennych chi saith diwrnod gwaith i ganslo contract am nwyddau sydd wedi’u harchebu dros y ffôn, drwy’r post, y rhyngrwyd, yr e-bost neu’r ffacs, ac eithrio’r nwyddau hynny sy’n cael eu gwneud yn unswydd ar gyfer eich archeb chi. Gweler Dychwelyd neu ganslo archebion i gael rhagor o wybodaeth.
-
Mae angen defnyddio unrhyw nwyddau trydan ac unrhyw offer nwy a gofalu amdanyn nhw yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau.
-
Dydy traul deg ddim yn nam.
-
Os oes nwy yn gollwng, dylech roi gwybod ar unwaith i Transco ar 0800 111 999.
- Am resymau diogelwch, dylai pob offeryn nwy gael ei osod gan osodwr cofrestredig yn unig, sef gosodwr sydd wedi’i gofrestru gan Corgi o bosibl.
Os penderfynwch chi fod problem gyda’r offeryn rydych chi wedi’i brynu, gwnewch y canlynol.
-
Os gallwch chi, stopiwch ddefnyddio’r offeryn ar unwaith.
-
Gwnewch yn siŵr fod yna nam mewn gwirionedd – darllenwch y cyfarwyddiadau yn ofalus.
-
Gwnewch yn siŵr nad yw’r nam wedi’i achosi drwy gamddefnyddio’r offeryn, drwy ddamwain neu drwy beidio â dilyn y cyfarwyddiadau.
-
Os gallwch chi, casglwch unrhyw gyfarwyddiadau, taflenni, pecyn etc a ddaeth gyda’r nwyddau. Paciwch y cyfan gyda’r nwyddau.
- Chwiliwch am eich prawf prynu. Os nad oes derbynneb gennych, gallwch ddefnyddio cyfriflen cerdyn credyd neu fonyn siec. Efallai y bydd nwyddau penodol y siop, rhywbeth sy’n unigryw i un siop (fel bag pwrpasol) neu’r pecyn yn profi ble cafodd yr eitem ei phrynu. Os oedd rhywun arall gyda chi wrth ichi ei phrynu, fe allan nhw’ch cefnogi. Cofiwch: chi sy’n gorfod dangos ble cafodd y nwyddau eu prynu a pha bryd.
Nawr bydd angen ichi gysylltu â’r masnachwr ar unwaith a dweud am y broblem. Os yw’r nwyddau wedi’u prynu’n lleol, ewch i weld y masnachwr. Ewch â’r eitem, y pecyn (os oes modd) ac unrhyw brawf prynu gyda chi. Os na allwch chi fynd â’r nwyddau nôl i’r siop, ffoniwch y masnachwr neu ysgrifennwch ato. Gweler Gwneud cwyn i gael rhagor o wybodaeth am gwyno dros y ffôn neu mewn ysgrifen.

